Cynhyrchu delweddau fforensig o blant am arwyddion o gam-drin corfforol tybiedig

URN: SFHCI.N
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

Delweddu fforensig yw cymryd delweddau radiograffig er mwyn casglu tystiolaeth i’w chyflwyno yn y llys neu mewn gwrandawiadau ffurfiol. Mae’n cynnwys tynnu delweddau radiograffig confensiynol a delweddu trawstoriadol. Mae’r safon hon yn ymwneud â delweddu fforensig ar blant am arwyddion o gam-drin corfforol tybiedig. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal y plentyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau, ac mae’n cynnwys rhieni a gofalwyr y plant sy’n cael eu delweddu. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf. 

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cael y wybodaeth atgyfeirio gan yr asiantaeth berthnasol a chadarnhau a yw’r atgyfeiriad yn briodol  2. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill  3. cadarnhau a dogfennu y cafwyd cydsyniad dilys ysgrifenedig yn gysylltiedig ag archwiliadau delweddu fforensig yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 4. darparu gwybodaeth briodol yn ymwneud â’r archwiliad delweddu i’r bobl allweddol  5. cyfathrebu â’r plentyn a/neu’r bobl allweddol mewn ffordd sy’n briodol i’w hanghenion  6. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir i’r bobl allweddol, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau  7. sicrhau y cedwir cyfrinachedd yn ymwneud â’r achos presennol sy’n cael ei ystyried yn gyfreithiol 8. cynnal y broses ddelweddu yn unol â’r canllawiau cenedlaethol er mwyn cael tystiolaeth radiograffig  9. yn ôl yr angen, defnyddio technegau priodol gyda’r plentyn er mwyn cael delweddau o ansawdd uchel  10. sicrhau bod y delweddau o ansawdd uchel er mwyn gallu eu defnyddio at ddibenion diagnostig 11. adnabod unrhyw arwyddion a symptomau o ofid seicolegol yn y plentyn a/neu’r bobl allweddol a chymryd y camau priodol  12. dogfennu’r canfyddiadau a chymryd y camau priodol yn unol â’r canllawiau cenedlaethol 13. esbonio pwysigrwydd delweddu dilynol i bobl allweddol sydd ynghlwm â gofal y plentyn a sicrhau bod gweithdrefnau ar waith er mwyn helpu’r plentyn i ddychwelyd am archwiliad dilynol  14. defnyddio’r gweithdrefnau cywir er mwyn cynnal parhad y dystiolaeth radiograffig o ddechrau’r archwiliad hyd at ei defnyddio yn y llys  15. sicrhau y dilynir y gweithdrefnau cywir i gynnal safonau’r dystiolaeth ddigidol  16. sicrhau bod yr holl ddogfennaeth angenrheidiol wedi’i llenwi ar gyfer yr archwiliad radiograffig fforensig 17. cynhyrchu datganiadau ysgrifenedig a nodiadau ar y pryd sy’n cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol  18. cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir  2. y safonau, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a’r sail tystiolaeth cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt 3. y gofynion cyfreithiol ar gyfer y delweddau radiograffig i’w defnyddio yn y llys  4. y gofynion cyfreithiol ar gyfer safonau tystiolaeth ddigidol  5. parhad y dystiolaeth, gan gynnwys dilysrwydd ac uniondeb y dystiolaeth, trwy gydol yr archwiliad radiograffeg fforensig  6. y canllawiau cenedlaethol ar gyfer delweddu radiograffig fforensig a sut i roi’r rhain ar waith yn lleol mewn ymarfer fforensig  7. y dogfennau a’r prosesau gofynnol ar gyfer cynnal parhad y dystiolaeth 8. gofynion cyfreithiol datganiad ysgrifenedig a nodiadau ar y pryd  9. mae angen cydsyniad ysgrifenedig at ddibenion delweddu fforensig  10. yr achos cyfredol sy’n cael ei ystyried yn gyfreithiol mewn perthynas â delweddu radiograffig fforensig   11. sut i roi tystiolaeth yn y llys a rolau tystion arbenigol, tystion proffesiynol a thystion   12. yr agweddau seicolegol ar ddelweddu fforensig a’r effaith bosibl ar unigolion, plant a phobl allweddol  13. arwyddion a symptomau straen a sut i leihau’r risg o anhwylder straen wedi trawma yn eich hunan, cydweithwyr a phobl allweddol  14. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  15. sut i gyfathrebu â’r unigolion a’r asiantaethau sydd ynghlwm â’r broses ddelweddu fforensig 16. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion y plentyn a/neu’r bobl allweddol  17. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i blant a/neu bobl allweddol  18. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i bobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth   19. y wybodaeth y dylid ei rhoi i bobl allweddol cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad  20. y cyfiawnhad meddygol-gyfreithiol dros atgyfeirio ar gyfer delweddu fforensig 21. y dangosyddion ar gyfer arolwg ysgerbydol yn ymwneud â cham-drin corfforol tybiedig mewn plant  22. y gofynion technegol ar gyfer cynnal arolwg ysgerbydol ar gyfer cam-drin corfforol tybiedig mewn plant  23. y dulliau a ddefnyddir i ddelweddu ar gyfer cam-drin corfforol tybiedig mewn plant 24. gofynion delweddu dilynol ar gyfer cam-drin corfforol tybiedig mewn plant 25. yr anafiadau sy’n awgrymu cam-drin corfforol tybiedig mewn plant 26. y diagnosisau gwahaniaethol sy’n awgrymu cam-drin corfforol tybiedig mewn plant  27. dehongli delweddau yn ymwneud â delweddu fforensig a delweddu trawstoriadol a sut i amlygu annormaleddau ar ddelweddau a chymryd y camau priodol  28. y protocolau ar gyfer delweddu plant 29. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol  

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCI.N

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; fforensig; diagnostig; clinigol; delweddau; plant; cam-drin