Monitro a rheoli’r amgylchedd ac adnoddau yn ystod ac ar ôl gweithgareddau gofal iechyd

URN: SFHGEN7
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli’r amgylchedd uniongyrchol a’r adnoddau a ddefnyddir yn ystod gweithgareddau gofal iechyd rydych chi naill ai’n eu cyflawni eich hun neu’n cael eich arwain gan ymarferwr cofrestredig.  Byddwch yn gyfrifol am reoli’r amgylchedd a’r adnoddau fel eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr effeithiol tra bydd y weithdrefn yn mynd rhagddi a byddwch yn gyfrifol am ailgyflenwi’r adnoddau ar ôl y digwyddiad.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  6. gweithredu cyfarpar yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwyr a gweithdrefnau sefydliadol
  7. trafod pob adnodd yn ddiogel, yn gyson â thechnegau rheoli heintiau a gofynion eraill y sefydliad sy'n briodol i'r weithdrefn ac i'r lleoliad
  8. monitro amodau amgylcheddol yn rheolaidd a'u cynnal ar y lefelau cywir i sicrhau cysur unigol a'u bod yn cyd-fynd â gofynion y weithdrefn
  9. monitro gweithrediad cyfarpar yn rheolaidd a chadarnhau bod y cyfarpar yn gweithio'n dda
  10. monitro defnyddiau traul a ddefnyddir yn y gweithgaredd yn gywir ac yn ddiogel, a'u hailgyflenwi a'u hamnewid yn unol â phrotocolau
  11. glanhau eitemau gosod yn effeithiol ar ôl eu defnyddio, gan ddefnyddio'r deunyddiau priodol
  12. dychwelyd adnoddau heb eu hagor na'u defnyddio, ac adnoddau dros ben, i'r lleoliad cywir i'w storio
  13. glanhau eitemau y gellir eu hailddefnyddio yn effeithiol ar ôl eu defnyddio a'u gwneud nhw'n ddiogel cyn eu storio
  14. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  10. pam mae angen cymryd camau yn gysylltiedig â rheoli haint
  11. ffynonellau haint posibl a sut i'w rheoli yn ystod ac ar ôl gweithdrefn
  12. atebolrwydd a chyfrifoldeb am fonitro a rheoli cyfarpar ac adnoddau eraill
  13. nodweddion gweithredol cyfarpar a deunyddiau a ddefnyddiwyd a sut i adnabod pan nad yw'r rhain o'r ansawdd gofynnol
  14. yr adnoddau hanfodol y mae eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
  15. y gweithdrefnau i'w cyflawni a'r cyfarpar a'r deunyddiau i'w defnyddio sy'n gysylltiedig â'r rhain
  16. pwysigrwydd sicrhau bod y nifer cywir o ddefnyddiau traul ar gael trwy gydol y gweithgaredd, a'u bod o'r ansawdd cywir
  17. sut i gadarnhau bod cyfarpar (gan gynnwys cyfarpar trydanol) yn ddiogel ac yn addas i'w ddefnyddio
  18. dulliau o drafod offerynnau, cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel
  19. sut gall y lefel glendid gywir gael ei chynnal
  20. y ffordd gywir o storio offerynnau a chyfarpar a ddefnyddiwyd yn y weithdrefn
  21. dulliau a ddefnyddir i ailgyflenwi, cynnal a chadw a glanhau cyfarpar, a pham mae'n bwysig ailgyflenwi ac amnewid cyflenwadau yn rheolaidd
  22. pa mor aml sydd orau ar gyfer monitro adnoddau
  23. y gwahanol fathau o wastraff a sgil-gynnyrch y mae'r gweithgaredd yn eu cynhyrchu
  24. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  25. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN7

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Monitro, rheoli, amgylchedd, adnoddau, clinigol, therapiwtig