Cynorthwyo’r ymarferwr i weithredu gweithgareddau gofal iechyd

URN: SFHGEN8
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un â rôl lle mae'n ofynnol iddynt weithio o dan gyfarwyddyd ymarferwr cofrestredig i gynnig cymorth yn ystod ymyriadau clinigol neu therapiwtig.  O fewn y safon hon, mae 'gweithgarwch' yn cyfeirio at unrhyw weithgarwch gofal iechyd (clinigol/therapiwtig) sydd ag ymarferwr cofrestredig yn cyflawni'r rôl waith.  Mae'r safon hon yn cwmpasu rôl y cynorthwyydd wrth gynorthwyo'r ymarferwr yng nghyd-destun llawdriniaeth, ystafell adfer, gweithgarwch rownd ward, ymyriadau therapiwtig neu weithdrefnau clinigol.  Mae ffocws y safon ar fod yn effeithiol mewn rôl gynorthwyo, yn hytrach nag yn y sgiliau clinigol/therapiwtig sy'n gysylltiedig â'r ymyrraeth; mae safon arall yn ymdrin â hynny.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth eang o gyd-destunau iechyd a rolau mewn gofal mewn argyfwng, gofal sylfaenol a gofal eilaidd.  Gall gynnwys unigolion sy'n ymwybodol neu sy'n anymwybodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. ennill cydsyniad dilys, gwybodus gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  8. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  9. sicrhau eich bod yn rheoli heintiau yn effeithiol bob amser
  10. ymateb yn brydlon i geisiadau a chyfarwyddiadau gan yr ymarferwr sy'n arwain y gweithgaredd
  11. cyflawni gweithgareddau dirprwyedig gan ddilyn y protocolau a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd yn unol â chynllun gofal/triniaeth yr unigolyn
  12. cydweithredu'n effeithiol ac yn rhagweithiol yn ystod gweithredoedd sy'n gofyn am weithio'n agos fel tîm
  13. cyfleu gwybodaeth ofynnol i eraill yn glir, yn gywir ac yn amserol
  14. sicrhau eich bod yn cynnal cyfrinachedd gwybodaeth yn unol â gofynion y sefydliad
  15. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  13. y math a'r ystod o wybodaeth y gall fod ar yr ymarferwr ei hangen cyn neu yn ystod gweithgaredd
  14. sut i esbonio'ch rôl gynorthwyo a gweithdrefnau i unigolion a gofalwyr mewn iaith y byddant yn ei deall
  15. protocolau a gweithdrefnau'n gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w wneud
  16. pwysigrwydd dilyn rhagofalon safonol sy'n berthnasol i'r gweithgaredd a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  17. polisïau a chanllawiau'r sefydliad yn ymwneud â symud a gosod unigolion a'r effaith a gaiff y rhain ar eich gwaith
  18. y mathau o wybodaeth y mae'n briodol eu rhoi i bobl eraill am raglen a thriniaeth unigolyn
  19. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  20. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel  

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN8

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cynorthwyo, ymarferwr, gweithredu, gofal iechyd