Cael gwybodaeth ategol i lywio asesiad unigolyn

URN: SFHEUSC02
Sectorau Busnes (Suites): Gofal heb ei drefnu a gofal brys mewn argyfwng
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth i gefnogi a llywio’r asesiad o statws iechyd ac anghenion unigolyn y mae angen cymorth meddygol arno.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl berthnasol eraill yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. esbonio'ch rôl a'r wybodaeth y mae arnoch ei hangen
  9. gwirio a chadarnhau a oes gan unrhyw bobl berthnasol eraill sy'n gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth yr awdurdod i:

    • roi gwybodaeth berthnasol i chi am yr unigolyn
    • rhoi cydsyniad gwybodus lle nad yw'r unigolyn yn gallu gwneud hynny yn uniongyrchol 
  10. cael cydsyniad gwybodus gan unrhyw bobl berthnasol eraill sy'n gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth, lle y bo'n briodol, i rannu'r wybodaeth a ddarparant

  11. cael manylion am statws iechyd blaenorol yr unigolyn a'i amgylchiadau dros gyfnod digonol i lywio'r asesiad, yn unol â'r symptomau y mae'r unigolyn yn eu cyflwyno
  12. defnyddio cwestiynau priodol i archwilio, egluro a chadarnhau unrhyw wybodaeth anarferol neu amwys
  13. gwirio a chadarnhau bod y wybodaeth yn ddibynadwy, yn gyfredol a'i bod yn perthyn i'r unigolyn
  14. cefnogi'r asesiad gyda darlun mor gyflawn a chywir â phosibl o'r unigolyn
  15. trin pob gwybodaeth a roddir i chi yn gyfrinachol, yn unol â pholisi ac ymarfer y sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  13. pa dystiolaeth y dylech ei cheisio i arddangos gallu ac awdurdod trydydd parti i ddarparu gwybodaeth am unigolyn y mae angen cymorth meddygol arno
  14. y ffyrdd y gall system gredoau unigolyn ddylanwadu ar ei barodrwydd i rannu gwybodaeth bersonol gyda chi neu bobl eraill a pham mae'n bwysig eich bod chi'n parchu'r safbwyntiau hyn
  15. y rhesymau pam y dylai eich rôl a'ch cyfrifoldebau gael eu hesbonio bob amser wrth gymryd gwybodaeth
  16. y wybodaeth y mae angen ei chasglu a pham mae angen hyn
  17. pam mae angen casglu gwybodaeth dros gyfnod digonol a sut gallai hyn amrywio o gyd-destun i gyd-destun
  18. y camau y byddech yn eu cymryd i geisio egluro neu gadarnhau unrhyw wybodaeth sy'n amwys neu sydd ar goll o adroddiad unigolyn neu drydydd parti
  19. pa fath o wybodaeth y byddai'n bwysig ei chael am yr amgylchiadau sy'n arwain at unigolyn angen cymorth meddygol ar unwaith
  20. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHEUSC02

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gwybodaeth; cael, unigolyn; asesiad