Cynhyrchu delweddau gan ddefnyddio fflworosgopeg

URN: SFHCI.F
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag archwilio strwythurau anatomegol gan ddefnyddio fflworosgopeg. Gwneir hyn fel rhan o broses ddiagnostig a/neu driniaeth. Bydd y canlyniadau’n cyrraedd ansawdd digonol er mwyn cynorthwyo diagnosis a/neu driniaeth. Dylid cyflawni’r safon hon o fewn cwmpas eich rôl. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill 
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad 
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn 
5. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol 
6. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad, a’u cydweithrediad 
7. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen 
8. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 
9. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn 
10. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau 
11. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol 
12. cadarnhau statws y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn y canllawiau lleol 
13. archwilio delweddau a gwybodaeth glinigol blaenorol berthnasol, os ydynt ar gael, i sicrhau y defnyddir y drefn a’r technegau cywir 
14. asesu cyflwr clinigol a chorfforol yr unigolyn cyn dechrau’r archwiliad gyda’r bwriad o barhau 
15. rhoi gwybodaeth glir i’r unigolion ynghylch sgil effeithiau defnyddio meddyginiaethau a chyfryngau cyferbyniol 
16. gosod yr unigolyn yn ei safle ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad i’w gyflawni mewn ffordd sy’n galluogi cael y canlyniad gorau posibl gan: 
16.1 gydnabod bod angen i’r unigolyn gadw ei urddas a’i hunan-barch 
16.2 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl
16.3 atal presenoldeb arteffactau
17. gosod y cyfarpar delweddu sy’n briodol i dechneg yr archwiliad, gyda’r esboniadau anatomegol neu’r anodiadau electronig wedi’u gosod yn y man cywir  
18. gosod, gwirio ac addasu’r ffactorau amlygiad priodol, cyflinellu a dyfeisiau amddiffyn rhag ymbelydredd er mwyn lleihau’r amlygiad â’r unigolyn gan optimeiddio ansawdd y delweddau diagnostig
19. sicrhau bod manylion yr unigolyn yn cael eu cofnodi’n gywir yn y cyfarpar fflworosgopeg neu, os ydynt wedi cael eu nodi’n flaenorol, gwirio a ydynt yn gywir 
20. gwirio’r ystafell cyn dechrau’r amlygiad er mwyn sicrhau mai unigolion hanfodol, wedi’u hamddiffyn yn unig sy’n aros gyda’r unigolion ac y cydymffurfiwyd â’r holl brotocolau lleol 
21. gweinyddu meddyginiaethau a chyfryngau cyferbynnu priodol yn unol â’r protocol lleol ar gyfer yr archwiliad
22. cael cadarnhad bod yr unigolyn yn barod cyn gwneud amlygiad a pharhau i gyfathrebu â’r unigolion/y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad trwy gydol yr archwiliad 
23. cadw golwg ar gyflwr a lles yr unigolyn bob amser a chymryd y camau priodol 
24. sicrhau bod yr holl brosesau lleihau/diogelu dos wedi’u defnyddio 
25. addasu’r cyfarpar i optimeiddio’r delweddau at ddibenion yr archwiliad
26. monitro a chofnodi amlygiad yr unigolyn i ymbelydredd ïoneiddio yn gywir trwy gydol yr archwiliad, gan gadw at reolau a phrotocol lleol
27. cofnodi delweddau parhaol lle bo angen ac yn unol â chanllawiau lleol ar gyfer yr archwiliad 
28. cydnabod diffygion cyfarpar yn ystod yr archwiliad a chymryd camau priodol 
29. gwirio manylion adnabod y delweddau yn erbyn dogfennau cysylltiedig 
30. archwilio’r delweddau i sicrhau bod yr ardal anatomegol yn gyson â’r cais am archwiliad, y wybodaeth glinigol a ddarparwyd a’r protocol lleol 
31. sicrhau bod y delweddau:
31.1 wedi’u labelu’n gywir gyda manylion adnabod a chyfeirio’r unigolyn
31.2 yn cael eu prosesu a’u harchwilio am ansawdd diagnostig a thechnegol boddhaol yn ôl y canllawiau a’r meini prawf lleol 
32. gwneud penderfyniad ynghylch a oes angen ailadrodd unrhyw ddelweddau neu dynnu delweddau ychwanegol er mwyn ymestyn yr archwiliad 
33. ar ôl yr archwiliad delweddu cychwynnol, rhoi gwybod i’r unigolyn priodol a welir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno, gan ddilyn protocol yr adran
34. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r broses ac ôl-ofal os bydd angen
35. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
36. cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol  
37. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl y protocol lleol 
38. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir 2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt 3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion 4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm 6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  7. priodolrwydd clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol 8. anatomeg y rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio 9. y prosesau ffisiolegol a phatholegol sy’n berthnasol i’r man sy’n cael ei archwilio  10. y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau  11. pryd mae angen edrychiadau sylfaenol ac ychwanegol er mwyn helpu’r diagnosis ac i ymestyn yr archwiliad   12. yr amrywiaeth o feddyginiaethau a chyfryngau cyferbynnu mewn archwiliadau fflworosgopeg a sut i’w defnyddio’n ddiogel  13. ymddygiad meddyginiaethau a chyfryngau cyferbynnu a sut gall hyn effeithio ar y delweddau a welir, a’u dehongliadau  14. yr amodau clinigol sy’n briodol ar gyfer archwiliad fflworosgopig  15. goblygiadau clinigol unrhyw alergeddau sy’n berthnasol i’r archwiliad  16. adnabod yr amrywiadau mewn anatomeg normal sy’n cael eu dangos gan fflworosgopeg a chyfryngau cyferbynnu o fewn cwmpas eich ymarfer  17. adnabod anatomeg abnormal sy’n cael ei ddangos gan fflworosgopeg a chyfryngau cyferbynnu pelydr-x ac arwyddocâd abnormaledd o’r fath o fewn cwmpas eich ymarfer  18. arwyddion o statws corfforol ac emosiynol yr unigolion  19. cynhyrchu, rhyngweithiadau a nodweddion pelydr-x  20. effeithiau niweidiol ymbelydredd ar y corff dynol a defnyddio cyfarpar amddiffyn rhag ymbelydredd 21. ffyrdd posibl o gofnodi, prosesu a storio delweddau yn barhaol 22. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn  23. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol  24. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth  25. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad 26. y rhyngberthynas rhwng Kilo Volt Peak (kVp) a Miliamper (mA) ac Amser (eiliadau) 27. newidynnau sy’n effeithio ar ffactorau amlygiad a sut i addasu ffactorau cysylltiad ar gyfer yr archwiliad a’r unigolyn yn ôl yr angen 28. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd  29. adnabod arteffactau a’u heffaith  30. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau  31. galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr  32. addasu’r delweddau a’r ôl-brosesu  33. pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain  34. gwrtharwyddion i’r archwiliad  35. paratoi’r unigolyn, y cyfarpar a’r amgylchedd ar gyfer archwiliadau fflworosgopig 36. cyfeirio a defnyddio esboniadau anatomegol ac anodiadau electronig yn briodol  37. yr amrywiaeth o dechnegau y gellir eu defnyddio i optimeiddio ansawdd y ddelwedd a’r ddos ar gyfer yr unigolyn, gan gynnwys dewis a darparu tafluniadau addas, defnyddio cyflinellu’n briodol a strategaethau i leihau’r ddos i unigolion a staff  38. rôl moddau delweddu ac ymchwiliadau diagnostig eraill  39. gweithdrefnau brys perthnasol a’r mathau o gyfarpar argyfwng sydd ar gael, a sut i’w defnyddio  40. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol  41. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCI.F

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; pelydr-x; diagnostig; clinigol; delweddau