Ymgymryd â gofal cytunedig mannau gwasgu

URN: SFHCHS5
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd â gofal mannau gwasgu ar gyfer unigolion, gan ddilyn cynllun gofal ac asesiad risg yr unigolyn, a dilyn protocolau a gweithdrefnau perthnasol yn eich maes gwaith. Mae wedi’i anelu at atal, cynnal croen iach ac atal y croen rhag torri i lawr. Bydd yn cysylltu â’r safonau ar symud a thrafod unigolion, ac mae’n berthnasol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal a chartref yr unigolyn ei hun. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. dilyn y cynllun gofal, gan gynnal preifatrwydd ac urddas yr unigolyn bob amser
  10. annog yr unigolyn i gymryd rhan yn y gofal ar gyfer ei fannau gwasgu
  11. sicrhau eich bod yn gallu cynnal y weithdrefn heb i ddillad na dillad gwely eich rhwystro
  12. nodi unrhyw newidiadau i gyflwr croen yr unigolyn a rhoi gwybod i'r aelod staff priodol am y newidiadau hyn
  13. defnyddio cymhorthion lliniaru gwasgu yn briodol, yn unol â'r cynllun gofal a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr
  14. gadael yr unigolyn mewn osgo a safle cyfforddus, yn unol â'r cynllun gofal
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth ymgymryd â gofal cytunedig mannau gwasgu a chanlyniadau posibl ymarfer gwael 
  13. yr offer asesu risg doluriau gwasgu sy'n cael eu defnyddio yn eich maes gwaith
  14. y defnydd o offer asesu risg doluriau gwasgu
  15. pam dylech chi ddweud wrth yr unigolion beth rydych chi'n ei wneud
  16. anatomeg a ffisioleg arferol y croen
  17. safleoedd gwasgu'r corff
  18. y newidiadau yng ngolwg y croen pan fydd risg i gyfanrwydd y croen
  19. y ffactorau sydd:
      • yn peri risg y bydd croen unigolyn yn torri i lawr ac sy'n peri risg doluriau gwasgu
      • yn gallu helpu i atal y croen rhag torri i lawr a doluriau gwasgu 
  20. pwysigrwydd symud unigolion yn gywir a chanlyniadau technegau symud a thrafod gwael
  21. pam mae'n bwysig dilyn y cynllun gofal a'r offeryn asesu risg
  22. pwysigrwydd gweithio mewn tîm yn gysylltiedig â gofal mannau gwasgu
  23. y cymhorthion lliniaru gwasgu sydd ar gael a'u defnydd
  24. sut i gael gwybodaeth gyfredol am ofal mannau gwasgu a chymhorthion lliniaru gwasgu
  25. unigolion eraill y gallech eu cynnwys wrth ofalu am fannau gwasgu
  26. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

dolur gwasgu, croen yn torri i lawr, atal, symud a thrafod