Darparu therapi tylino chwaraeon i gleientiaid

URN: SFHCNH27
Sectorau Busnes (Suites): Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Tach 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu therapi tylino chwaraeon i gleientiaid i wella tyndra yn y cyhyrau a thrin mân-anafiadau a gafwyd yn sgil gweithgaredd. Gellir defnyddio therapi tylino chwaraeon i drin cyflyrau cyhyrysgerbydol unrhyw unigolyn. 
Yn ystod rhan oddrychol yr ymgynghoriad, bydd y therapydd yn cynnal asesiad o iechyd y cleient yn gyffredinol a’r materion penodol yn ymwneud â’u gweithgaredd ac unrhyw boen mae’n ei brofi. Yna, bydd y therapydd yn cynnal asesiad gwrthrychol sy’n ymchwilio ymhellach i gyflwr corff y cleient. Cymerir deilliannau mesuradwy o’r ymgynghoriad, fydd yn darparu gwybodaeth i werthuso canlyniadau’r driniaeth.
Mae angen i therapyddion fod yn ymwybodol o arwyddion o berygl a gwrtharwyddion a dylent ddefnyddio eu gwybodaeth am anatomeg, ffisioleg a phatholeg mewn achosion lle mae angen iddyn nhw wrthod triniaeth ac atgyfeirio at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Gellir gweld cleifion ar un achlysur neu ar sawl achlysur, pan fydd y therapyddion yn monitro’r cynnydd, yn addasu’r triniaethau dilynol ac yn rhoi cyngor. 
Gellir cynnal triniaethau mewn sawl lleoliad, fel: ystafell driniaeth, ystafelloedd newid timau, ar lawr lleoliad neu ar y maes chwarae. Rhaid ystyried safleoedd trin amrywiol ar gyfer y cleient, er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfforddus. Gellir rhoi triniaeth sydd â chanlyniadau amrywiol a ragwelir, fel triniaethau cyn digwyddiad, rhwng digwyddiadau/yn ystod digwyddiad, ar ôl digwyddiad neu driniaeth cynnal.
Gall y technegau a ddefnyddir yn ystod triniaeth gynnwys: 

  • Effliwedd (Effleurage)
  • Petrisedd (Petrissage)
  • Tapio (Tapotement)
  • Cywasgedd
  • Dirgryniadau
  • Ffrithiannau
  • Rhyddhau meinwe meddal
  • Technegau egni’r cyhyrau
  • Technegau Myoffaswegol
  • Rhyddhau lleoliadol
  • Therapi pwynt trothwy niwrogyhyrol 
  • Ymestyn goddefol
  • Defnyddio gwres ac iâ i gyd-fynd ag anghenion y cleientiaid


Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. sicrhau bod yr amgylchedd yn bodloni anghenion y cleient o ran cysur ac urddas  2. paratoi amgylchedd, cyfarpar a deunyddiau’r driniaeth, gan sicrhau cydymffurfiaeth ag arferion hylendid da a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, gan reoli risgiau fel bo’n briodol  3. dilyn canllawiau cymeradwy ar gyfer presenoldeb hebryngwr, yn ôl yr angen 4. adolygu unrhyw nodiadau triniaeth blaenorol lle bo’n berthnasol a chadarnhau na fu unrhyw newidiadau ers y driniaeth flaenorol  5. cyfathrebu â’r cleient mewn modd sy’n briodol i ddealltwriaeth y cleient, a mynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau posibl sydd ganddo  6. cael manylion personol y cleient a gwybodaeth am ei ffordd o fyw, manylion unrhyw hanes meddygol blaenorol a’r cyflwr presennol  7. cadarnhau y cafwyd cydsyniad gwybodus yn gysylltiedig â chynnal y driniaeth  8. cael gwybodaeth sy’n berthnasol i’r rhybuddion a’r gwrtharwyddion i dylino ac ymateb mewn ffordd briodol  9. pan fydd angen, atgyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol 10. arsylwi, teimlo, asesu a symud y mannau o’r corff dan sylw mewn ffyrdd sy’n briodol i’r cleient a’i anghenion  11. cytuno ar natur, nodau ac amcanion y dull tylino i’w ddefnyddio gyda’r cleient, gan gynnwys unrhyw gyfarpar i’w ddefnyddio  12. dyfeisio strategaeth dylino chwaraeon gyfredol, a’i diweddaru yn ôl yr angen, sy’n briodol ar gyfer canlyniad dymunol y driniaeth, anghenion y cleient ac o fewn cwmpas eich ymarfer 13. addasu’r driniaeth er mwyn ymateb i gyflyrau oedd yn bodoli eisoes a phrosesau clefydau  14. pennu a chofnodi canlyniadau mesuradwy goddrychol a/neu wrthrychol  15. paratoi’r rhan perthnasol o’r corff gan barchu urddas y cleient  16. sicrhau bod y cleient yn y safle cywir, yn ddiogel ac yn gyfforddus trwy gydol y driniaeth tylino chwaraeon  17. defnyddio dulliau tylino yn gywir ac yn gyson er mwyn bodloni anghenion y cleient 18. addasu’r dull a’r osgo personol er mwyn gofalu am iechyd cyhyrysgerbydol y therapydd  19. monitro’r effeithiau a chymryd camau priodol os bydd y cleient yn ymateb yn negyddol i’r driniaeth  20. darparu’r deunyddiau priodol a chymorth i’r cleient er mwyn tynnu’r cyfrwng tylino yn ôl yr angen  21. cofnodi ac ymateb yn briodol i adborth gweledol ac ar lafar wrth ddefnyddio dulliau tylino  22. ailasesu a chofnodi deilliannau mesuradwy goddefol a gwrthrychol  23. gwerthuso canlyniadau ac effeithiolrwydd y driniaeth gyda’r cleient er mwyn cynorthwyo cynlluniau a chamau yn y dyfodol  24. darparu gwybodaeth a chyngor i’r cleient ynghylch ôl-ofal sy’n benodol i’w cyflwr  25. cwblhau, storio a chynnal cofnodion cywir yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol  26. atgyfeirio a/neu adrodd ar gynnydd i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol a dilyn ei gyfarwyddiadau yn ôl yr angen 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y ddeddfwriaeth genedlaethol gyfredol, canllawiau, polisïau sefydliadol, codau moeseg a phrotocol sy’n effeithio ar yr amgylchedd gwaith, cwmpas ymarfer ac arferion gweithio rhwng y therapydd a phobl eraill 
2. pwysigrwydd hylendid a glendid personol ac yn yr amgylchedd, a’r safonau y dylid eu defnyddio wrth dylino mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd 
3. pwysigrwydd presenoldeb hebryngwr addas wrth weithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed, a’r egwyddorion a’r ddeddfwriaeth i’w dilyn sy’n gysylltiedig â’u hamddiffyn 
4. egwyddorion a dulliau cael cydsyniad gwybodus cyn asesu a defnyddio technegau tylino chwaraeon, a phwysigrwydd gweithio o fewn eich cwmpas ymarfer eich hun 
5. y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch presennol ar gyfer cyfarpar a ddefnyddir yn ystod y driniaeth
6. y gweithdrefnau ar gyfer cadw gwybodaeth glir a chywir am y cleient, a chofnodion triniaeth 
7. sut i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer storio gwybodaeth yn ymwneud â manylion y cleient a thriniaethau 
8. sut i adrodd neu atgyfeirio i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a pham mae’n bwysig dilyn eu cyfarwyddyd 
9. yr anatomeg, y ffisioleg a’r batholeg sy’n berthnasol i’r asesiad, y broses ac effeithiau technegau tylino chwaraeon 
10. y system cyhyrysgerbydol a sut mae’n rhyngweithio â’r system nerfol
11. egwyddorion biomecaneg er mwyn llywio asesiadau, triniaeth ac ôl-ofal 
12. arwyddion clinigol clefyd dynol a chamweithrediad er mwyn adnabod gwrtharwyddion, arwyddion negyddol, anafiadau a phatholeg sylfaenol 
13. effeithiau ffisiolegol, cylchredol a niwrolegol dulliau tylino 
14. effeithiau maetheg ar anafiadau a phatholeg 
15. effaith bosibl cyflwr seicolegol y cleient ar wella o anaf
16. gweithredoedd a sgil effeithiau cyffuriau yn y categorïau uchaf er mwyn deall effaith bosibl meddyginiaeth ar gyflwr y cleient
17. effeithiau ffisiolegol defnyddio iâ a gwres
18. dulliau, arwyddion a gwrtharwyddion yn ymwneud â defnyddio iâ a gwres
19. materion penodol i chwaraeon a allai ddylanwadu ar y driniaeth 
20. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol ar gyfer anghenion yr unigolyn 
21. pwysigrwydd cael gwybodaeth er mwyn:
21.1 gwneud damcaniaeth wybodus am natur cyflwr y cleient 
21.2 amlygu cyflyrau oedd yn bodoli eisoes
21.3 amlygu rhybuddion, gwrtharwyddion a pheryglon
21.4 llywio profion gwrthrychol
22. dylanwad posibl baneri melyn ar ganlyniad y driniaeth 
23. sut i adnabod pan allai’r cyflwr dan sylw ddeillio o broblem niwrolegol ac mae angen atgyfeirio i weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall 
24. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau a chredoau’r cleient, a sut i wneud hynny
25. cyfraniad posibl effeithiau seicolegol sy’n codi o’r rhyngweithio rhwng y therapydd a’r cleient 
26. sut i ddadansoddi arwyddion o nam o ran osgo, anaf, anghymesuredd a chamweithrediad biomecanyddol  
27. nodweddion teimladol meinwe arferol ac anarferol y corff 
28. yr ystod arferol o fesuriadau symud sydd ar gael ym mhob cymal
29. y teimlad normal, ac annormal o bosibl, ar y diwedd ym mhob cymal, wrth gyflawni ystod oddefol o symudiadau
30. dull a graddfeydd mesur dulliau profi cryfder
31. pwysigrwydd asesu ac ailasesu cywir
32. sgiliau datrys problemau er mwyn cynllunio a chyfiawnhau triniaethau 
33. yr arwyddion a’r gwrtharwyddion ar gyfer technegau tylino chwaraeon 
34. sut i ddewis y technegau cywir i fodloni’r canlyniadau dymunol ar gyfer triniaethau cyn digwyddiad, yn ystod digwyddiad, ar ôl digwyddiad, cynnal ac anafiadau 
35. pwysigrwydd esbonio nodau ac amcanion tylino i’r cleient 
36. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth 
37. addasrwydd y dull tylino mewn perthynas â’r dechneg tylino a ddefnyddir a’r math o groen sydd gan y cleient
38. cynnwys y cyfrwng tylino, gan ystyried adwaith alergaidd posibl a gwrtharwyddion 
39. sut i baratoi’r ardal driniaeth a rhoi’r cleient yn ei safle ar gyfer y canlyniad triniaeth gorau posibl gan gynnal ei urddas a’i gysur trwy gydol y driniaeth
40. sut i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau tylino chwaraeon gan gyfeirio’n benodol at symud y dwylo, y ffordd o ddarparu, safle, osgo, dyfnder y pwysau, cyfeiriad a rhythm y symud
41. pwysigrwydd safle’r cleient a dilyniant y driniaeth ar gyfer trin edema yn ymwneud ag anaf
42. y sefyllfaoedd lle mae angen dileu’r cyfrwng tylino er mwyn cydymffurfio â rheoliadau chwaraeon
43. yr ymatebion negyddol posibl i’r driniaeth a’r camau i’w cymryd os amlygir y rhain 
44. y wybodaeth ofynnol wrth gyfathrebu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill 
45. sut i ddarparu:
45.1 gwybodaeth am ffordd o fyw
45.2 cyngor am ymatebion negyddol posibl i’r driniaeth 
45.3 cyngor am gyflyrau penodol yn ymwneud â thriniaeth 
45.4 cyngor am ofal cartref er mwyn rheoli’r anaf sy’n cael ei drin 
46. sut i werthuso pa mor effeithiol yw’r driniaeth tylino chwaraeon er mwyn cynorthwyo camau yn y dyfodol 
47. y rheidrwydd i ailasesu deilliannau mesuradwy yn gywir ar ôl y driniaeth er mwyn gwerthuso effeithlonrwydd 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Dylid defnyddio’r safon hon ar y cyd â SFHCNH1 a SFHCNH2.


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB7 Ymyriadau a thriniaeth 



Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCNH27

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC

3219

Geiriau Allweddol

chwaraeon; tylino, therapi; therapydd; technegau; meinwe; cyhyrau