Lleihau risg lledaenu haint trwy lanhau, diheintio a chynnal a chadw amgylcheddau

URN: SFHIPC1
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â lleihau risg lledaenu haint trwy lanhau, diheintio a chynnal a chadw amgylcheddau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, a lleoliadau gofal ambiwlans, ond nid yw'n cynnwys lleoliadau arbenigol, fel labordai, fferyllfeydd neu theatrau llawdriniaethau, lle y gall fod angen dulliau mwy arbenigol.

Glanhau a diheintio yw'r termau a ddefnyddir yn y safon hon; fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd, defnyddir y term 'dihalogi'. Mae 'Dihalogi' yn derm ymbarél sy'n cynnwys glanhau, diheintio a sterileiddio, fel y bo'n briodol.

Mae'r safon yn canolbwyntio'n benodol ar weithgareddau i atal a rheoli haint trwy ddelio â glanhau a dihalogi:

·         cyfarpar

·         yr amgylchedd

·         gollyngiadau 

Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  6. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol 
  7. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  8. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  9. ystyried risg bosibl amlygu'ch hun a phobl eraill i ficro-organebau heintus, cyn ac yn ystod pob gweithgarwch y byddwch yn ymgymryd ag ef
  10. defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol ar gyfer y gweithgaredd a sicrhau hylendid effeithiol y dwylo cyn ac ar ôl y gweithgaredd
  11. glanhau, gyda neu heb ddiheintio:

    • ar sail arferol, wedi'i drefnu, gan ddilyn gweithdrefnau cenedlaethol a gweithdrefnau'r sefydliad
    • pan fydd yr amgylchedd i'w weld yn fudr, neu fel y bo angen
    • yn syth ar ôl gollwng gwaed neu hylifau'r corff
    • pryd bynnag y caiff unigolyn/defnyddiwr gwasanaeth ei ryddhau neu ei drosglwyddo o'i amgylchedd gofal, i sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel i dderbyn yr unigolyn/defnyddiwr gwasanaeth nesaf 
  12. defnyddio deunyddiau glanhau a diheintio sy'n cael eu hargymell gan bolisïau lleol a chenedlaethol a dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer eu defnyddio

  13. sicrhau bod eich cyfarpar glanhau a diheintio yn lân, yn addas at eu diben, mewn cyflwr da a bod y codau lliw priodol arnynt, a'u bod yn cael eu storio mewn man glân, sych a dynodedig
  14. sicrhau nad oes llwch nac annibendod mewn unrhyw ardal a'u bod wedi'u glanhau yn drylwyr, gan dalu sylw arbennig i:

    • yr ardaloedd hynny sy'n cael eu cyffwrdd neu eu defnyddio'n fynych
    • pob arwyneb sy'n wynebu tuag i fyny
    • ardaloedd glanweithiol
    • ardaloedd anodd eu cyrraedd, y gallai glanhau arferol eu hesgeuluso 
  15. gwaredu hylifau glanhau a diheintio hen neu heb eu defnyddio mewn ardal ddynodedig yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad

  16. tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn effeithiol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad a sicrhau hylendid y dwylo ar ôl tynnu/gwaredu
  17. rhoi gwybod i berson priodol am unrhyw broblemau sy'n codi yn gysylltiedig â:

    • chyfleusterau neu gyflenwadau
    • risgiau haint neu beryglon y mae ymdrin â nhw y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb
    • cyflwr cadeiriau, matresi neu ddodrefn
    • cyfarpar y mae'n rhaid eu hanfon at drydydd parti i'w harchwilio, eu gwasanaethu neu eu hatgyweirio.
  18. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad

  19. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau 
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
  12. y gadwyn heintio
  13. hierarchaeth mesurau rheoli
  14. camau allweddol hylendid y dwylo
  15. sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
  16. sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
  17. technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
  18. y cyfarpar diogelu personol priodol i'w defnyddio wrth lanhau, gyda neu heb ddiheintio, gollyngiadau gwahanol neu wrth weithio mewn amgylcheddau gwahanol
  19. egwyddorion sut mae glanedydd (detergent) yn gweithio
  20. gwahanol gategorïau diheintyddion
  21. sut i adnabod a oes angen glanhau eitem neu ei glanhau a'i diheintio
  22. y defnydd o weips (gyda glanedydd a/neu ddiheintydd wedi'i gynnwys ynddynt ymlaen llaw) ar gyfer dihalogi arwynebeddau a chyfarpar, a'u cyfyngiadau.
  23. pwysigrwydd rinsio a sychu.
  24. sut i wisgo, tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn ddiogel
  25. amserlenni glanhau ac adegau eraill pan ddylid glanhau
  26. glanhau peiriannau a chyfarpar
  27. sut i wahaniaethu rhwng cyfarpar a/neu gyfarpar diogelu personol defnydd untro, defnydd unigol untro ac ailddefnyddadwy, a sut i'w gwaredu, eu golchi, eu glanhau, eu diheintio, eu cynnal a chadw a'u storio'n ddiogel
  28. defnydd, gwanediad, dulliau defnyddio, amser cyswllt, dull storio, dull cludo a dull gwaredu diogel cynnyrch sy'n cael eu defnyddio i ddelio â gollyngiadau
  29. sut i wahanu gwahanol gategorïau gwastraff
  30. y bagiau, y cynwysyddion gwastraff a'r cyfarpar cod lliw gwahanol sydd ar gael, a'r defnydd cywir ar bob un ohonynt
  31. eitemau yn yr amgylchedd sy'n gallu cael eu halogi ac y mae'n rhaid eu glanhau rhwng eu defnyddio ar gyfer gwahanol unigolion sy'n derbyn gofal.
  32. sut mae digwyddiadau/brigiadau haint yn effeithio ar yr angen am lanhau/diheintio estynedig neu ychwanegol.
  33. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  34. sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
  35. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  36. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHIPC1

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Atal, risg, haint, glanhau, diheintio, cynnal a chadw, amgylcheddau