Storio a chludo silindrau nwy meddygol

URN: SFHGEN76
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â storio a chludo silindrau nwy meddygol yn ddiogel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. gwirio bod silindrau nwy meddygol yn cael eu storio'n ddiogel ac:

    • nad ydynt mewn tymereddau eithafol
    • eu bod mewn ardaloedd sych, glân a digon o aer
    • nad ydynt gerllaw hylifau hynod fflamadwy a deunyddiau llosgadwy eraill
    • nad ydynt gerllaw ffynonellau gwres a thanio
  6. sicrhau bod silindrau llawn, gwag neu silindrau gyda nwyon gwahanol i gyd yn cael eu storio yn unol â chyfarwyddiadau'r sefydliad

  7. defnyddio technegau codi a chario cywir, gan ddiogelu dyfeisiau a chyfarpar wrth godi, symud a chludo silindrau
  8. cludo silindrau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  9. gwneud yn siŵr nad yw silindrau'n dod i gysylltiad ag olewau a allai adweithio â'r nwy yn y silindrau
  10. gwirio lefelau stoc a rhoi gwybod i berson priodol am niferoedd isel
  11. cymryd camau rhagofalus i ddiogelu silindrau rhag cael eu dwyn
  12. gwirio labeli a gwneud yn siŵr:

    • bod y label yn gyfan
    • mai'r silindr rydych chi'n ei gludo yw'r silindr y gofynnwyd amdano 
  13. gwirio'r silindr am ollyngiadau a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod

  14. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  9. y technegau codi a chario cywir ar gyfer symud a chludo silindrau
  10. sut i storio silindrau nwy meddygol yn ddiogel a pham mae hyn yn bwysig
  11. y codau lliw a'r symbolau ar silindrau nwy meddygol
  12. pwysigrwydd cynnal cofnodion cyflenwadau nwy meddygol
  13. y perygl posibl i silindrau nwy pwysedd uchel ffrwydro os dônt i gysylltiad â nwy, saim ac elïau wrth godi a chario silindrau
  14. y lefelau stoc isel ar gyfer pob math y nwy y mae ar y sefydliad eu hangen
  15. gweithdrefn y sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw gyfarpar sy'n gollwng
  16. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN76

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Storio, cludo, silindrau, nwy, meddygol