Rhyngweithio ag unigolion gan ddefnyddio telathrebu

URN: SFHGEN21
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhyngweithio ag unigolion gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg telathrebu, gan gynnwys y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys sefydlu, cynnal a therfynu rhyngweithiadau ag unigolion heb ryngweithio wyneb yn wyneb, gan ddefnyddio telathrebu. Mae'r pwyslais ar ryngweithiadau cefnogol yn hytrach nag ar ddarparu gwasanaeth cyngor cyffredinol.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol 3. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo 4. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas 5. nodi unrhyw gyfyngiadau ar unigolion ac ym mha amgylchiadau mae'r rhyngweithio'n digwydd 6. darparu gwybodaeth am y gwasanaeth a chadarnhau ei briodoldeb i'r unigolyn 7. annog unigolion i rannu'u pryderon a chanolbwyntio ar eu gofynion 8. asesu p'un a oes unrhyw risg neu beryglon yn wynebu'r unigolyn, a chymryd camau priodol i ddelio â hynny 9. darparu cyfleoedd addas i unigolion gynnal y rhyngweithio 10. annog unigolion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am eu sefyllfa neu'u gofynion 11. ymateb i ofynion uniongyrchol unigolion ym mhob cam yn ystod y rhyngweithio 12. darparu rhyngweithiadau addas i sicrhau unigolion eich bod yn parhau i ddangos diddordeb 13. nodi unrhyw arwyddion o straen cynyddol yn ystod rhyngweithiadau a sefydlu eu harwyddocâd 14. rhoi gwybodaeth glir am y gofyniad i ddod â'r rhyngweithio i ben 15. dod â rhyngweithiadau i ben yn unol â gweithdrefn y sefydliad 16. nodi sefyllfaoedd lle y byddai'n beryglus neu'n anfanteisiol i fudd yr unigolyn ddod â'r rhyngweithio i ben 17. cymryd y camau priodol i ddatrys sefyllfaoedd peryglus 18. sicrhau eich bod wedi cofnodi a gwirio manylion demograffig yr unigolyn pan fo angen hyn cyn dod â'r rhyngweithio i ben/trosglwyddo'r rhyngweithio 19. pan fyddwch chi'n darparu gwasanaeth cyfrinachol, sicrhau bod anhysbysrwydd unigolion, cydweithwyr a'ch anhysbysrwydd chi yn cael ei gynnal yn unol â gweithdrefnau'r gwasanaeth 20. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt 2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd 5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 6. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn 7. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd 8. hawliau'r unigolion y dewch i gysylltiad â nhw 9. gweithdrefnau'r sefydliad yn gysylltiedig ag anhysbysrwydd a chyfrinachedd 10. y systemau ar gyfer recordio rhyngweithiadau 11. pam mae'n bwysig defnyddio'r systemau 12. beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer croesawu unigolion 13. sut i ddefnyddio gwahanol fathau o dechnoleg telathrebu 14. sut i annog unigolion i gadw mewn cysylltiad 15. beth yw amgylchiadau posibl yr unigolion 16. pa wybodaeth ddylai gael ei darparu am y gwasanaeth 17. pwy gall y gwasanaeth eu cynorthwyo 18. sut i annog unigolion heb ryngweithio wyneb yn wyneb 19. pa fath o risgiau neu beryglon y gallai gwahanol unigolion eu hwynebu 20. pa gamau gweithredu y dylid eu cymryd i ddelio â gwahanol risgiau neu beryglon 21. pa fath o ryngweithiadau sy'n digwydd 22. pa gyfleoedd ddylai fod ar gael i unigolion gynnal y rhyngweithio 23. pa fath o wybodaeth y dylid ei chael 24. pam mae'n bwysig ymateb yn rheolaidd 25. pam mae'n bwysig rhoi cyfleoedd i unigolion siarad heb darfu arnynt 26. arwyddion ac arwyddocâd straen cynyddol mewn unigolion 27. y mathau o broblem a allai ddigwydd 28. pa gamau y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â nhw 29. pryd dylai rhyngweithiadau gael eu terfynu 30. pwysigrwydd cael manylion demograffig llawn 31. pam mae'n bwysig cynnal anhysbysrwydd 32. sut i ddefnyddio anhysbysrwydd unigolion i'w cynorthwyo i siarad, lle y bo hyn yn briodol 33. y mathau o dechnoleg telathrebu sydd ar gael 34. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN21

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Telathrebu, ystafell reoli, cyfathrebu