Cynnal asesiad risg o hyfywedd meinwe ar gyfer unigolion

URN: SFHCHS4
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal asesiad risg yn gysylltiedig â gofal am fannau gwasgu a risg y bydd y croen yn torri i lawr. Cynhelir yr asesiad hwn ar draws amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ledled ysbytai, gan gynnwys adrannau llawfeddygaeth, mewn hosbisau, cartrefi nyrsio a phreswyl, canolfannau dydd ac yng nghartref yr unigolyn ei hun. Bydd asesiad risg yn cynnwys defnyddio offer asesu gwahanol a ddewiswyd i'w defnyddio sy'n addas i'r unigolyn ac i'r amgylchedd. Gallai amrywiaeth o staff yn yr amrywiol leoliadau gofal gynnal yr asesiad ac mae'n broses barhaus sy'n mynnu cael ei hadolygu a'i gwerthuso'n barhaus. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. nodi unigolion y gallai fod risg ganddynt o nam i hyfywedd meinwe ac y gallai eu croen dorri i lawr
  9. nodi unrhyw ffactorau rhagdueddu a allai waethygu'r risg
  10. nodi unrhyw ffactorau allanol y dylech eu hystyried yn eich asesiad
  11. casglu'r ddogfennaeth berthnasol, gan gynnwys yr offeryn asesu y cytunwyd ar ei ddefnyddio, cyn dechrau'r asesiad
  12. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  13. asesu risg yr unigolyn y bydd ei feinwe'n torri i lawr gan ddefnyddio'r meini prawf a gyflwynwyd yn yr offeryn asesu rydych hi'n ei ddefnyddio
  14. archwilio cyflwr cyffredinol croen yr unigolyn, gan nodi ffactorau risg, a defnyddio technegau symud diogel wrth gynorthwyo'r unigolyn i symud yn ystod yr asesiad
  15. archwilio rhannau penodol o'r croen am wasgu neu risg gwasgu ac amlygu risg
  16. cytuno, mewn ymgynghoriad ag eraill, pa mor aml y dylid adolygu'r asesiad risg a chofnodi amlder yr asesu yn y cynllun gofal ac mewn cofnodion perthnasol eraill
  17. cynnal yr adolygiad, fel y bo'r angen, gan ddefnyddio'r meini prawf a ddefnyddiwyd yn yr asesiad cychwynnol, os yw'n briodol
  18. nodi pryd nad yw'r offeryn asesu presennol, neu amlder yr adolygu, yn briodol mwyach oherwydd newidiadau i gyflwr neu amgylchedd yr unigolyn
  19. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl wrth wella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth asesu'r croen yn torri i lawr a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  14. ymchwil berthnasol a wnaed ynghylch asesu risg ar gyfer gofal mannau gwasgu
  15. sut gallech chi gynnwys yr unigolyn
  16. yr asesiad risg yn gysylltiedig â gofal holistaidd unigolion
  17. beth byddwch chi'n chwilio amdano wrth asesu'r croen
  18. pryd dylai'r asesiad cychwynnol gael ei gynnal a pham
  19. amlder adolygu ac ailasesu
  20. graddau'r help y mae ar yr unigolyn ei angen
  21. anatomeg a ffisioleg croen iach
  22. y newidiadau sy'n digwydd pan fydd niwed wedi'i achosi gan wasgu yn datblygu
  23. beth yw ystyr "croesrymoedd"
  24. ffactorau rhagdueddu datblygiad dolur gwasgu
  25. y safleoedd lle y gall niwed gwasgu ddigwydd
  26. yr offer asesu sydd ar gael i'w defnyddio wrth asesu'r risg y bydd doluriau gwasgu yn ffurfio
  27. technegau symud yn ddiogel
  28. pwysigrwydd rhannu eich canfyddiadau gyda staff gofal eraill a'r unigolyn dan sylw
  29. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Meinwe, hyfywedd, risg, asesu