Cynhyrchu dyfeisiau penodol a wnaed yn bwrpasol ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu prosthesisau symudadwy

URN: SFHOH15
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar baratoadau ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu prosthesisau symudadwy cyflawn a rhannol. Bydd angen i chi baratoi a chynnal a chadw amgylcheddau, deunyddiau a chyfarpar ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu'r prosthesis; cynhyrchu castiau gwaith a chafnau a wnaed yn bwrpasol, cafnau cannu, stentiau, platiau sylfaen a rhimynnau cofnodi achludol.

Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r prosthesis a wneir yn bwrpasol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y ddyfais ddeintyddol a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys 
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  6. adolygu'r presgripsiwn a'r contract a nodi'r deunyddiau a'r cyfarpar y bydd eu hangen yn gywir
  7. asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â mynd ati i ddylunio a gweithgynhyrchu prosthesis a wnaed yn bwrpasol
  8. defnyddio dulliau a systemau gweithio trwy gydol y broses sydd:

    • yn lleihau risg haint a halogiad
    • yn gyson â'r risgiau a aseswyd 
  9. cadarnhau bod cyflwr yr amgylchedd lle gwneir y gwaith yn barod i'w ddefnyddio a chymryd unrhyw gamau adferol angenrheidiol

  10. dewis y math cywir a faint o ddeunyddiau y bydd eu hangen
  11. cadarnhau bod y cyfarpar gofynnol yn: lân, yn gweithio'n gywir ac wedi'i osod yn gywir
  12. symud a thrafod cyfarpar a deunyddiau yn briodol ac yn ddiogel, yn gyson â gofynion cyfreithiol a sefydliadol presennol
  13. dewis deunydd a gwneud cast sy'n gallu bodloni gofynion technegol yr achos
  14. gwerthuso'r castiau neu'r wybodaeth ddigidol i benderfynu beth y mae angen ei gynnwys yn nyluniad rhimynnau cofnodi achludol, cafnau a wnaed yn bwrpasol, stentiau neu gafnau cannu
  15. cymhwyso deunyddiau cynnal bwlch priodol i'r cast neu greu gwybodaeth ddigidol i:

    • ddileu tandoriadau
    • darparu'r bwlch cywir ar gyfer y deunydd argraff neu'r dull defnyddio mewn stent neu gafn cannu, fel y dewisodd y cleient 
  16. cymhwyso cyfrwng gwahanu i'r cast sy'n briodol i ddeunydd y cast a'r dull prosesu a ddefnyddir

  17. dewis deunyddiau sy'n briodol i natur a gofynion adeiladu'r ddyfais benodol a wneir yn bwrpasol
  18. paratoi'r ddyfais benodol a wneir yn bwrpasol yn y modd cywir ac yn unol â'r dyluniad, y nifer a'r ansawdd penodedig
  19. prosesu deunyddiau gan ddefnyddio'r dull cywir ar gyfer y deunydd dan sylw
  20. cadarnhau bod y ddyfais benodol yn cydymffurfio â'r presgripsiwn
  21. ar ôl derbyn cafn pwrpasol yr argraff neu'r wybodaeth ddigidol briodol, pennu gofynion y presgripsiwn yn gywir o'r wybodaeth sydd ar gael
  22. sicrhau bod yr argraff sy'n dod i law wedi cael ei glanhau'n effeithiol, cadarnhau nad oes ganddi unrhyw wagleoedd neu ddiffygion sy'n peri ei bod yn annerbyniol a'i pharatoi'n briodol i dderbyn deunydd y cast
  23. rhoi gwybod i'r cleient yn briodol os nad yw ansawdd yr argraff yn ddigonol a chael argraff newydd
  24. paratoi a chastio'r argraff
  25. naddu'r cast yn unol â gofynion y presgripsiwn
  26. nodi cyfeiriad unigol unigryw ar y castiau
  27. archwilio'r cast i nodi safle a maint tandoriadau, pennu llwybr gosod priodol ar gyfer y prosthesis arfaethedig a blocio unrhyw dandoriadau anaddas
  28. gwirio'r ddyfais benodol orffenedig a wnaed yn bwrpasol i gadarnhau ei bod yn addas i'w diben
  29. glanhau'r ddyfais benodol a wnaed yn bwrpasol yn effeithiol, nodi cyfeirnod unigryw'r unigolyn, cais y presgripsiwn a'r dyddiad cynhyrchu arno'n gywir, a'i pharatoi a'i phecynnu'n ddiogel i'w hanfon at y cleient ar yr amser y cytunwyd arno
  30. storio'r ddyfais bwrpasol a wnaed yn bwrpasol mewn modd ac mewn man diogel a phriodol pan na chaiff ei defnyddio
  31. darparu dogfennau ffurfiol ar gyfer y ddyfais, fel y bo'r gofyn, o dan reoliadau presennol
  32. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  33. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
  10. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  11. effaith ffurf ysgerbydol a pherthnasoedd gwrymiau ar swyddogaeth, dyluniad a gweithgynhyrchu prosthesisau symudadwy cyflawn a rhannol
  12. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  13. egwyddorion ac ymarfer:

    • dargadwad a sefydlogrwydd
    • dylunio cafnau cannu neu stentiau
    • estheteg a seineg
    • argysylltiad 
  14. dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol

  15. gweithgynhyrchu castiau a mowldiau
  16. egwyddorion a defnyddio dylunio a gweithgynhyrchu digidol
  17. cwyrau a defnyddiau tebyg a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu prosthesisau symudadwy
  18. polymerau deintyddol
  19. deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
  20. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  21. pwysigrwydd cyfathrebu ag unigolion yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt, gan gynnal eu hurddas a'u dewis 
  22. dulliau o reoli haint wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg
  23. y rhesymau dros gynnal a chadw cofnodion trwy gydol y broses a nodi'r cynnyrch yn glir yn ystod y broses weithgynhyrchu
  24. gweithdrefnau a gofynion sefydliadol ar gyfer cofnodi gwybodaeth am waith sy'n cyrraedd, gwaith sy'n mynd rhagddo a gwaith a gyflwynwyd i gleientiaid, a diben hyn
  25. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  26. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  27. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
  28. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
  29. dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
  30. dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
  31. dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
  32. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  33. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH15

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Dyfeisiau, a wnaed yn bwrpasol, prosthesis, symudadwy