Cyfrannu at weithio’n effeithiol mewn tîm amlddisgyblaethol

URN: SFHGEN39
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal gwaith hwylus a chyson y tîm amlddisgyblaethol er mwyn cyflawni nod y gofal gorau i unigolion. Caiff hyn ei gyflawni trwy feithrin hinsawdd lle y mae aelodau’n cyfnewid gwybodaeth a barn yn agored ymhlith ei gilydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. sicrhau bod eich arferion gwaith yn cydymffurfio â phenderfyniadau a wneir gan y tîm
  5. cyfathrebu'n effeithiol ag aelodau eraill y tîm a chydnabod eu barn yn adeiladol
  6. darparu gwybodaeth glir, gywir a digonol am waith sy'n mynd rhagddo i alluogi aelod arall o'r tîm i gyflawni'i waith yn gywir
  7. rhoi help a chyngor i gydweithwyr pan fyddant yn gofyn am hynny a phan fydd hyn yn gyson â'ch cyfrifoldebau eraill
  8. sicrhau yr eir i'r afael yn gadarnhaol ag unrhyw broblemau yn y tîm, ac yr ymdrinnir â nhw yn adeiladol
  9. cynnal cyfrinachedd gwybodaeth yn gysylltiedig ag aelodau eraill y tîm
  10. nodi enghreifftiau o arfer ac awgrymu gwelliannau
  11. nodi eich anghenion datblygu eich hun o gymharu â galwadau'r rôl a galwadau/gofynion y tîm
  12. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd 
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  7. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu'r timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn gwasanaethau ac ar draws gwasanaethau
  8. y cyfraniad y gall gwahanol broffesiynau ei wneud at werthuso a chynllunio gofal unigol
  9. anghenion gwybodaeth pobl eraill yn y tîm
  10. strwythurau cyfathrebu yn y sefydliad
  11. sut i ofyn cwestiynau penagored, gwrando'n astud a rhoi crynodeb yn ôl
  12. sut i wneud penderfyniadau ar sail safbwyntiau lluosog tîm
  13. sut mae timau effeithiol yn gweithio
  14. egwyddorion ac ymarfer dynameg grŵp
  15. y gwahanol nodweddion y mae'n rhaid i wasanaethau eu cael er mwyn bodloni anghenion rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
  16. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN39

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Amlddisgyblaethol, tîm, gweithio