Glanhau, diheintio a gwaredu gollyngiadau gwaed a hylifau eraill y corff i leihau risg haint

URN: SFHIPC3
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau, diheintio a gwaredu gollyngiadau gwaed a hylifau eraill y corff yn ddiogel ac yn effeithiol i leihau risg haint i staff iechyd a gofal cymdeithasol, unigolion/defnyddwyr gwasanaeth ac ymwelwyr. Mae'r safon yn berthnasol i bob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref a cherbydau ambiwlans.

Mae amlygiad i waed a hylifau eraill y corff yn peri risg haint bosibl o ficro-organebau. Gall amlygiad gynnwys anafiadau o offer miniog, cnoadau a sblashis. Dylai'r holl staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gael hyfforddiant ar sut i ddelio â gollyngiadau, gan gynnwys rheolaeth uniongyrchol (gan gynnwys cymorth cyntaf), ond dylai fod yn glir pwy sy'n bennaf gyfrifol am lanhau gollyngiadau gwaed a hylifau'r corff ym mhob ardal neu amgylchedd gofal.

Glanhau a diheintio yw'r termau a ddefnyddir yn y safon hon, fodd bynnag mewn rhai ardaloedd, defnyddir y term 'dihalogi'. Mae 'Dihalogi' yn derm ymbarél sy'n cynnwys glanhau, diheintio a sterileiddio fel y bo'n briodol.

Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  6. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol 
  7. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  8. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  9. darparu cymorth i'r unigolyn ac i ofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  10. gweithredu ar unwaith i ddelio â gollyngiadau gwaed neu hylifau eraill y corff trwy osod arwyddion rhybudd a rhwystr ffisegol fel y bo'n briodol
  11. asesu'r gollyngiad a chasglu'r cyfarpar a'r cyfarpar diogelu personol y bydd arnoch eu hangen
  12. dilyn y dulliau a amlinellir mewn polisïau cenedlaethol a lleol ar gyfer glanhau, diheintio a gwaredu gollyngiadau o wahanol fathau o hylifau'r corff, gan gynnwys defnyddio tywelion papur tafladwy neu gyfryngau rhyddhau clorin, fel y bo'n briodol i'r amgylchedd
  13. tynnu cyfarpar diogelu personol a gwaredu cyfarpar tafladwy mewn cynhwysydd gwastraff priodol, glanhau neu ddiheintio unrhyw gyfarpar nad yw'n dafladwy yn barod i'w ailddefnyddio
  14. rhoi diheintyddion yn ôl i'w storio'n ddiogel, gan ddilyn rheoliadau a chanllawiau ynghylch sylweddau peryglus, polisïau iechyd a diogelwch a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  15. tynnu arwyddion rhybudd ac adfer yr ardal
  16. cymryd camau priodol os cewch eich amlygu i waed neu hylifau'r corff wrth lanhau'r gollyngiad
  17. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  18. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau 
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  10. rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
  11. y gadwyn heintio
  12. hierarchaeth mesurau rheoli
  13. camau allweddol hylendid y dwylo
  14. sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
  15. sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
  16. technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
  17. sut i ddelio ag amlygiad trwy anafiadau o offer miniog, cnoadau a sblashis.
  18. sut i wisgo, tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn ddiogel
  19. y gwahanol fathau o ollyngiadau a'r prosesau glanhau a diheintio priodol i'w dilyn
  20. defnydd, gwanediadau, dulliau defnyddio, storio a gwaredu nwyddau glanhau a diheintio a ddefnyddir i waredu gollyngiadau
  21. yr amrywiaeth o gamau i'w cymryd os cewch eich amlygu i waed neu hylifau'r corff wrth lanhau'r gollyngiad
  22. sut i wahanu gwahanol gategorïau gwastraff
  23. y bagiau a'r cynwysyddion gwastraff cod lliw gwahanol sydd ar gael, a'r defnydd cywir o bob un ohonynt
  24. sut i wahaniaethu rhwng cyfarpar a/neu gyfarpar diogelu personol defnydd untro, defnydd unigol untro ac ailddefnyddadwy, a sut i'w gwaredu, eu golchi, eu glanhau, eu diheintio, eu cynnal a chadw a'u storio'n ddiogel 
  25. y defnydd diogel o ronynnau gel polymer hynod amsugnol ar gyfer ymatal gwastraff y corff, a'u storio'n ddiogel
  26. sut mae'r amgylchedd yn effeithio ar ddelio'n ddiogel â gwaed a hylifau'r corff
  27. sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
  28. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  29. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHICP3

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Glanhau, diheintio, gollyngiadau, gwaed, hylifau’r corff, lleihau, haint