Hybu cyfathrebu effeithiol mewn amgylchedd gofal iechyd

URN: SFHGEN98
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â hybu cyfathrebu effeithiol ag unigolion, neu grwpiau o unigolion, mewn amgylchedd gofal iechyd. Bydd disgwyl i chi gymhwyso amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu, yn briodol i unigolion ac i’r sefyllfa, er mwyn hwyluso a hybu canlyniadau adeiladol. Bydd disgwyl i chi allu cyfathrebu’n effeithiol ynghylch materion anodd, cymhleth a sensitif.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a defnyddio'r dulliau a'r technegau cyfathrebu mwyaf priodol ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd i hwyluso a chyflawni canlyniadau cadarnhaol  
  2. cychwyn cysylltiad uniongyrchol ag unigolion pan fo'n briodol gwneud hynny
  3. nodi ffyrdd o ymgysylltu ag unigolion a'u hannog i gyfathrebu â nhw
  4. addasu cynnwys ac arddull eich cyfathrebu i fodloni anghenion yr unigolyn neu'r grwpiau
  5. sylwi ar ymatebion unigolion, gan addasu cynnwys ac arddull eich cyfathrebu i hybu canlyniadau cadarnhaol
  6. defnyddio sgiliau cyfathrebu yn sensitif i roi cymorth i unigolion
  7. cefnogi unigolion i gyfnewid cyfathrebiadau ag eraill
  8. hybu cyfenwid cyfathrebiadau adeiladol yn ystod sefyllfaoedd heriol
  9. gwirio'ch bod chi'n deall beth sy'n cael ei gyfleu
  10. sicrhau bod pobl eraill yn deall y wybodaeth rydych chi'n ei chyfleu ac egluro pwyntiau, lle bo'r angen
  11. parchu dymuniadau unigolion i beidio â chymryd rhan mewn cyfathrebu
  12. darparu gwybodaeth berthnasol, briodol a chynhwysfawr pan fyddwch chi'n cyfathrebu ag eraill
  13. cynnal a pharchu cyfrinachedd gwybodaeth ym mhob cyfathrebu
  14. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 
  2. polisïau, gweithdrefnau a chodau ymddygiad y sefydliad sy'n berthnasol i'ch cyfrifoldebau wrth gyfathrebu ag unigolion ynghylch materion cymhleth a sensitif
  3. y dulliau cyfathrebu sy'n fwyaf addas i'r sefyllfa, sydd:

    • yn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth
    • yn hybu hawliau pobl i gyfathrebu gan ddefnyddio'r dull, y cyfrwng a'r iaith o'u dewis
    • yn effeithiol wrth ddelio â gwahaniaethu a'i herio
    • yn annog unigolion i ymroi i gyfathrebu 
  4. pwysigrwydd hybu llif cadarnhaol o wybodaeth rhwng unigolion

  5. pwysigrwydd hybu cysylltiad uniongyrchol sydd:

    • yn mynd i'r afael ag anghenion yr unigolyn neu grwpiau o unigolion
    • yn cydnabod yr angen i unigolion neu grwpiau gyfathrebu yn ôl eu cyflymder eu hunain
    • yn hybu cyd-ddealltwriaeth
    • yn hybu gwrando gweithredol 
  6. y gwahanol ddulliau a thechnegau sy'n cefnogi unigolion wrth ymdrin â materion cymhleth a sensitif

  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn neu'r grŵp
  8. sut i dawelu neu atal gwrthdaro yn ystod sefyllfaoedd heriol
  9. pryd i adnabod bod distawrwydd yn gymorth effeithiol yn ystod cyfathrebu ar lafar
  10. sut i ddefnyddio cyfathrebu ar lafar neu yn ysgrifenedig sydd:

    • yn hwyluso deilliannau cadarnhaol
    • yn adeiladol
    • yn berthnasol ac yn ddigon cynhwysfawr i'r derbynnydd ei ddeall
    • yn defnyddio iaith sy'n briodol i'r cyd-destun, y gynulleidfa a'r wybodaeth sy'n cael ei chyfnewid
    • yn ymatebol ar adegau o anhawster, trafferth neu berygl, pan allai materion wella neu waethygu'n gyflym 
  11. pwysigrwydd eich sgiliau cyfathrebu chi yn gysylltiedig â chefnogi pobl eraill

  12. sut mae eich sgiliau cyfathrebu yn adlewyrchu arnoch chi, a'ch sefydliad
  13. yr egwyddorion cyfrinachedd, diogelwch a rhannu gwybodaeth ar gyfer yr amgylchedd lle'r ydych chi'n gweithio
  14. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN98

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Hybu, cyfathrebu, effeithiol, gofal iechyd