Asesu a chynghori ar hyfywedd bodloni gofynion cleientiaid am ddyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol

URN: SFHOH14
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio adolygu presgripsiynau a chyfarwyddiadau cleientiaid iddynt, gan nodi gofynion y cleient ac asesu a chynghori ar hyfywedd bodloni gofynion y cleient. Gallech fod yn ymgymryd â'r gwerthusiad hwn ar adegau amrywiol yn ystod y broses weithgynhyrchu, er enghraifft adeg derbyn presgripsiwn neu gais yn y lle cyntaf.

Byddwch yn gweithio ar lefel cyfrifoldeb lle byddwch yn gwneud penderfyniadau ar ran eich sefydliad am hyfywedd gwneud dyfeisiau a, hefyd, gallu'r sefydliad yn dechnegol a'i allu i gynhyrchu. 

Bydd angen i chi gyfathrebu â'r cleient lle nad oes digon o wybodaeth i wneud penderfyniad arni, neu pan fydd pryder am hyfywedd bodloni ei anghenion. Y clinigwr bob amser fydd yn atebol am y broses gyfan o asesu a chynllunio triniaeth er, y sawl sy'n asesu hyfywedd bodloni gofynion y cleient sy'n gyfrifol am ansawdd y wybodaeth a'r cyngor y mae'n ei ddarparu. 

Bydd angen i chi baratoi amgylcheddau, deunyddiau a chyfarpar yn barod ar gyfer adolygu contractau cleient, p'un a fydd hyn adeg eu derbyn yn y lle cyntaf neu wrth eu dychwelyd i'r labordy. Bob tro y derbynnir gwybodaeth, bydd angen gwerthuso neu ailwerthuso gofynion y cleient i gadarnhau natur y cais, ansawdd y wybodaeth a ddarparwyd a'r graddau y mae'r wybodaeth yn ddigonol i'ch galluogi chi i fwrw ymlaen â'r dylunio a'r gweithgynhyrchu. Yn dibynnu ar ba ddyfais ddeintyddol a wnaed yn bwrpasol fydd yn cael ei gwneud, gall castiau fynd ymlaen i fod yn gasgiau gweithio neu gall fod angen gwneud castiau pellach.

Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r ddyfais ddeintyddol a wneir yn bwrpasol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y ddyfais ddeintyddol a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. adolygu'r presgripsiwn a'r contract a nodi'r deunyddiau a'r cyfarpar y bydd eu hangen yn gywir
  8. asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â mynd ati i weithgynhyrchu dyfais ddeintyddol a wnaed yn bwrpasol a chymryd camau priodol i unioni unrhyw risg
  9. dewis y math cywir a faint o ddeunyddiau y bydd eu hangen
  10. cadarnhau bod y cyfarpar gofynnol yn gweithio'n gywir
  11. symud a thrafod cyfarpar a deunyddiau yn briodol ac yn ddiogel, yn gyson â gofynion cyfreithiol a sefydliadol presennol
  12. cofnodi ceisiadau am ddyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol, a'r manylebau, yn gyson â gofynion cyfreithiol a sefydliadol record
  13. sicrhau bod yr argraff wedi'i lanhau'n effeithiol cyn gwerthuso ei addasrwydd
  14. asesu eglurder y wybodaeth a gafwyd gan y cleient er mwyn gweithgynhyrchu'r ddyfais ddeintyddol
  15. asesu ansawdd yr argraffau, y castiau a'r cofrestriad achludol am eu gallu i gydymffurfio â'r achos unigol
  16. cysylltu â chleientiaid yn brydlon ac yn gwrtais i drafod unrhyw broblemau i sicrhau'r deilliant gorau i'r unigolyn
  17. cadarnhau bod yr argraff ragarweiniol yn cyfateb i ddata'r achos
  18. trin a thrafod yr argraff mewn ffordd sy'n lleihau risg traws-heintiad a'i haflunio
  19. rhoi cyngor i bobl eraill berthnasol ar hyfywedd y gwaith
  20. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  21. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr holl wybodaeth y mae ei hangen oddi wrth gleientiaid a pha mae angen pob eitem
  10. natur a diben argraffau, a'r defnydd ohonynt
  11. sut i asesu derbynioldeb argraffau a data cofrestru achludol a phroblemau cyffredin sydd i'w gweld ynddynt
  12. sut i asesu castiau a data cofrestru achludol trwy ddulliau gweledol
  13. sut i roi cyngor i bobl eraill berthnasol os nad yw gwaith yn hyfyw
  14. y broses ddylunio a sut i ddehongli amrywiol geisiadau dylunio
  15. ble i gael at ffynonellau gwybodaeth am agweddau amrywiol ar y broses ddylunio
  16. sut i baratoi cyfarpar a deunyddiau ar gyfer gweithgynhyrchu castiau
  17. mathau o ddeunyddiau castiau a sut y cânt eu defnyddio i wneud castiau
  18. dulliau o weithgynhyrchu castiau at wahanol ddibenion
  19. sut i ddewis a defnyddio'r deunyddiau deintyddol mwyaf effeithiol yn unol â gweithdrefnau gweithredu a pholisi'r labordy
  20. pwysigrwydd gwirio cywirdeb arwyneb y cast a baratowyd cyn gwaith pellach
  21. ffactorau sy'n effeithio ar gywirdeb castiau a'r camau i'w cymryd os gwelir gwallau mewn cast, sut i addasu'r cast yn fedrus os gwelir mân wallau
  22. sut i gofnodi gwybodaeth hanfodol ar y cast fel y gellir parhau i'w dylunio, eu gweithgynhyrchu, eu haddasu a'u lleoli
  23. dulliau o farcio castiau â manylion adnabod unigol
  24. y prosesau ffisegol a chemegol a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu deunyddiau cast a phriodweddau delfrydol y deunyddiau a ddefnyddir
  25. y gwahanol fathau o argysylltwyr, diben crymynnau wyneb a jigiau, a beth mae pob un ohonynt yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer
  26. sut i ddethol a defnyddio argysylltwyr ar gyfer yr achos unigol
  27. dulliau o drin plastr argyswllt
  28. priodweddau ffisegol a chemegol deunyddiau cast a'u natur
  29. cyfarwyddiadau a gweithdrefnau gwaith gweithgynhyrchwyr ar gyfer deunyddiau cast
  30. y math o ddeunyddiau cofrestru achludol a ffactorau sy'n effeithio ar gywirdeb
  31. natur deunyddiau a thoddiannau glanhau, a'r math ohonynt, ac effaith y rhain ar argraffau, castiau, cofrestriadau achludol, bacteria, feirysau a gweithredwr
  32. dulliau o reoli haint wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg
  33. pwysigrwydd hylendid a chynnal a chadw amgylchedd a chyfarpar gwaith glân
  34. gwaredu gwastraff clinigol a sut i asesu a lleihau effaith gwaredu gwastraff ar yr amgylchedd
  35. anatomi a ffisioleg berthnasol y geg, yn ddigon i ganiatáu am adnabod nodweddion anatomegol ar y cast a'i ddadansoddi ymhellach
  36. strwythur meinweoedd y geg yn gysylltiedig â chastiau a dylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  37. natur a swyddogaeth meinweoedd caled a meddal ac effeithiau posibl cymryd argraff
  38. egwyddorion dylunio dyfais ddeintyddol a wnaed yn bwrpasol a sut y gallant gyfrannu at iechyd a llesiant ceg yr unigolyn
  39. dosbarthiadau, cydberthynas a dulliau cofnodi achludol a defnyddio'r rhain wrth weithgynhyrchu dyfeisiau a wnaed yn bwrpasol
  40. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  41. pwysigrwydd sefydlu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda chleientiaid i ddarparu gwasanaeth o ansawdd da
  42. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  43. dulliau o roi gwybod i gleientiaid am broblemau mewn modd proffesiynol
  44. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  45. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH14

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Asesu, cynghori, hyfywedd, dyfeisiau, deintyddol, a wnaed yn bwrpasol