Monitro, gwerthuso a gwella’r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth mewn cyd-destun iechyd

URN: SFHHI9
Sectorau Busnes (Suites): Gwybodeg Iechyd
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro, gwerthuso ac argymell gwelliannau i’r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth. Bydd angen i chi sefydlu a defnyddio dulliau monitro, gan gynnwys cyfweld, yn ogystal ag argymell gwelliannau i’r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. trafod a chytuno ar yr agweddau ar reolaeth data a gwybodaeth y mae angen eu monitro a'u gwerthuso gyda chydweithwyr a phobl berthnasol eraill
  6. sefydlu'r cyswllt a'r ymgynghori gofynnol gyda chydweithwyr a phobl berthnasol eraill
  7. sefydlu a defnyddio dulliau addas ar gyfer monitro a gwerthuso'r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth
  8. monitro a gwerthuso'r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
  9. dadansoddi a chofnodi canlyniadau monitro a gwerthuso o fewn yr amserlen ofynnol
  10. gwirio cydymffurfiad â safonau cenedlaethol, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
  11. seilio argymhellion am welliannau i'r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth ar ganlyniadau monitro a gwerthuso
  12. nodi pobl berthnasol eraill y mae angen eu cynnwys wrth ddatblygu argymhellion am welliannau
  13. cyflwyno'ch argymhellion am welliannau ar ffurf a all arwain at weithredu effeithiol
  14. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  8. pwysigrwydd cadw at lywodraethu gwybodaeth a'r rhesymau dros wneud hynny
  9. sensitifrwydd ehangach data a gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch rôl
  10. y cyd-destun iechyd a busnes ar gyfer rheolaeth ar ddata a gwybodaeth
  11. y gwahanol ffyrdd y caiff data a gwybodaeth eu prosesu a'u defnyddio mewn cyd-destun iechyd
  12. y ffyrdd y mae unigolion yn cymryd cyfrifoldeb am eu gofal iechyd a'r mynediad sydd ganddynt i'w gwybodaeth
  13. llif data a gwybodaeth o fewn eich maes gwaith
  14. proses rheolaeth data a llifoedd gwybodaeth
  15. strwythur data a gwybodaeth
  16. nodweddion data a gwybodaeth
  17. pwysigrwydd ansawdd data a gwybodaeth, gan gynnwys amseroldeb, cywirdeb, cyflawnder, priodoldeb at y diben a hygyrchedd
  18. y gwahanol ddulliau o ddilysu a gwirio ansawdd data a gwybodaeth, a sut i'w defnyddio
  19. sut i fonitro ac adolygu gweinyddu data a gwybodaeth
  20. pwysigrwydd cael fframwaith clir i fonitro a gwerthuso data a gwybodaeth o'i fewn
  21. pwysigrwydd cyfathrebu a thrafod monitro a gwerthuso data a gwybodaeth gyda chydweithwyr a phobl eraill berthnasol
  22. y prosesau i ennyn diddordeb cydweithwyr clinigol
  23. sut i gynnal ymwybyddiaeth o newid technolegol a sut gallai'r rhain wella'r rheolaeth ar ddata a gwybodaeth
  24. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHHI9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Monitro; gwerthuso, gwella, rheolaeth; data; gwybodaeth