Darparu cyngor a gwybodaeth i unigolion ynghylch sut i reoli’u cyflwr eu hunain

URN: SFHGEN14
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â sefydlu gofynion unigolion am wybodaeth a darparu cyngor a gwybodaeth i’w galluogi i reoli’u cyflwr, a mabwysiadu ffordd addas o fyw i wneud y mwyaf o’u hiechyd a’u lles.  Mae ‘unigolyn’ yn y safon hon yn cael ei ddefnyddio i olygu unrhyw un y dowch i gysylltiad â nhw, boed yn ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teulu neu berson arall arwyddocaol, cydweithwyr, neu weithwyr proffesiynol eraill.  Mae angen i chi uniaethu â phob person fel rhywun sydd â’i anghenion penodol ei hun am wybodaeth a chyngor, a datblygu dealltwriaeth lawn o’i ofynion a’r ffordd orau o fodloni’r rhain.  Mae’r safon hon yn dibynnu ar allu cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gennych ac ymateb i unrhyw ymholiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. creu amgylcheddau sy'n addas ar gyfer trafodaethau cyfrinachol
  9. esbonio'n glir:

    • pwy ydych chi a'ch rôl wrth ddarparu cyngor a gwybodaeth
    • enw a natur y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli
    • polisi eich sefydliad ar gyfrinachedd a chadw cofnodion
    • dysgu am ffordd yr unigolyn o fyw ac asesu'n gyffredinol p'un a ellir addasu ffordd yr unigolyn o fyw, a sut, fel y gall yr unigolyn reoli'i gyflwr ei hun 
  10. galluogi unigolion i fynegi'u gofynion am gyngor a gwybodaeth

  11. dysgu beth yw lefel gwybodaeth yr unigolyn am ei gyflwr ac unrhyw gamsyniadau sydd ganddo
  12. llunio asesiad o ofynion yr unigolyn a chadarnhau hyn gyda'r unigolyn
  13. esbonio'r manteision y gallai addasu'i ffordd o fyw eu cael ar gyflwr yr unigolyn
  14. dangos parch tuag at bobl fel unigolion wrth ryngweithio â nhw a chydnabod eu hanghenion diwylliannol a chrefyddol, a'u hawliau i wneud eu penderfyniadau eu hunain yng nghyd-destun eu bywyd eu hunain
  15. cyfeirio'r unigolyn at ffynonellau cyngor a gwybodaeth ychwanegol neu wahanol fel y bo'n briodol i fodloni'i anghenion
  16. ymateb yn briodol i unrhyw bryderon allai fod gan yr unigolyn am addasu'i ffordd o fyw
  17. cytuno ar dargedau cyflawnadwy gyda'r unigolyn i wneud y mwyaf o'i iechyd a'i les
  18. helpu'r unigolyn i ddatblygu cynlluniau i addasu'i ffordd o fyw a chytuno ar gamau gweithredu, targedau ac unrhyw gymorth ychwanegol y mae arno'i angen
  19. cytuno ar ddyddiad i adolygu cynnydd a gofynion yr unigolyn
  20. cynnal cyfrinachedd gwybodaeth a geir oddi wrth unigolion a rhannu gwybodaeth dim ond gyda'r bobl hynny sydd â hawl i'w gwybod ac y mae arnynt angen ei gwybod
  21. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl o ran gwella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  14. natur yr amodau y mae eich sefydliad yn ymdrin â nhw, eu gwahanol ffurfiau a'u heffaith ar unigolion a'u teuluoedd
  15. eich gwerthoedd, eich credoau a'ch agweddau chi, a sut y gallent effeithio ar eich gwaith
  16. pam mae'r gallu i wrando'n effeithiol yn bwysig
  17. sut i adnabod y math o wybodaeth a chyngor y gall unigolion fod yn ceisio gofyn amdano pan nad oes ganddynt yr eirfa, yr hyder na'r sgil i roi disgrifiad cywir
  18. y wybodaeth y mae ar bobl ei hangen er mwyn gallu gwneud dewisiadau gwybodus o ran ffordd o fyw
  19. sut y gall addasu ffordd o fyw alluogi unigolyn i reoli'i gyflwr ei hun
  20. yr amrywiaeth o resymau posibl sydd gan bobl dros wrthsefyll newid a sut i nodi a goresgyn y rhesymau hyn
  21. yr effaith a gaiff ymrymuso unigolion i reoli'u cyflyrau eu hunain ar yr unigolyn, ei deulu/gofalwr ac ar wasanaethau iechyd
  22. sut i helpu pobl i ddatblygu cynlluniau realistig a chyflawnadwy i addasu'u ffyrdd o fyw
  23. pwysigrwydd monitro ac adolygu cynnydd tuag at addasu ffordd o fyw, a sut i wneud hynny'n effeithiol
  24. sut gallai credoau diwylliannol neu grefyddol unigolyn effeithio ar ei allu i addasu'i ffordd o fyw mewn ffyrdd penodol a sut i ymateb i hyn
  25. yr ystod o wasanaethau sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol i bobl y mae angen gwybodaeth a chymorth arnynt i wneud a chynnal newidiadau i'w ffordd o fyw, a sut i gael at y gwasanaethau hyn
  26. sut i greu amgylcheddau sy'n addas ar gyfer trafodaethau cyfrinachol
  27. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN14

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cyngor, gwybodaeth, cyflwr