Casglu dillad gwely a gwneud gwelyau

URN: SFHGEN81
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â thynnu dillad gwely a gwneud gwelyau, cyffwrdd â dillad a gorchuddion gwely, ynghyd â chasglu gorchuddion gwely a’u symud nhw i’r ystafelloedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. dewis a chasglu'r dillad gwely y mae arnoch eu hangen ar gyfer eich amserlen gwaith gan ddefnyddio gweithdrefnau codi a chario yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  6. sicrhau eich bod yn defnyddio'r dillad gwely cywir, yn dibynnu ar yr unigolyn a'i amgylchiadau
  7. cyffwrdd â dillad gwely budr a'u storio yn unol â gofynion y sefydliad
  8. gwneud yn siŵr bod y matres yn lân ac yn gyfan, gan roi gwybod am unrhyw ddifrod neu faeddu
  9. gwneud y gwely yn unol â gweithdrefnau'ch sefydliad
  10. gadael y gwely yn daclus, yn llyfn ac yn barod i'w ddefnyddio
  11. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  12. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch du lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. technegau codi a thrafod diogel a pham y dylech chi eu defnyddio bob amser
  9. safonau'r sefydliad ar gyfer dillad gwely a gorchuddion gwely
  10. pam y dylech gadw dillad gwely budr ar wahân i ddillad gwely glân
  11. pam mae'n bwysig gwirio dillad gwely i sicrhau ei fod yn lân ac yn cyrraedd y safon
  12. y mathau o broblemau a allai ddigwydd pan fyddwch chi'n dewis a chasglu dillad gwely o'r storfa ddillad gwely, a sut i ddelio â'r rhain
  13. y ffordd gywir o ddidoli gwahanol ffabrigau
  14. gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud gwelyau ac ailosod cynfasau
  15. gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cyffwrdd â dillad gwely budr a'i waredu
  16. pam mae'n bwysig defnyddio'r math a'r maint cywir o ddillad gwely
  17. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  18. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN81

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Casglu, dillad gwely, gwneud, gwelyau