Galluogi gofalwyr i gefnogi unigolion

URN: SFHGEN20
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch rôl wrth gynorthwyo â darparu cyfarpar a chymorth i unigolion a gofalwyr yn y gymuned.  Mae'r gair 'cyfarpar' yn cael ei ddefnyddio i olygu unrhyw adnodd perthnasol sy'n cael ei ddarparu.  Gall cymorth fod yn seicolegol yn ogystal ag yn gorfforol, a gall gael ei roi ar y cyd â darparu cyfarpar neu ar ei ben ei hun.  Mae'r term 'cymuned' yn cael ei ddefnyddio i olygu unrhyw amgylchedd sy'n berthnasol i'r unigolyn (h.y. mae'n cynnwys cartref yr unigolyn ei hun a chyffiniau'r cartref, cartref cymunedol lle y mae'r unigolyn yn byw, canolfan ddydd neu weithle'r unigolyn).

Gall y ddarpariaeth fod o ganlyniad i atgyfeiriad gan aelod arall o'r tîm gofal, oherwydd bod yr unigolyn wedi symud i'r gymuned ar ôl bod yn yr ysbyty/mewn llety preswyl, neu oherwydd bod yr unigolyn neu'r gofalwr wedi cysylltu â'r gwasanaeth yn uniongyrchol.  Defnyddir y term 'gofalwr' ar gyfer rhywun sy'n gofalu am yr unigolyn mewn rhyw ffordd, ond nad yw'n aelod o'r tîm gofal ffurfiol ac, felly, nid oes ganddo unrhyw gysylltiadau ffurfiol/sefydlog â'r gwasanaeth. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. cyfathrebu â'r unigolyn a gofalwyr yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  4. rhoi cymorth i'r unigolyn ac i ofalwyr, a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  5. ennill cydsyniad dilys, gwybodus gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  6. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  7. rhoi gwybod i ofalwyr am anghenion a chynllun gofal a chymorth yr unigolyn, a dull gweithredu'r cynllun fel y cytunwyd ar hynny gyda'r unigolyn a'r tîm gofal
  8. rhoi amser a chyfle i ofalwyr drafod cynllun gofal a chymorth yr unigolyn, ac unrhyw bryderon am yr unigolyn
  9. trafod a chytuno ar lefel y cymorth a'r math o gymorth y mae ar y gofalwr eu hangen, gyda'r gofalwr
  10. gwneud trefniadau i ddarparu unrhyw gyfarpar cytunedig ac addasiadau amgylcheddol y mae eu hangen i'r gofalwr gefnogi'r unigolyn
  11. cynnig cymorth i ofalwyr sy'n gyson â'u hanghenion nhw ac anghenion yr unigolyn
  12. rhoi gwybod yn llawn ac yn ddi-oed i'r aelod priodol o'r tîm gofal am unrhyw bryderon ynghylch gallu gofalwyr, neu addasrwydd yr amgylchedd, i fodloni anghenion yr unigolyn fel y'u hamlinellir yn y cynllun gofal a chymorth
  13. darparu gwybodaeth i ofalwyr am sut a phryd i gysylltu â'r tîm gofal
  14. rhoi cymorth i ofalwyr yn ystod y pontio o un gwasanaeth i wasanaeth arall
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i bobl eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn a'r gofalwr
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. y gweithdrefnau a'r dulliau yn gysylltiedig â chydlynu'r timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn gwasanaethau ac ar draws gwasanaethau
  12. sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  13. pwysigrwydd cael cytundeb yr unigolyn a'r tîm gofal i roi gwybodaeth i bobl eraill a pham dylid enwi'r bobl fydd yn ei chael, a chytuno ar hynny
  14. pwysigrwydd cynnig cymorth sy'n gyson ag angen
  15. pwysigrwydd sefydlu'r cymorth y mae ar ofalwyr ei angen gyda nhw a'u hannog i chwarae rhan mor weithgar â phosibl
  16. pwrpas rhoi cymorth i ofalwyr a ffyrdd effeithiol o wneud hyn
  17. pwrpas a chynnwys y cynllun gofal a chymorth
  18. pwrpas rhoi cymorth pan fydd yr unigolyn yn newid o un darparwr gwasanaeth i ddarparwr arall
  19. y problemau sy'n cael eu hachosi gan gamweithredu
  20. patrymau anhrefn a allai effeithio ar ffordd yr unigolyn o fyw
  21. gallu'r gofalwr i reoli ei rôl ofalu
  22. y galwadau y mae rôl y gofalwr yn eu gosod ar unigolyn a'r tensiwn rhwng hyn ac ymrwymiadau eraill posibl allai fod gan yr unigolyn
  23. arwyddion a fyddai'n awgrymu problemau neu broblemau posibl ynghylch gallu gofalwyr, neu addasrwydd yr amgylchedd; pam y dylid rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn ddi-oed, ac i bwy
  24. y pryderon y mae unigolyn yn debygol o'u cael yn gysylltiedig ag amodau a chymorth
  25. yr effeithiau y gall dibyniaeth/annibyniaeth eu cael ar yr unigolyn, ar ofalwyr ac ar ddarparu'r gwasanaeth
  26. strategaethau dysgu ac addysgu a'u haddasiadau i wahanol ofalwyr
  27. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel  

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN20

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Galluogi, gofalwyr, cefnogi, cymorth, unigolyn