Ymgymryd â gofal i unigolion â chathetrau wrinol

URN: SFHCHS9
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd â gofal am unigolion â chathetrau wrinol.  Mae'n berthnasol mewn unrhyw leoliad gofal lle y mae gan unigolyn gathetr wrinol. Mae'r safon hon yn ymwneud â gwacáu bagiau cathetr, darparu hylendid i gathetrau a thynnu cathetrau wrinol, yn unol â chyfarwyddyd ymarferwr cymwys.

Nid yw'r safon hon yn ymwneud â mewnosod cathetrau wrinol.

Rhaid ymgymryd â'r holl weithgareddau hyn gan ddefnyddio techneg aseptig a dilyn canllawiau a gweithdrefnau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. cadarnhau bod yr holl gyfarpar a deunyddiau ar gyfer gweithgarwch cathetr wrethrol yn briodol i'r weithdrefn ac yn addas i'w diben
  10. sicrhau bod yr unigolyn wedi'i osod mewn ffordd a fydd:
  11. yn sicrhau ei ddiogelwch a'i gysur
  12. yn hwyluso hylendid cathetr wrinol
  13. yn hwyluso tynnu cathetr wrinol
  14. cynnal gweithgaredd cathetr wrethrol:
  15. ar adeg briodol, yn ôl cynllun gofal yr unigolyn
  16. gan ddefnyddio technegau priodol
  17. gan ddefnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  18. mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o gysur ac urddas yr unigolyn ac sy'n lleihau poen a thrawma
  19. gwylio'r unigolyn trwy gydol y gweithgaredd, adnabod a rhoi gwybod am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai awgrymu adweithiau niweidiol i'r gweithgaredd a chymryd y camau priodol
  20. sicrhau bod y cathetr wrinol a'r system ddraenio:
  21. yn gweithio'n gywir
  22. wedi'u diogelu
  23. wedi'u gosod yn ddiogel mewn ffordd sy'n atal anghysur ac sy'n hybu urddas yr unigolyn
  24. sicrhau bod yr unigolyn yn gyfforddus ar ôl gweithgaredd cathetr wrethrol a chael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  25. gwacáu bagiau draenio yn unol â gweithdrefnau
  26. mesur a chofnodi allbwn wrinol lle bynnag y bo angen ar adegau cytunedig, neu yn unol â chyfarwyddyd
  27. gwylio'r allbwn wrinol i edrych am unrhyw newid yn ei olwg a rhoi gwybod i'r aelod priodol i'r tîm gofal yn brydlon
  28. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pam dylid cefnogi unigolion a rhoi gwybod iddynt am natur gweithgarwch cathetr wrinol
  13. y pryderon posibl sydd gan unigolion yn gysylltiedig â chathetreiddio wrinol
  14. y gwrtharwyddion sy'n awgrymu bod angen i chi roi'r gorau iddi a cheisio help a chyngor, a sut gall y rhain amrywio i wahanol unigolion, cyflyrau ac i bobl o wahanol grwpiau ethnig
  15. yr effeithiau niweidiol a all ddigwydd yn ystod ac yn dilyn gweithdrefnau, a sut i adnabod y rhain a delio â nhw
  16. effeithiau cael cathetr wrinol yn ei le ar gysur ac urddas yr unigolyn, a ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau niweidiol
  17. anatomeg a ffisioleg y bledren a'r wrethra yn gysylltiedig â gweithgareddau cathetr wrinol
  18. golwg a chynnwys arferol wrin
  19. golwg a chynnwys annormal posibl wrin, yn dibynnu ar y cyflwr meddygol sydd gan yr unigolyn ar y pryd
  20. sut mae techneg aspetig yn cyfrannu at reoli haint
  21. ffynonellau halogi posibl wrth ymgymryd â gweithgareddau cathetr wrinol a mesurau priodol i'w lleihau neu i ddelio â nhw
  22. y mathau o bathogenau sy'n benodol i'r system wrinol
  23. canlyniadau posibl halogi cathetrau wrinol a systemau draenio
  24. y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer gweithgaredd cathetr wrinol
  25. pam y dylid paratoi adnoddau cyn i chi ddechrau'r gweithgaredd
  26. pwysigrwydd cynnal y lefel glendid gywir ar gyfer cathetr wrinol
  27. pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau ar gyfer gweithgaredd cathetr wrinol yn unol â'r hyn a amlinellir, ac effeithiau posibl peidio â gwneud
  28. pwysigrwydd pacio cyfarpar a deunyddiau a gorchuddio llestri sy'n cynnwys wrin cyn gadael ardal uniongyrchol y gofal
  29. gwybod sut a ble i gael gwared ar:

    • gyfarpar a deunyddiau sydd wedi'u defnyddio
    • wrin 
  30. pwysigrwydd sicrhau bod systemau draenio cathetr:

    • wedi'u gosod yn ddiogel i atal haint rhag teithio i fyny'r system a difrod damweiniol
    • wedi'u gosod yn ofalus i gynnal urddas yr unigolyn 
  31. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gofal, cathetrau, wrinol