Cael sbesimenau oddi wrth unigolion a’u profi

URN: SFHCHS7
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chael sbesimenau, profi rhai sbesimenau yn yr ardal waith, ac anfon rhai sbesimenau i ffwrdd i labordy eu harchwilio.

Nid yw casglu sbesimenau gwaed wedi'i gynnwys. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  9. gwirio bod y paratoadau gofynnol wedi'u cwblhau ac atal y weithdrefn os nad yw'r unigolyn neu'r staff wedi dilyn y paratoadau angenrheidiol
  10. rhoi'r cynhwysydd angenrheidiol a phriodol ar gyfer y sbesimen i'r unigolyn
  11. cael sbesimenau oddi wrth unigolion pan na allant wneud hyn eu hunain, a gosod y sbesimenau yn y cynhwysydd priodol
  12. sicrhau bod sbesimenau'n cael eu casglu yn y drefn gywir
  13. labelu sbesimenau yn gywir, atodi'r ddogfennaeth berthnasol, eu gosod yn y bagiau bioberygl perthnasol a'u rhoi yn y lle cywir i'w storio, eu casglu neu eu cludo
  14. rhoi gwybod am unrhyw broblemau wrth gael y sbesimenau i aelod priodol y tîm ar unwaith
  15. profi sbesimenau gan ddefnyddio'r broses gywir yn ôl y sbesimen sy'n cael ei brofi
  16. tawelu meddwl yr unigolyn a rhoi canlyniadau'r profion i'r unigolyn yn unol â'i anghenion neu drosglwyddo hyn i aelodau staff perthnasol eraill, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  17. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  11. pam mae'n hanfodol gwirio pwy yw'r unigolyn
  12. y paratoi gofynnol ar gyfer unigolion cyn y math o gasglu sbesimen
  13. pwysigrwydd rhoi esboniadau clir i unigolion i'w galluogi i gasglu'u sbesimenau eu hunain pan fydd hynny'n briodol
  14. yr effeithiau niweidiol a allai ddigwydd a sut i ymateb i'r rhain
  15. y deunyddiau a'r cyfarpar y mae eu hangen ar gyfer casglu'r sbesimen a'r mathau o sbesimenau y gallwch eu cael
  16. y gwahanol fathau o gynhwysydd, cyfrwng cludo a ffurflenni cais ar gyfer sbesimenau sy'n briodol i'r sbesimen ac i'r weithdrefn brofi arfaethedig
  17. y wybodaeth y mae ei hangen i sicrhau bod sbesimenau'n cael eu labelu'n gywir a'r peryglon posibl a'r canlyniadau eraill sy'n gysylltiedig â labelu neu anfon sbesimenau yn anghywir
  18. y profion a'r archwiliadau y gellir eu cynnal ar y sbesimenau a gewch
  19. goblygiadau canlyniadau'r profion i'r unigolyn
  20. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS7

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

wrin, ymgarthion, sbwtwm, archwysiadau, poer, anadl, allsugnadau, semen, crafiad croen, dynodydd, unigryw, histoleg, hematoleg, microbioleg, sytoleg