Rheoli’r defnydd o adnoddau ffisegol

URN: SFHGEN66
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheolaeth ariannol a’i heffaith ar ddyrannu adnoddau ac effeithlonrwydd adnoddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. rhoi cyngor clir a chyson i aelodau tîm ar sut y gallant helpu i reoli gwariant a'r defnydd o adnoddau
  4. rhoi cyfleoedd i aelodau tîm gymryd cyfrifoldeb unigol am fonitro a rheoli gwariant
  5. monitro gwariant yn erbyn cyllidebau, a'r defnydd o adnoddau, yn unol â gofynion y sefydliad
  6. cadarnhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon ac yn gyfrifol
  7. rheoli gwariant a'r defnydd o adnoddau yn unol â chyllidebau a gofynion y sefydliad
  8. cymryd camau cywirol i ymateb i amrywiadau arwyddocaol posibl, neu wirioneddol, o'r gyllideb yn brydlon, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion y sefydliad
  9. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer rheoli gwariant, gweithdrefnau awdurdodi a chadw cofnodion
  8. yr ystod o amrywiadau o'r gyllideb a all ddigwydd, a pha gamau cywirol effeithiol i'w cymryd i ymateb i'r rhain
  9. y mathau o geisiadau am wariant y tu hwnt i'ch rheolaeth sy'n debygol o ddigwydd a'r gweithdrefnau cywir i'w dilyn i ymateb i'r rhain
  10. pwysigrwydd rheoli gwariant yn effeithiol i alluogi effeithlonrwydd, a'ch rôl a'ch cyfrifoldebau yn gysylltiedig â hyn
  11. yr egwyddorion a'r systemau wrth wraidd rheoli gwariant yn effeithiol
  12. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN66

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Rheoli, adnoddau, ffisegol, ariannol