Cynnal biopsi o feinwe’r fron gan ddefnyddio delweddu

URN: SFHM5
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar delweddu i ganfod mannau yn y fron sy’n cael eu hystyried yn annormal. Hefyd, mae’r safon hon yn trafod defnyddio’r cyfarpar hwn i lywio gweithdrefnau biopsi. 
Mae’n hanfodol bod unrhyw unigolyn sy’n cynnal y driniaeth hon yn gyfredol gymwys mewn Cynnal Bywyd Sylfaenol a Dadebru Cardio-Anadlol. Yr unigolion allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill  2. paratoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer y broses a gwirio ei fod yn gweithio’n iawn  3. archwilio delweddau perthnasol cyn cynnal y weithdrefn er mwyn cadarnhau lleoliad(au) y man(nau) o ddiddordeb  4. adolygu’r holl wybodaeth berthnasol a phenderfynu ar y dull mwyaf priodol  5. adolygu hanes clinigol yr unigolyn am ffactorau a all wrtharwyddo’r weithdrefn  6. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gynnal preifatrwydd ac urddas yr unigolyn  7. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r broses yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol  8. cyfathrebu â’r unigolyn / bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad  9. pennu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen 10. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  11. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn  12. esbonio’r broses mewn ffordd sy’n galluogi’r unigolyn i ymlacio a chydweithredu â gofynion y weithdrefn  13. asesu anghenion emosiynol yr unigolyn ac ymateb mewn ffordd briodol  14. cymryd delweddau priodol er mwyn cadarnhau’r safle cywir ar gyfer gosod y nodwydd a’r ymylon diogelwch  15. cymryd yr holl ragofalon priodol er mwyn sicrhau techneg lân/aseptig  16. sicrhau y rhoddir anesthetig lleol yn unol â phrotocol lleol a gwirio colli teimlad a, lle bo angen, endorri’r croen   17. gosod y nodwydd gywir ar gyfer y driniaeth yn unol â gweithdrefnau a phrotocol lleol   18. gwirio bod safle’r nodwydd yn gywir trwy gymryd mwy o ddelweddau a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol yn unol â gweithdrefnau a phrotocol lleol  19. cymryd, gwirio a nodi safle samplau yn unol â gweithdrefnau a phrotocolau lleol   20. sicrhau haemostasis y briw  21. rhwymo safle’r biopsi’n briodol  22. labelu cynwysyddion y samplau a llenwi ffurflenni cais patholeg  23. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r driniaeth ac ôl-ofal pan fo angen  24. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau  25. dogfennu’r driniaeth yn unol â phrotocol lleol 26. dosbarthu adroddiadau ar radiograff y sbesimen i’r tîm llawfeddygol yn unol â phrotocol lleol  27. cydnabod lle mae angen help neu gyngor a chael hyn o ffynonellau priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir  2. y safonau, canllawiau, polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid mynd atynt  3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion  4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm 6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  7. pwrpas gwasanaethau diagnostig a sgrinio’r fron  8. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron 9. arwyddion mamograffig clefydau’r fron ac amrywiadau normal yn sgil oedran, cyflwr hormonaidd, llawdriniaeth a radiotherapi   10. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig  11. y newidiadau o ran delweddau, ymddangosiad corfforol neu deimlad meinwe’r fron yn sgil oedran, cyflwr hormonaidd, meddyginiaeth neu radiotherapi 12. y protocol lleol ar gyfer triniaethau biopsi 13. ymddangosiad mannau annormal neu amheus ar famogramau  14. polisïau lleol ar gyfer techneg aseptig 15. y gwrtharwyddion i’r driniaeth  16. sut i adolygu hanes clinigol unigolyn am ffactorau a all wrtharwyddo’r driniaeth 17. egwyddorion sylfaenol stereotacsis 18. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol ar gyfer anghenion yr unigolyn  19. dulliau o gyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol  20. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth  21. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl gorffen yr archwiliad 22. cyfarpar y biopsi, ei baratoi, ei atodi a’i raddnodi yn gywir  23. defnyddio anesthetig lleol yn ddiogel 24. ymddangosiad samplau biopsi a dangosyddion ar gyfer sbesimenau delweddu  25. pwysigrwydd labelu samplau yn gywir 26. y cymhlethdodau posibl yn ystod ac ar ôl biopsi meinwe’r fron a sut i’w rheoli  27. yr angen i optimeiddio’r ddos o ymbelydredd y mae’r unigolyn yn ei dderbyn  28. nodweddion y cyfarpar delweddu perthnasol a’r broses ddelweddu  29. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau 


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHM5

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu