Gosod dyfeisiau prosthetig deintyddol wrth ochr y gadair

URN: SFHOH13
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymarfer diogel gosod, gwerthuso ac addasu dyfeisiau prosthetig deintyddol er mwyn gwella achludiad, estheteg neu swyddogaeth. Gall yr amrywiaeth o ddyfeisiau gynnwys adferiadau symudadwy (dannedd gosod cyflawn a rhannol), adferiadau sefydlog (coronau a phontydd) a gorchuddion deintgig. Gall hwn fod yn ffitiad prawf neu ffitiad dyfais gyflawn neu orffenedig. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  6. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol 
  7. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  8. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  9. rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  10. nodi cyflyrau clinigol rhagdueddol a allai effeithio ar osod y prosthesis, gan gyfrif am ddiogelwch, cyflwr emosiynol a chysur yr unigolyn
  11. trafod y gweithdrefnau arfaethedig gyda'r unigolyn mewn ffordd a fydd yn lleihau unrhyw bryder ac yn rhoi tawelwch meddwl
  12. cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau
  13. paratoi'r cyfarpar a'r deunyddiau y bydd eu hangen arnoch, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  14. sicrhau bod yr unigolyn yn eistedd yn gyfforddus a'i fod yn y safle priodol ar gyfer y weithdrefn
  15. archwilio a gwerthuso'r prosthesis y tu mewn a'r tu allan i'r geg o safbwynt:

    • dargadwad a sefydlogrwydd
    • cydberthynas achludol
    • y cysur i'r unigolyn
    • golwg esthetig
    • yr effaith ar seineg
    • y gyfatebiaeth a chofnod y gwiriad canoli ymlaen llaw 
  16. cynnwys yr unigolyn yn y gwerthusiad i sicrhau bod y prosthesis yn bodloni ei anghenion

  17. addasu'r prosthesis, lle bo angen ,ac ailadrodd y dannedd gosod ar brawf a'r gwerthusiadau hyd nes byddwch chi a'r unigolyn yn fodlon
  18. esbonio cam nesaf y broses wrth yr unigolyn a chadarnhau ei fod wedi deall
  19. lle y bo'n briodol, esbonio a thrafod gweithdrefnau cynnal a chadw a hylendid y geg gyda'r unigolyn, a chynghori ar unrhyw driniaeth ddilynol
  20. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  21. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. pwysigrwydd cymhwyso rhagofalon rheoli heintiau safonol i gymryd argraffau, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  12. anatomi a ffisioleg berthnasol y geg yn gysylltiedig â cheudodau'r genau, argysylltiad ac achludiad
  13. ymarfer a gweithdrefnau clinigol yn gysylltiedig ag addasu dyfeisiau deintyddol prosthodontig sefydlog a/neu ddyfeisiau deintyddol prosthodontig symudadwy a wnaed yn bwrpasol, a'r amrywiaeth o addasiadau y gellir eu gwneud
  14. sut i reoli ac integreiddio gweithdrefn addasiadau prawf i ddyfais i gynorthwyo â darparu prosthesisau deintyddol esthetig, gweithredol a/neu ffonetig yn unol â gofynion neu anghenion unigol
  15. y datblygiadau ym maes dynameg achludol fel y bo'n briodol i ddyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  16. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  17. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH13

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Gosod, dyfeisiau, prosthetig, deintyddol, wrth ochr y gadair