Galluogi plant a phobl ifanc i ddeall eu hiechyd a’u lles

URN: SFHCS20
Sectorau Busnes (Suites): Arolygwyr Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Plant a Phobl Ifanc
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Yn y safon hon, mae’r ymarferwyr yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu sefyllfa o ran eu hiechyd a’u lles. Mae iechyd a lles yn cynnwys lles corfforol, meddyliol ac emosiynol y plentyn neu’r person ifanc. Gwneir hyn yn ystod hynt arferol gwaith yr ymarferwr ac efallai na chaiff ei gyflawni mewn sesiwn unigol. Mae angen i’r ymarferwr ddatblygu cysylltiad a pherthynas barchus, ymddiriedus gyda’r plentyn neu’r person ifanc, a chyflawnir hyn trwy eu cynnwys wrth drafod eu sefyllfa. Yna, gallant archwilio gyda’r plentyn neu’r person ifanc beth mae’n ei deimlo am y sefyllfa, a beth hoffai’r plentyn neu’r unigolyn ifanc iddo ddigwydd iddo. Bydd hyn hefyd yn cynnwys pobl sy’n ymwneud â’u gofal, ond mae’r plentyn neu’r unigolyn ifanc yn ganolog i’r broses hon. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. arsylwi ymddygiad y plentyn neu'r person ifanc a nodi unrhyw newidiadau annisgwyl neu bryderon
  9. trafod, gyda'r plentyn neu'r person ifanc, ei farn am ei iechyd a'i lles, a'i helpu i:

    • ennill dealltwriaeth o natur ei anghenion a'i helpu i'w blaenoriaethu
    • nodi'i nodau iechyd a'r hyn sy'n well ganddo o ran ei iechyd 
  10. ymgynghori â'r plentyn neu'r person ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal, am eu barn am y cymorth y mae ei angen arnynt er mwyn deall a rheoli'u sefyllfa a hybu'u hiechyd a'u lles eu hunain 

  11. esbonio'n glir i'r plentyn neu'r person ifanc, ac i'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal, yr opsiynau sydd ar gael iddo
  12. rhoi unrhyw wybodaeth seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael am effeithiolrwydd, buddion a risgiau'r gwahanol opsiynau i'r plentyn neu'r person ifanc, ac i'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal
  13. galluogi'r plentyn neu'r person ifanc i chwarae rhan weithgar mewn penderfyniadau sy'n effeithio arno
  14. ymateb yn sensitif i unrhyw faterion y mae'r plentyn neu'r person ifanc, neu'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal, yn eu codi
  15. cefnogi'r plentyn neu'r person ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal, i gyfathrebu â'i gilydd trwy ddull seiliedig ar bartneriaeth
  16. cynorthwyo'r plentyn neu'r person ifanc a'r bobl sy'n ymwneud â'i ofal i amlygu'r ystyriaethau allweddol yn gysylltiedig â'i iechyd a'i les
  17. eu hannog nhw i ganlyn ffyrdd o ddeall a hybu'u hiechyd a'u lles eu hunain a thrafod unrhyw bryderon sydd ganddynt am hyn
  18. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl mewn gwella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  14. rolau ymarferwyr eraill sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, a theuluoedd, a sut maent yn perthyn rhwng ac ar draws asiantaethau
  15. pwysigrwydd gweithio amlasiantaeth effeithiol
  16. egwyddor cyfrinachedd a'r goblygiadau i'ch ymarfer
  17. egwyddorion ac ymarfer mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn
  18. sut i adnabod ac ymateb i arwyddion o anaf, camdriniaeth neu esgeulustod, a'ch cyfrifoldeb o ran codi pryderon gyda'r person neu'r asiantaeth briodol
  19. systemau, gweithdrefnau a phrotocolau ar gyfer diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
  20. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac arfer gwrthwahaniaethol, a sut cânt eu cymhwyso
  21. y cysylltiadau rhwng anfantais economaidd gymdeithasol, lles meddyliol ac anghydraddoldebau iechyd
  22. hawliau plant a phobl ifanc i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ac i gymryd risgiau yng nghyd-destun eu bywyd eu hunain, gan gyfrif am ystyriaethau galluedd a'ch cyfrifoldeb proffesiynol
  23. sut i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'u gofal, a chyfathrebu'n effeithiol â nhw
  24. y ffyrdd y mae plant a phobl ifanc yn cyfathrebu'n ddieiriau a thrwy ymddygiad, yn ogystal â thrwy iaith, a sut gellir dehongli gwahanol fathau o ymddygiad
  25. y math o anawsterau cyfathrebu a pherthynas a all ddigwydd, a beth i'w wneud i oresgyn anawsterau cyfathrebu a pherthynas
  26. sut i nodi a gweithio gydag effeithiau trawma ar bobl ifanc
  27. pwysigrwydd mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn/unigolyn ifanc
  28. yr amodau a'r materion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc ym maes eich ymarfer a sut gallant gydberthyn
  29. datblygiad plant a phobl ifanc, gan gynnwys datblygiad emosiynol, corfforol a chymdeithasol, a sut maent yn effeithio ar ei gilydd
  30. sut gall anghenion ymddygiad plant a phobl ifanc effeithio ar bobl eraill
  31. effaith y gallu i fagu plant, teulu, yr amgylchedd a dylanwadau diwylliannol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc
  32. pwysigrwydd gweithio mewn ffordd sy'n hwyluso ac yn galluogi, a sut i wneud hyn
  33. sut mae plant a phobl ifanc yn gweld ac yn profi'r byd mewn ffyrdd gwahanol a goblygiadau hyn i'r ffordd rydych chi'n ceisio'u helpu i ddeall eu hiechyd a'u lles
  34. y gwahanol ffyrdd y mae babanod a phlant yn ffurfio ymlyniadau a sut gall y rhain newid gydag amser
  35. sut i gefnogi plant a phobl ifanc ag anhawster datblygiadol neu anabledd, a'u teulu, eu rhieni a'u gofalwyr
  36. y wybodaeth a'r arweiniad sydd ar gael i blant a phobl ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'u gofal, a sut i gael at y rhain
  37. gweithwyr proffesiynol, rhwydweithiau ac asiantaethau eraill sydd ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, a'r bobl sy'n ymwneud â'u gofal, a sut i gael at y rhain
  38. sut i symbylu ac annog plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn a sut i ymrymuso ac annog rhieni a gofalwyr i wneud yr un peth
  39. gwerth dulliau priodol i oedran o helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hunain a'r byd o'u cwmpas, yn ogystal â'u helpu i hybu'u hiechyd a'u lles a gwireddu eu potensial
  40. effaith bosibl y gwaith hwn arnoch chi, a sut i fanteisio ar oruchwyliaeth neu gymorth arall pan fydd angen
  41. effaith pontio ar ddatblygiad plant
  42. sut i adnabod arwyddion o oedi datblygiadol posibl, anabledd neu gyflyrau iechyd sydd heb gael diagnosis, ac i bwy y dylid atgyfeirio'r plentyn neu'r unigolyn ifanc am ymchwiliadau pellach a diagnosis
  43. rôl rhieni neu ofalwyr o ran hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc
  44. gwahanol ddulliau magu plant, cefndiroedd ac arferion, a'r goblygiadau i helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i hybu'u hiechyd a'u lles eu hunain
  45. amrywiaeth rhwydweithiau teuluol, gofal a chymdeithasol plant a phobl ifanc, ac effaith y rhain ar eu hiechyd a'u lles
  46. y ffactorau sy'n cyfrannu at risg niwed i blant a phobl ifanc
  47. strategaethau a rhaglenni hybu iechyd i blant, pobl ifanc a theuluoedd
  48. y canllawiau sydd ar gael ar gyfer eich ymarfer eich hun a ble i gael atynt
  49. materion, ymchwil ac ymarfer presennol seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'ch rôl
  50. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCS20

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Plant; Pobl ifanc; iechyd; lles