Cymryd cofnod crymyn wyneb ar gyfer gweithdrefn ddeintyddol

URN: SFHOH11
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymarfer diogel cymryd cofnodion crymyn wyneb uniongyrchol er mwyn cynhyrchu cofnodion trosglwyddo, fel y bo angen, ar gyfer gosod castiau ar argysylltwyr. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  6. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol 
  7. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  8. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  9. rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  10. nodi cyflyrau clinigol rhagdueddol a allai effeithio ar ddefnyddio crymyn wyneb ar wyneb yr unigolyn, gan gyfrif am ddiogelwch yr unigolyn a/neu ofynion cywirdeb
  11. penderfynu ar dechneg addas a diogel yn gysylltiedig â'r math o grymyn wyneb i'w ddefnyddio, ac a yw'r unigolyn heb ei ddannedd ei hun, heb ei ddannedd ei hun yn rhannol, neu a oes gan yr unigolyn ei ddannedd ei hun
  12. esbonio'r weithdrefn yn glir i'r unigolyn
  13. cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau
  14. paratoi'r cyfarpar y mae ei angen ac unrhyw ddeunyddiau ategol, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  15. gosod yr unigolyn yn gyfforddus ar gyfer y weithdrefn a sicrhau bod tiwbiau'r glust a meinweoedd yr wyneb wedi'u hamddiffyn
  16. nodi nodweddion anatomegol perthnasol a gosod y crymyn wyneb, a'i leoli'n briodol ar wyneb yr unigolyn
  17. addasu'r fforc gofnodi achludol a dangosydd llinell sylfaen orbitol ar y crymyn wyneb a'i gloi yn ei le i gael cofnod cywir, gan ofalu'n briodol am feinweoedd yr unigolyn
  18. tynnu'r crymyn wyneb oddi ar yr unigolyn a gwirio'r cofnod am gywirdeb a chwmpas
  19. trafod y cofnod gyda'r unigolyn ac esbonio'r cam nesaf yn y broses
  20. dihalogi'r crymyn wyneb
  21. cysylltu cofnod y crymyn wyneb ag unrhyw gofnodion mewneneuol cysylltiedig
  22. cymryd rhagofalon priodol i storio'r cofrestriad mewn cynhwysydd priodol a fydd diogelu'r cofnod hyd nes caiff ei ddefnyddio
  23. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  24. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun, fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. pwysigrwydd cymhwyso rhagofalon rheoli heintiau safonol i gymryd cofnodion o'r geg, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  12. anatomi a ffisioleg berthnasol yn gysylltiedig â'r cymal arlais-fandiblol (TMJ) a nodweddion y wyneb ac anhwylderau cysylltiedig
  13. yr amrywiaeth o systemau crymyn wyneb sydd ar gael ar hyn o bryd
  14. ymarfer a gweithdrefnau clinigol yn gysylltiedig â chymryd cofnod crymyn wyneb ar unigolyn â dannedd, â dannedd yn rhannol a heb ei ddannedd ei hun
  15. sut i reoli ac integreiddio gweithdrefn cofnodi crymyn wyneb i gynorthwyo â darparu prosthesisau deintyddol ymarferol ac esthetig (sefydlog a symudadwy) yn unol â gofynion neu anghenion unigol
  16. sut i fesur symudiadau cysylltiedig gyda chrymynnau wyneb hybrid
  17. datblygiadau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu o ran cofnodi agweddau ar leoliad TMJ
  18. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  19. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH11

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Cofnod, crymyn, wyneb, uniongyrchol, gweithdrefn, deintyddol