Cynhyrchu delweddau atseiniol magnetig (MRI) at ddibenion diagnostig

URN: SFHCI.E
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar a gweithdrefnau delweddu atseiniol magnetig (MRI) i gynhyrchu delweddau at ddibenion diagnostig. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer atal a rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad 
4. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad, a’u cydweithrediad 
5. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn  
6. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol 
7. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad 
8. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen 
9. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad, a’u cydweithrediad 
10. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen 
11. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn 
12. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 
13. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau
14. gwirio diogelwch delweddu atseiniol magnetig trwy ddefnyddio rhestr wirio diogelwch delweddu atseiniol magnetig yr adran, gan gynnwys gwirio a oes gwrthrychau/prosthesisau ffero-fetelaidd a dyfeisiau meddygol wedi’u mewnblannu yn bresennol 
15. cymryd y camau priodol os gwelir bod unrhyw un o’r rhain yn bresennol 
16. gwirio a oes unrhyw wrtharwyddion ar gyfer y driniaeth arfaethedig a chymryd camau priodol er mwyn ymateb i’r risgiau a amlygwyd 
17. archwilio delweddau a gwybodaeth glinigol blaenorol berthnasol, os ydynt ar gael, i sicrhau y defnyddir y drefn a’r technegau cywir 
18. asesu cyflwr clinigol a chorfforol yr unigolyn cyn dechrau’r archwiliad gyda’r bwriad o barhau 
19. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol
20. cadarnhau statws diogelwch MRI y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn y canllawiau lleol 
21. nodi manylion adnabod yr unigolyn ar y sganiwr atseiniol magnetig neu, os nodwyd y manylion yn flaenorol, gwirio a ydynt yn gywir 
22. dewis yr holl ddilyniannau cywir sydd eu hangen ar gyfer y sgan yn unol â’r protocol lleol ar gyfer yr archwiliad, asesu a gwneud unrhyw addasiadau neu gamau gofynnol  
23. gosod yr unigolyn yn ei safle, darparu unrhyw amddiffyniad i’r clyw ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad i’w gyflawni mewn ffordd sy’n galluogi cael y canlyniad gorau posibl gan:
23.1 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl
23.2 atal presenoldeb arteffactau
24. gosod y coiliau, y ceblau a’r cyfarpar monitro Amledd Radio priodol yn gywir ac yn ddiogel 
25. gwirio’r ystafell cyn dechrau’r sgan i sicrhau mai unigolion hanfodol wedi’u hamddiffyn yn unig sy’n aros gyda’r unigolion, ac y cydymffurfir â’r holl reolau lleol, gan gymryd camau priodol yn ôl yr angen 
26. dechrau’r sgan a monitro cyflwr, cydymffurfiaeth a lles yr unigolyn trwy gydol y weithdrefn a chymryd camau sy’n briodol i’w anghenion 
27. creu ailfformatau aml-blanol (MPR) o’r setiau data perthnasol pan fydd hynny’n briodol
28. adolygu’r delweddau ar ôl gorffen y sgan er mwyn sicrhau eu bod yn dechnegol dderbyniol ac yn addas at ddibenion diagnostig 
29. adolygu’r delweddau i weld a ydynt yn dderbyniol yn glinigol, a chymryd y camau priodol, gan gynnwys delweddau pellach os oes angen 
30. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r broses ac ôl-ofal os bydd angen 
31. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
32. ar ôl yr archwiliad delweddu cychwynnol, rhoi gwybod i’r unigolyn priodol os gwelir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno 
33. optimeiddio, cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol 
34. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl y protocol lleol 
35. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir  2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt 3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion  4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm 6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  7. priodolrwydd clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol 8. anatomeg gyfan, arwynebedd a thrawstoriadol y rhannau o’r corff i’w sganio 9. ffisioleg berthnasol y mannau i’w sganio 10. y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau 11. yr amrywiadau normal cyffredin a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau atseiniol magnetig 12. gwrtharwyddion sganio atseiniol magnetig, gan gynnwys absoliwt a pherthynol  13. pwysigrwydd asesu a oes gwrthrychau/ prosthesisau ffero-fetelaidd a dyfeisiau meddygol wedi’u mewnblannu yn bresennol a’r camau priodol i’w cymryd os amlygir y rhain  14. gwrtharwyddion i gyfryngau cyferbynnu delweddu atseiniol magnetig gan gynnwys goblygiadau clinigol unrhyw alergedd sy’n berthnasol i’r archwiliad  15. patholegau cyffredin y mannau i’w sganio a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau atseiniol magnetig  16. arwyddion o statws corfforol ac emosiynol yr unigolion  17. pryd mae angen delweddau ychwanegol er mwyn helpu gyda’r diagnosis ac ymestyn yr archwiliad  18. mannau â mynediad a reolir a gofynion diogelwch yn yr amgylchedd MRI yn unol â’r canllawiau diogelwch MRI cyfredol  19. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau, a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn  20. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol  21. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth  22. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad 23. egwyddorion ffisegol sganio, technegau a phrotocolau atseiniol magnetig 24. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd  25. arteffactau ar y delweddau – y rhesymau amdanynt a strategaethau ar gyfer eu hosgoi  26. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau neu dynnu delweddau ychwanegol  27. archwiliadau delweddu amgen 28. gweithredu’r sganiwr atseiniol magnetig a’r ategolion a ddefnyddir yn ddiogel 29. defnyddio cyfarpar sicrhau ansawdd yn ddiogel, gan gofnodi canlyniadau a chymryd camau priodol  30. sut i ymdrin ag achosion o orlifo a’r camau i’w cymryd os bydd rhywbeth yn gorlifo, yn unol ag arweiniad diogelwch MRI cenedlaethol  31. galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr  32. pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain  33. gweithdrefnau ar gyfer paratoi’r amgylchedd, yr unigolyn a’r cyfarpar ar gyfer sganio atseiniol magnetig 34. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol  35. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCI.E

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; MRI; diagnostig; clinigol; delweddau