Symud a chludo unigolion o fewn amgylchedd gofal iechyd

URN: SFHGEN80
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â symud a chludo unigolion o fewn ardaloedd gwaith gofal iechyd.  Bydd angen i chi allu nodi’r unigolyn i’w symud a sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i symud yr unigolyn.  Hefyd, bydd angen i chi symud yr unigolyn yn ddiogel, a chynnal ei breifatrwydd a’i urddas yn ystod y symud.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  8. gwirio'r holl fanylion cyn dechrau'r symud
  9. esbonio'n glir wrth yr unigolyn pwy ydych chi ac i ble'r ydych chi'n mynd â'r unigolyn
  10. sicrhau bod gennych unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol y mae angen eu cludo gyda'r unigolyn
  11. gwirio bod y cyfarpar cludo yn ddiogel a'i fod yn gweithredu'n gywir
  12. defnyddio'r cyfarpar cludo yn ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  13. cydweithredu ag aelodau staff eraill sydd ynghlwm i gyflawni'r canlyniad gorau posibl i'r unigolyn
  14. gofalu am yr unigolyn yn ystod y cludo yn unol ag anghenion yr unigolyn, gan gyfrif am natur y salwch neu'r anaf
  15. defnyddio'r llwybr mwyaf addas i'r unigolyn
  16. trosglwyddo'r unigolyn ac unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol i'r aelod staff priodol
  17. cynorthwyo â symud yr unigolyn ymhellach, os oes angen
  18. rhoi gwybod i'r person perthnasol bod y symud wedi'i gwblhau
  19. dychwelyd cyfarpar cludo i'r lleoliad cywir
  20. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  10. sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. gweithdrefnau ar gyfer nodi, symud a throsglwyddo unigolion
  12. sut i wneud i unigolion deimlo'n gartrefol
  13. sut i symud a chludo unigolion yn gywir, gan gyfrif am natur y salwch neu'r anaf
  14. y technegau diogel ar gyfer symud a chydio mewn unigolion
  15. yr amgylchiadau pan fydd angen hebryngwr unigol
  16. daearyddiaeth yr ardal waith
  17. y mathau o gofnodion a dogfennau y mae'n rhaid eu cludo gyda'r unigolyn, yn eich sefydliad
  18. y mathau o gyfarpar cludo sydd ar gael
  19. sut i ddefnyddio cyfarpar cludo yn gywir
  20. y mathau o gyfarpar meddygol y gallai fod angen eu symud gyda'r unigolyn
  21. sut i drafod cyfarpar meddygol yn ddiogel
  22. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN80

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Symud, cludo, unigolion, gofal iechyd, amgylchedd