Dylunio a gweithgynhyrchu prosthesisau symudadwy rhannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar ddylunio a gweithgynhyrchu prosthesisau symudadwy rhannol gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol; dyfeisiau deintyddol a wneir yn bwrpasol i ffitio siâp ceg unigryw'r unigolyn ac sy'n disodli un neu fwy o ddannedd coll. Mae'r prosthesis yn cynnwys un neu fwy o'r ffactorau canlynol:
- dull dargadw
- estheteg
- yr achludiad a sefydlwyd
- y gofyniad am fân argáu
- ailosod dant yn syth.
Gall y prosthesisau symudadwy rhannol gael eu gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau polymerig, o bolymerig gyda rhai elfennau metelig, fel gafaelynnau neu gysylltion cywrain ar gyfer dargadw'r cyferpyn, neu o fframwaith aloi metelig y mae'r dannedd artiffisial wedi'u plannu mewn acrylig sy'n cael ei ddal yn ei le ar y fframwaith. Dylai prosthesis rhannol adfer golwg naturiol o ran lliw, siâp a maint; ffitio ceg yr unigolyn yn gyfforddus, cael ei gadw yn ei le yng ngheg yr unigolyn ac ni ddylai bwyd allu casglu ynddo.
Er mwyn gweithgynhyrchu prosthesis sy'n bodloni'r gofynion esthetig a swyddogaethol hyn, bydd angen cast neu gynrychiolaeth ddigidol gywir, cofnod cywir o'r berthynas rhwng yr ên uchaf ac is a chofnod o liw dannedd yr unigolyn arnoch. Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r prosthesis a wneir yn bwrpasol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y ddyfais ddeintyddol a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r prosthesisau symudadwy rhannol
- cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
- dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
- gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
- gweithgynhyrchu'r prosthesisau symudadwy rhannol gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
- monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen
- tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
- gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
- cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol
- yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
- strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
- anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
- morffoleg dannedd a ffurf y dannedd blaen ac ôl
- etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
- y newidiadau ffisolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
- pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
- y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg.
- yr ymateb emosiynol gan yr unigolyn i golli dannedd
- rôl prosthesisau symudadwy wrth adfer a chynnal a chadw:
- ategiad meinweoedd
- estheteg
- seineg
- swyddogaeth achludiad a'r cymal arlais-fandiblol
- pwysigrwydd adfer a chynnal a chadw'r dimensiwn fertigol achludol
- buddion a chyfyngiadau ailosod dannedd yn syth wrth ddarparu prosthesisau symudadwy
- buddion a chyfyngiadau cadw adeileddau gwreiddiau wrth ddarparu prosthesisau symudadwy
- y defnydd o brosthesisau symudadwy dros dro
- y cysyniadau modern ar gyfer defnyddio leininau hydwyth a chyflyryddion meinwe
- cyfyngiadau dylunio tandoriadau blaen mawr a chyflyrau deintyddol sydd eisoes yn bodoli.
- egwyddorion ac ymarfer:
- dargadwad a sefydlogrwydd
- estheteg a seineg
- argysylltiad
- egwyddorion dyluniad prosthesis symudadwy rhannol
- dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
- priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau
- cynnyrch a ddefnyddir ar gyfer gweithgynhyrchu castiau a mowldiau neu gynrychiolaeth ddigidol
- cwyrau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu prosthesisau symudadwy
- polymerau deintyddol
- nodweddion strwythurol cadwyni polymer
- polymerau sylfaen dannedd gosod
- aloiau deintyddol
- deunyddiau dannedd artiffisial
- deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
- dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
- dulliau o reoli haint wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg
- y rhesymau dros gynnal cofnodion trwy gydol y broses a nodi'r cynnyrch a ddefnyddiwyd yn ystod y broses weithgynhyrchu yn glir
- egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
- dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
- effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
- yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
- dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
- dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
- dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel