Darparu arweiniad, adnoddau a chymorth i alluogi staff i leihau risg lledaenu haint

URN: SFHIPC13
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu arweiniad a chymorth, gan gynnwys sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i bob aelod staff iechyd a gofal cymdeithasol, i'w galluogi i leihau risg caffael a lledaenu haint.

Mae'n berthnasol i'r rhai sy'n gweithio ym mhob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofal cartref a chymunedol a lleoliadau gofal ambiwlans.

Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at bolisïau, canllawiau a gweithdrefnau gweithredu safonol ar atal a rheoli heintiau ar gyfer maes eich cyfrifoldeb, sy'n cyd-fynd â pholisïau/gweithdrefnau lleol a chenedlaethol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfleu'r polisïau a'r canllawiau yn glir, a sicrhau ei bod hi'n hawdd cael atynt
  6. trefnu hyfforddiant sefydlu a diweddariadau pellach i sicrhau bod gan staff y wybodaeth a'r sgiliau i gymhwyso polisïau/gweithdrefnau a chanllawiau atal a rheoli heintiau
  7. sicrhau bod atal a rheoli heintiau yn rhan annatod o holl amcanion personol staff ac y dangosir yn glir bod pawb yn gyfrifol amdanynt
  8. amddiffyn staff trwy sicrhau eu bod yn gallu cael at yr adnoddau i'w galluogi nhw i leihau risgiau haint wrth wneud eu swyddi
  9. rhoi cyfarwyddyd i staff ar weithdrefnau yn dilyn anaf gan offeryn miniog neu pan fydd hylifau'r corff yn sblasio
  10. monitro, archwilio a rhoi adborth ar arferion staff yn gysylltiedig ag atal a rheoli heintiau
  11. monitro'r adnoddau, y cyfarpar a'r agweddau hynny ar yr amgylchedd sy'n effeithio ar arferion yn gysylltiedig ag atal a rheoli heintiau
  12. monitro imiwneiddio galwedigaethol staff ac ansawdd y ddarpariaeth
  13. lle y gwelir neu y rhoddir gwybod am broblemau neu ddigwyddiadau andwyol, ymchwilio i'w hachosion a, lle y bo'n briodol, cychwyn camau adferol prydlon a chyfleu canfyddiadau i'r bobl briodol
  14. uwchgyfeirio pryderon yn unol â chanlyniadau ymchwiliad
  15. dadansoddi tueddiadau'r holl ddigwyddiadau andwyol y rhoddwyd gwybod amdanynt a phan fydd heintiau'n digwydd i nodi problemau mynych a chychwyn camau gweithredu i fynd i'r afael â nhw
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
  10. y gadwyn heintio
  11. hierarchaeth mesurau rheoli
  12. camau allweddol hylendid y dwylo
  13. sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
  14. egwyddorion ynysu a lleoli unigolion
  15. imiwneiddiadau sy'n gallu amddiffyn rhag heintiau y gellir eu hatal trwy frechlyn a dulliau o atgyfeirio staff i gael cyngor iechyd galwedigaethol
  16. cyfleusterau a phrosesau priodol ar gyfer hylendid y dwylo
  17. technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
  18. cyfleusterau priodol ar gyfer darpariaeth cymorth cyntaf
  19. y cyfarpar diogelu personol y mae ar staff eu hangen
  20. sut i sicrhau bod risgiau haint yn cael eu hasesu'n arbenigol ym maes eich gweithgarwch
  21. dulliau trosglwyddo haint
  22. egwyddorion ymwrthedd gwrthficrobaidd
  23. dulliau gwella o ran atal a rheoli heintiau
  24. asesu risg yn gysylltiedig ag atal a rheoli heintiau
  25. sut i uwchgyfeirio pryderon a sut/ble i gael cyngor awdurdodol
  26. sut i sicrhau hyfforddiant sefydlu a diweddariadau pellach i'ch staff
  27. pwysigrwydd bod digon o adnoddau ar gael i'r staff a sut i'w caffael er mwyn galluogi staff i gymhwyso'r polisïau/gweithdrefnau a'r canllawiau atal a rheoli heintiau cytunedig
  28. sut i fonitro arferion staff a sut i gymryd camau i gynnal y safonau gofynnol
  29. adrodd am ddamweiniau a digwyddiadau a'r mecanweithiau i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i wella safonau
  30. y prosesau i fonitro heintiau sy'n digwydd, sy'n berthnasol i rolau eich staff
  31. sut, pryd ac i bwy y dylid rhoi gwybod am broblemau sydd o fewn a'r tu hwnt i gwmpas eich ymarfer
  32. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  33. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  34. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  35. egwyddorion monitro'r adnoddau, y cyfarpar a'r agweddau hynny ar yr amgylchedd sy'n effeithio ar arferion sy'n gysylltiedig ag atal a rheoli heintiau, gan gynnwys imiwneiddio galwedigaethol staff ac ansawdd y ddarpariaeth
  36. y camau i'w cymryd pan welir neu pan roddir gwybod am broblemau neu ddigwyddiadau andwyol, gan gynnwys:

    • ymchwilio i'r achosion
    • cychwyn camau adferol prydlon
    • cyfleu canfyddiadau i bobl eraill berthnasol 
  37. sut a phryd i uwchgyfeirio pryderon yn unol â chanlyniadau ymchwiliad

  38. sut i ddadansoddi a deall tueddiadau'r holl ddigwyddiadau andwyol y rhoddwyd gwybod amdanynt a phan fydd heintiau'n digwydd i nodi problemau mynych a chychwyn camau gweithredu i fynd i'r afael â nhw
  39. sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
  40. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  41. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHICP13

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Arweiniad, adnoddau, cymorth, galluogi, staff, haint, atal