Cynhyrchu sganiau amsugnometreg pelydr-x ynni deuol (DXA) at ddibenion diagnostig

URN: SFHCI.M
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio amsugnometreg pelydr-x ynni deuol (DXA) i gynhyrchu sganiau a ddefnyddir ar gyfer mesuriadau màs esgyrn a chyfansoddiad y corff ac i ddadansoddi delweddau er mwyn rhoi diagnosis osteoporosis a sarcopenia. Dylid cynhyrchu sganiau DXA o fewn cwmpas eich rôl a’ch ymarfer eich hun. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill 
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses 
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
5. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â’r safonau cenedlaethol 
6. cyflwyno eich hunan ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad 
7. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad 
8. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall yr archwiliad gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen 
9. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 
10. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn 
11. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau 
12. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol
13. cadarnhau statws y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn y canllawiau lleol 
14. gosod yr unigolyn yn ei safle ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad i’w gyflawni mewn ffordd sy’n galluogi cyflawni’r canlyniad gorau posibl gan:
14.1 gydnabod angen yr unigolyn i gadw ei urddas a’u hunan barch 
14.2 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl 
14.3 atal presenoldeb arteffactau 
15. cael cadarnhad bod yr unigolyn yn barod cyn gwneud yr amlygiad 
16. cadw mewn cysylltiad â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn hwyluso eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad trwy gydol yr archwiliad  
17. cadw golwg ar gyflwr a lles yr unigolyn bob amser a chymryd camau priodol 
18. ystyried elfennau technegol y sganiwr mewn perthynas â’r mannau anatomegol i’w sganio 
19. sicrhau bod y paramedrau technegol cywir wedi’u dewis ac asesu’r ardal gywir yn barod i’w dadansoddi 
20. ar ôl prosesu’r sgan, sicrhau bod yr holl safonau ansawdd yn gywir, gan gynnwys safleoedd anatomegol a demograffeg 
21. ar ôl yr archwiliad clinigol cychwynnol, rhoi gwybod i’r unigolyn priodol os gwelir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno 
22. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau 
23. cofnodi, casglu a pharatoi dogfennau, delweddau a dadansoddiadau sganiau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol 
24. gwirio bod y delweddau a’r data sganiau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl y protocol lleol 
25. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir  2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt  3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion  4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm 6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  7. priodolrwydd clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol  8. anatomeg y rhan o’r corff sy’n cael ei sganio  9. y prosesau ffisiolegol a phatholegol sy’n berthnasol i’r rhan o’r corff sy’n cael ei sganio 10. tirnodau anatomegol ar y corff sy’n berthnasol i ddelweddu DXA 11. y cymalau perthnasol yn y rhan o’r corff sy’n cael ei sganio a’u symudiadau  12. y patholegau perthnasol cyffredin ac amrywiadau normal ar y man sy’n cael ei sganio  13. terminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau  14. terminoleg lleoli, gan gynnwys talfyriadau  15. arwyddion o statws corfforol ac emosiynol unigolion  16. cynhyrchu, rhyngweithiadau a nodweddion pelydr-x 17. y broses sydd ynghlwm â ffurfio delweddau DXA 18. effeithiau niweidiol ymbelydredd ar y corff dynol a defnyddio cyfarpar amddiffyn rhag ymbelydredd  19. ffyrdd posibl o gofnodi, prosesu a storio delweddau yn barhaol  20. galluoedd y cyfarpar a’r gwahaniaethau rhwng manylebau’r gweithgynhyrchwyr, fydd yn effeithio ar y sganiau dilynol a sut i gymharu 21. y cyfyngiadau a’r prosesau sicrhau ansawdd dyddiol arferol sy’n ofynnol gan y gweithredwr 22. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn  23. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth 24. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad  25. ystyriaethau o ran maint, cyfansoddiad y corff a moddau sganio ar gyfer optimeiddio’r delweddau, fydd yn effeithio ar ddadansoddi gwerthoedd dwysedd mwynol esgyrn  26. newidynnau sy’n effeithio ar fesur dwysedd mwynol esgyrn a sut i ddewis moddau sganio priodol ar gyfer yr archwiliad a’r unigolyn fel sy’n briodol  27. gosod yr unigolyn yn y safle cywir mewn perthynas â’r rhan o’r corff sydd dan sylw  28. gofynion ansawdd technegol y ddelwedd ar gyfer cael mesuriadau manwl gywir a dibynadwy o ddwysedd mwynol esgyrn  29. adnabod arteffactau, eu heffaith a chamau priodol i leddfu neu gyfyngu eu heffaith  30. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ail-sganio neu dynnu delweddau ychwanegol mewn modd sganio gwahanol neu trwy addasu’r safle er mwyn helpu gyda’r diagnosis 31. y gofynion ar gyfer dadansoddi sganiau yn gywir  32. defnyddio data cyfeirio ac effaith y gronfa ddata cyfeirio a ddewisir ar ganlyniadau’r sgan  33. egwyddor y newid lleiaf sylweddol yn gysylltiedig â’r bwlch cyn y sgan dilynol a’r newid ystadegol sylweddol dilynol mewn dwysedd mwynol esgyrn  34. pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain  35. gweithdrefnau yn ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi dogfennau, delweddau a dadansoddiadau sgan priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol  36. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol  

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCI.M

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; DEXA; diagnostig; clinigol; delweddau; esgyrn; dwysedd; osteoporosis; osteopenia; sarcopenia