Cynhyrchu delweddau sganio Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT) at ddibenion diagnosis
URN: SFHCI.D
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Delweddu Clinigol
                    Datblygwyd gan: Skills for Health
                    Cymeradwy ar: 
2019                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar a gweithdrefnau tomograffeg gyfrifiadurol (CT) i gynhyrchu delweddau at ddibenion diagnosis. Mae’n cynnwys dewis y protocol sganio mwyaf priodol gan ddibynnu ar gyflwr a hanes clinigol yr unigolyn. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.  
            Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill 
2. sicrhau bod yr unigolyn a’r staff wedi gwneud yr holl baratoadau angenrheidiol cyn dechrau’r broses
3. gwirio a pharatoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad
4. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
5. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
6. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad
7. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad 
8. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen 
9. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 
10. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn 
11. esbonio’r broses a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys y risg, y buddion a’r cyfyngiadau
12. gwirio unigolion sy’n gallu cael plant am feichiogrwydd neu feichiogrwydd posibl, os yw’n briodol ar gyfer yr archwiliad, a gweithredu yn unol â phrotocol lleol
13. cadarnhau statws y bobl allweddol cyn yr archwiliad ac, os oes angen iddyn nhw fod yn bresennol, dilyn canllawiau lleol 
14. nodi manylion adnabod yr unigolyn yn y sganiwr CT neu, os nodwyd y manylion yn flaenorol, gwirio a ydynt yn gywir 
15. dewis yr holl baramedrau cywir sydd eu hangen ar gyfer y sgan yn unol â’r protocol sganio lleol ar gyfer y driniaeth, asesu unrhyw addasiadau gofynnol a chymryd camau priodol  
16. gosod yr unigolyn yn ei safle ac addasu ei ddillad yn unol â phrotocol yr archwiliad i’w gyflawni mewn ffordd sy’n galluogi cyflawni’r canlyniad gorau posibl gan: 
16.1 gydnabod angen yr unigolyn i gadw ei urddas a’i hunan-barch 
16.2 sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosibl 
16.3 atal presenoldeb arteffactau 
17. gwirio’r ystafell cyn gwneud amlygiad er mwyn sicrhau mai unigolion hanfodol wedi’u hamddiffyn yn unig sy’n aros gyda’r unigolyn, ac y cydymffurfir â’r holl brotocolau lleol, a chymryd camau priodol os na fydd hyn yn digwydd
18. dechrau’r sgan a monitro cyflwr, cydymffurfiaeth a lles yr unigolyn trwy gydol y weithdrefn a chymryd camau sy’n briodol i’w anghenion  
19. edrych ar y delweddau ar ôl gorffen y sgan er mwyn sicrhau eu bod yn dechnegol dderbyniol ac yn addas at ddibenion diagnostig
20. creu ailfformatau aml-blanol (MPR) o’r setiau data perthnasol pan fydd hynny’n briodol
21. adolygu’r delweddau i weld a ydynt yn dderbyniol yn glinigol, a chymryd y camau priodol, gan gynnwys delweddau pellach os oes angen 
22. monitro a chofnodi amlygiad yr unigolyn i ymbelydredd ïoneiddio trwy gydol y broses yn unol â phrotocol lleol 
23. ar ôl yr archwiliad delweddu cychwynnol, rhoi gwybod i’r unigolyn priodol os gwelir annormaledd ar y ddelwedd y mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad neu driniaeth bellach arno 
24. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r broses ac ôl-ofal os bydd angen 
25. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
26. optimeiddio, cofnodi, casglu a pharatoi’r wybodaeth, y dogfennau a’r delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â’r protocol lleol 
27. gwirio bod y delweddau wedi cyrraedd/cael eu storio yn ôl protocol lleol 
28. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol   
            Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1.  y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2.  y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3.  pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion 
4.  cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer 
5.  rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
6.  pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol 
7.  priodolrwydd clinigol y cais am archwiliad a’r camau i’w cymryd pan nad yw’r cais yn briodol
8.  arwynebedd ac anatomeg trawstoriadol y rhannau o’r corff i’w sganio 
9.  ffisioleg berthnasol y mannau i’w sganio
10.  yr amrywiadau normal cyffredin a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau CT
11.  patholegau cyffredin y mannau i’w sganio a sut maen nhw’n ymddangos ar ddelweddau CT 
12.  y derminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau 
13.  gwrtharwyddion sganio CT, gan gynnwys goblygiadau clinigol unrhyw alergedd sy’n berthnasol i’r archwiliad 
14.  arwyddion o statws corfforol ac emosiynol unigolion 
15.  pryd mae angen delweddau ychwanegol er mwyn helpu gyda’r diagnosis a’r broses ar gyfer cyfiawnhau 
16.  cynhyrchu, rhyngweithiadau a nodweddion pelydr-x
17.  y prosesau ffisegol sydd ynghlwm â chynhyrchu delweddau CT, optimeiddio, technegau sganio a phrotocolau 
18.  effeithiau niweidiol ymbelydredd ar y corff dynol a defnyddio cyfarpar amddiffyn rhag ymbelydredd
19.  ffyrdd posibl o gofnodi, prosesu a storio delweddau CT yn barhaol 
20.  sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn 
21.  dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol 
22.  pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth 
23.  y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad
24.  egwyddorion ffisegol sganio CT
25.  archwiliadau delweddu eraill y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â sganio CT 
26.  gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd
27.  arteffactau ar y delweddau – y rhesymau amdanynt a strategaethau i’w hosgoi 
28.  ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau neu dynnu delweddau CT ychwanegol 
29.  gweithredu’r cyfarpar, ei ddefnyddio’n ofalus a’i roi yn ei le, mewn modd sy’n cefnogi, yn gweithio neu’n cysylltu â phrotocol sganio CT 
30.  defnyddio cyfarpar sicrhau ansawdd, cofnodi canlyniadau a chymryd camau priodol
31.  galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithredwr 
32.  pwysigrwydd cydnabod diffygion ar y cyfarpar yn brydlon a’r gweithdrefnau lleol ar gyfer rhoi gwybod am y rhain 
33.  paratoi’r amgylchedd, yr unigolyn a’r cyfarpar ar gyfer sganio CT 
34.  gosod yr unigolyn a’r cyfarpar sy’n berthnasol i gyflawni’r archwiliad 
35.  gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol 
36.  sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol    
            Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  
            Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Sgiliau Iechyd
        
    
URN gwreiddiol
        SFHCI.D
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol        
    
Cod SOC
        2217
        
    
Geiriau Allweddol
            radiograffeg; CT; diagnostig; clinigol; delweddau