Rhoi gwybod i unigolyn am drefniadau rhyddhau

URN: SFHGEN16
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo â rhyddhau unigolyn o wasanaeth gofal iechyd ar ôl i'r ymarferwr priodol benderfynu rhyddhau'r unigolyn.

Mae'r safon hon yn addas i unrhyw un y mae disgwyl iddo gynorthwyo â rhyddhau unigolyn o wasanaethau gofal iechyd.  Gall yr unigolyn gael ei ryddhau i ofal gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol eraill, neu i'w ofal ei hun, sy'n cynnwys gofal a ddarperir gan aelodau'r teulu a/neu bobl eraill arwyddocaol.

Mae'r safon yn cynnwys gweithdrefnau rhyddhau clinigol ac mae'n cynnwys gwirio nodiadau rhyddhau, trosglwyddo gwybodaeth ac, yn achos unigolion sy'n cael eu rhyddhau i'w gofal eu hunain, darparu cyngor a gwybodaeth am ôl-ofal.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. darparu cyngor a gwybodaeth i ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gan yr unigolyn, yn unol â chwmpas eich ymarfer
  9. cael unrhyw awdurdod angenrheidiol ar gyfer rhyddhau gwybodaeth, cyn gwneud hynny
  10. rhoi manylion i'r unigolyn, y gofalwr neu berson arall arwyddocaol am:

    • y trefniadau rhyddhau
    • cydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
    • ôl-ofal
  11. gwirio a chadarnhau bod yr unigolyn, y gofalwr neu'r person arall arwyddocaol wedi deall y wybodaeth ryddhau.

  12. cynnal cyfrinachedd gwybodaeth, yn gyson â deddfwriaeth a pholisïau eich cyflogwr
  13. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN16

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Rhoi gwybod, trefniadau, rhyddhau