Cynhyrchu delweddau mamograffeg ategol ac ychwanegol

URN: SFHM8
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod unigolion yn eu safle a chynhyrchu delweddau mamograffeg ategol ac ychwanegol yn ôl yr angen. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwirio bod y peiriant mamograffeg yn ddiogel ac yn perfformio cystal â phosibl cyn ei ddefnyddio   2. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gynnal preifatrwydd ac urddas yr unigolyn  3. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r broses yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol  4. cyfathrebu â’r unigolyn/bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad  5. pennu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen  6. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 7. esbonio’r weithdrefn mewn modd sy’n annog yr unigolyn i ymlacio a chydweithredu â gofynion y weithdrefn  8. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn  9. asesu anghenion emosiynol yr unigolyn ac ymateb mewn modd priodol  10. gwirio’r wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r unigolyn a’i defnyddio i amlygu’r delweddau priodol sy’n ofynnol ar gyfer y weithdrefn gan ymgynghori â gweithwyr proffesiynol perthnasol a gan ddilyn protocol lleol  11. gofyn cwestiynau priodol targededig yn ymwneud â hanes yr unigolyn ac unrhyw symptomau sydd wedi dod i’r amlwg 12. ystyried amrywiaeth o gyfarpar mamograffeg ategol er mwyn eich helpu i osod delweddau priodol  13. ystyried y technegau ategol ac ychwanegol sydd eu hangen i ddangos yr ardal sydd o ddiddordeb o fewn y fron 14. cyfathrebu’r camau sy’n rhan o osod yr unigolyn  15. cynhyrchu delweddau mamograffeg ategol ac ychwanegol yn unol â’r safonau cyfredol  16. sicrhau bod y delweddau’n cael eu gwirio am ansawdd diagnostig ac y gwneir penderfyniad i ailadrodd y delweddau os oes angen  17. sicrhau bod yr unigolyn yn cael gwybod am y broses adrodd ac yn cael unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol  18. labelu’r delweddau’n gywir ac yn barhaol gyda manylion adnabod yr unigolyn cyn eu prosesu neu eu storio  19. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir  2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt  3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion  4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm 6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  7. pwrpas gwasanaethau diagnostig a sgrinio’r fron  8. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron   9. y polisi a’r protocol lleol ar gyfer trefnu a gweithio gyda hebryngwr 10. pwysigrwydd a goblygiadau adnabod yr unigolyn yn gywir  11. y newidiadau o ran delweddau, golwg corfforol neu deimlad meinwe’r fron o ganlyniad i oedran, llawdriniaeth, cyflwr hormonaidd, meddyginiaeth neu radiotherapi  12. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig  13. arwyddion a symptomau sylfaenol canser y fron  14. pwysigrwydd labelu’n gywir, yn unol â phrotocol lleol  15. sut dylid arddangos y delweddau’n gywir 16. anatomeg a ffisioleg y corff dynol  17. pathoffisioleg clefydau’r fron 18. ffiseg ymbelydredd sylfaenol a delweddu pelydr-x  19. risgiau anhwylderau yn ymwneud â’r gwaith, a sut i leihau’r risgiau  20. y rhesymau pam mai’r defnyddiwr sy’n gyfrifol am gadarnhau bod y cyfarpar yn gweithio’n iawn  21. nodweddion, manylebau a nodweddion perfformiad peiriannau mamograffeg a systemau cyfathrebu ac archifo lluniau (PACs) 22. ble a sut i gael mynediad at gofnodion a delweddau blaenorol a sut i ychwanegu rhagor o wybodaeth 23. nodweddion cyfarpar mamograffeg a’r broses ddelweddu  24. pwysigrwydd rhoi gwybod am ddiffygion a namau’n brydlon a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer rhoi gwybod am y rhain  25. pwysigrwydd a goblygiadau dewis y golwg delweddu cywir 26. pwysigrwydd prosesau rheoli heintiau da a sut i’w defnyddio 27. y gweithdrefnau lleol ar gyfer gwirio cyfarpar mamograffeg a systemau cyfathrebu ac archifo lluniau (PACs) a pha mor bwysig yw cynnal y rhain yn rheolaidd  28. y wybodaeth berthnasol y dylid ei cheisio a’i chofnodi  29. beth sy’n creu arteffactau ar ddelweddau a pha mor bwysig yw eu hatal rhag bod yn bresennol 30. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, gofyn cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn  31. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol  32. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth 33. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad  34. yr angen am gydymffurfiaeth yr unigolyn trwy gydol y delweddu a’r ffactorau a all ddylanwadu ar gydymffurfio  35. y gwahanol ffyrdd posibl o achosi gofid ac anesmwythder a dealltwriaeth o’r strategaethau ar gyfer ymdrin â’r rhain  36. yr angen i optimeiddio’r ddos o ymbelydredd y mae’r unigolyn yn ei dderbyn 37. y ffactorau sy’n dylanwadu ar y gosodiadau amlygiad  38. y gweithdrefnau ar gyfer adrodd ar ganlyniadau a phwysigrwydd rhoi gwybodaeth amserol a chywir i’r unigolyn  39. y safonau radiograffig ar gyfer cynhyrchu’r mamogram diagnostig gorau posibl  40. technegau i optimeiddio safle’r fron er mwyn goresgyn cyfyngiadau corfforol 41. technegau i optimeiddio’r safle wrth ddelweddu bronnau sydd wedi’u mwyhau   42. pwysigrwydd lleihau unrhyw anesmwythdra diangen a sut i wneud hynny  43. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol  44. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  



Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHM8

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu