Dehongli ac adrodd ar archwiliadau delweddu

URN: SFHCI.B
Sectorau Busnes (Suites): Delweddu Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â dehongli canfyddiadau delweddau diagnostig a darparu adroddiad sy’n awgrymu diagnosis neu ddiagnosis gwahaniaethol yn seiliedig ar ganfyddiadau’r archwiliad delweddu. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwirio manylion adnabod y delweddau yn erbyn dogfennau cysylltiedig, canfod unrhyw anghysondebau a chymryd camau priodol
2. archwilio’r delweddau am ansawdd technegol a diagnostig, cydnabod delweddau anfoddhaol a chymryd camau priodol 
3. archwilio’r delweddau i sicrhau eu bod yn gyson â’r archwiliad a ofynnwyd amdano, ac yn briodol ar ei gyfer, a’r wybodaeth glinigol a ddarparwyd
4. gofyn am ragor o ddelweddau, dilyniannau, technegau neu ail-greadau os bydd y delweddau’n annigonol neu’n anfoddhaol 
5. cymharu’r delweddau gydag unrhyw ddelweddau ac adroddiadau blaenorol perthnasol sydd ar gael ar gyfer yr unigolyn 
6. asesu ymddangosiadau gan eu cymharu ag ymddangosiadau ac amrywiadau arferol 
7. llunio adroddiad sy’n:
7.1 rhoi dehongliad o’r canfyddiadau
7.2 awgrymu diagnosis neu’n helpu i roi diagnosis
7.3 rhoi cyngor ynghylch camau dilynol neu reoli, lle bo’n briodol 
8. cael cyngor gan bobl eraill berthnasol pan fyddwch yn gweld delweddau annisgwyl neu ganfyddiadau sydd y tu hwnt i gwmpas eich cymhwysedd
9. cymryd camau dilynol yn seiliedig ar ganfyddiadau delweddu, gan gynnwys lle mae angen gweithredu yn syth yn unol â phrotocol lleol a chenedlaethol 
10. cofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir 2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt 3. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiadau eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer 4. anatomeg, ffisioleg, patholeg a strwythurau perthnasol y rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio  5. y gŵyn a gyflwynir, profion perthnasol eraill a hanes clinigol blaenorol yr unigolyn a sut gall y rhain gyfrannu at wneud penderfyniad am sut mae delweddau’n edrych  6. sut i werthuso effaith bosibl trawma neu glefyd ar strwythurau a systemau eraill y corff 7. prosesau clefydau a thrawma, ac effaith y rhain ar sut mae delweddau’n edrych 8. ymddangosiadau normal ac annormal a phatholegau perthnasol y rhan o’r corff sy’n cael ei archwilio, eu harwyddion a’u harwyddocâd ar gyfer rheoli’r unigolyn  9. terminoleg feddygol sy’n berthnasol i’r archwiliad, gan gynnwys talfyriadau  10. egwyddorion cynhyrchu delweddau 11. y gwahanol ffyrdd o gofnodi, prosesu, storio’n barhaol, adfer ac anfon delweddau ymlaen 12. y berthynas rhwng safle’r unigolyn a sut mae’r ddelwedd yn edrych  13. gofynion ansawdd diagnostig a thechnegol y ddelwedd  14. adnabod arteffactau a’u heffaith  15. ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i ailadrodd delweddau neu edrych arnynt o olwg wahanol  16. arwyddion a gwrtharwyddion ar gyfer defnyddio dulliau ac ymchwiliadau delweddu eraill  17. galluoedd, cyfyngiadau cyfarpar a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys y prosesau rheoli ansawdd sy’n ofynnol gan y gweithdredwr 18. rôl archwilio, myfyrio ar gamgymeriadau, dysgu a datblygu parhaus ac adolygu anghysondebau wrth adrodd ar ddelweddau   19. rôl y tîm amlddisgyblaethol wrth adolygu’r delweddau a chwblhau adroddiadau 20. gweithdrefnau a phrotocolau lleol yn ymwneud ag adroddiad yr archwiliad  21. technegau gwerthusol beirniadol  22. technegau ysgrifennu adroddiadau sy’n berthnasol i’r archwiliad  23. sut i amrywio arddulliau cyfathrebu gan ddibynnu ar dderbyniwr bwriedig yr adroddiad 24. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol  25. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau 


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHCI.B

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; pelydr-x; diagnostig; clinigol; delweddau; adroddiad