Lleihau risg lledaenu haint trwy lanhau, diheintio a storio cyfarpar gofal

URN: SFHIPC4
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau, diheintio a storio cyfarpar gofal anfewnwthiol amldro, fel mater o drefn, i leihau risg lledaenu haint. Dylai pob aelod staff mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol dderbyn hyfforddiant ar lanhau, gyda neu heb ddiheintio'r cyfarpar gofal a ddefnyddiant, ond dylai fod yn glir pwy sy'n gyfrifol am hyn o fewn pob maes neu leoliad gofal.

Glanhau a diheintio yw'r termau a ddefnyddir yn y safon hon, ond mewn rhai ardaloedd, defnyddir y term 'dihalogi'. Mae 'dihalogi' yn derm ymbarél sy'n cynnwys glanhau, diheintio a sterileiddio, fel y bo'n briodol.

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithgarwch ym mhob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, a cherbydau/gorsafoedd ambiwlans, ond mae'n eithrio lleoliadau arbenigol, fel labordai, fferyllfeydd neu theatrau llawdriniaeth, lle y gall fod angen dulliau mwy arbenigol. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyflawni hylendid effeithiol y dwylo cyn ac ar ôl cwblhau'r gweithgaredd, yn unol â pholisi/gweithdrefnau'r sefydliad
  6. archwilio'r cyfarpar gofal cyn ei ddefnyddio a sicrhau ei fod yn lân
  7. asesu pa lanhau, gyda neu heb ddiheintio, y mae ei angen a dewis y cyfrwng a'r cyfarpar priodol
  8. casglu'r cyfrwng a'r cyfarpar glanhau, a'r cyfrwng a'r cyfarpar diheintio os bydd eu hangen, a gwisgo'r cyfarpar diogelu personol priodol cyn dechrau
  9. glanhau'r cyfarpar gofal yn ôl y math o gyfarpar, cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr a gweithdrefnau'r sefydliad
  10. defnyddio diheintydd yn ddiogel pan fydd ei angen fel rhan o'r broses lanhau
  11. asesu cyflwr y cyfarpar gofal wrth ei lanhau, a mynd ag unrhyw gyfarpar nad yw'n addas i'w ddefnyddio oddi yno, yn unol â pholisi'r sefydliad
  12. rhoi gwybod am unrhyw eitem sydd wedi'i difrodi, a chael eitem yn ei lle
  13. sicrhau bod cyfarpar gofal yn cael ei storio mewn lle glân, dynodedig, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr a gweithdrefnau'r sefydliad
  14. cael gwared ar gyfarpar a chyfarpar diogelu personol untro yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. dychwelyd cyfryngau glanhau a diheintio i'w storio'n ddiogel, gan ddilyn rheoliadau ac arweiniad ynghylch sylweddau peryglus, arweiniad iechyd a diogelwch, a chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr
  16. sicrhau bod eich cyfarpar glanhau a diheintio yn lân, yn addas at ei ddiben, bod y codau lliw priodol arno, ei fod mewn cyflwr da, a'i fod yn cael ei storio mewn man dynodedig, glân
  17. cael gwared ar gyfarpar tafladwy yn unol â pholisi'r sefydliad
  18. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
  8. technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
  9. y cyfarpar diogelu personol priodol i'w ddefnyddio wrth lanhau cyfarpar
  10. sut i wisgo, tynnu a chael gwared ar gyfarpar diogelu personol yn ddiogel
  11. pwy sy'n gyfrifol am lanhau cyfarpar
  12. pryd dylid defnyddio diheintydd fel rhan o'r broses lanhau
  13. yr amserlenni glanhau ar gyfer glanhau dwfn ac arferol sy'n cynnwys glanhau neu gael gwared ar lieiniau a nwyddau glanhau amldro eraill ar ôl eu defnyddio, fel y bo'n briodol
  14. defnydd nwyddau glanhau a diheintio, eu gwanediad, dulliau eu defnyddio, eu storio a'u gwaredu
  15. sut i wahaniaethu rhwng cyfarpar a/neu gyfarpar diogelu personol untro ac amldro, a sut i gael gwared arnynt, eu golchi, eu glanhau, eu diheintio a'u storio yn ddiogel
  16. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHIPC4

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd, Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Glanhau, diheintio, risg, haint, atal, gofal, cyfarpar