Darparu cynnal bywyd sylfaenol

URN: SFHCHS36
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer cynnal bywyd sylfaenol a'i ddarparu.

Sylwch nad yw'r safon hon yn cynnwys defnyddio diffibrilwyr allanol awtomataidd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu a chadarnhau'n brydlon bod cylchrediad ac anadlu'r unigolyn wedi darfod a sefydlu bod angen cynnal bywyd sylfaenol
  2. sicrhau bod eich gweithredoedd yn cydymffurfio bob amser â:

    • phrotocolau a chanllawiau sefydledig
    • arfer gorau seiliedig ar dystiolaeth
    • cwmpas eich ymarfer eich hun
    • iechyd a diogelwch a chamau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli haint
    • deddfwriaeth 
  3. ceisio cymorth arbenigol ychwanegol ar y cyfle cyntaf

  4. gwirio a chadarnhau nad yw'r unigolyn yn anadlu heb gymorth ac nad oes gwrtharwyddion ar gyfer adfywio
  5. defnyddio technegau diogel, perthnasol ar gyfer clirio ac agor llwybr anadlu'r unigolyn, lle y bo'n briodol
  6. gosod yr unigolyn a chi'ch hun yn briodol i wneud cywasgiadau allanol y frest a/neu awyru yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gyfrif am:

    • gyflwr yr unigolyn
    • yr angen am sylfaen ddigon cadarn i hwyluso cywasgiadau allanol y frest
    • yr angen posibl am gynnal cywasgiadau ac awyru am gyfnod estynedig 
  7. defnyddio'r gymhareb briodol wrth gywasgu ac awyru bob yn ail a chydymffurfio â chyfraddau a dyfnderau cywir pob un ohonynt, gan sicrhau bod y cywasgu'n digwydd ar y man cywir ar frest yr unigolyn

  8. monitro a gwerthuso gweithrediad resbiradol yr unigolyn ac effeithiolrwydd cywasgiadau ac awyru, gan ymateb yn brydlon ac yn briodol i gyflawni'r canlyniad gorau posibl i'r unigolyn
  9. rhoi'r gorau i gymhwyso unrhyw dechnegau pan fydd yr unigolyn yn adennill rheolaeth ar ei lwybr anadlu ac ar gylchrediad, a gosod yr unigolyn mewn osgo priodol i alluogi gofal parhaus yn unol â'r cyflwr
  10. parhau ag awyru a chywasgiadau:

    • hyd nes bod yr unigolyn yn dangos arwyddion clir o gylchrediad heb gymorth a bod anadlu digymell digonol wedi'i sefydlu
    • hyd nes bod yr unigolyn yn cael ei drosglwyddo i ofal pobl eraill 
  11. rhoi gwybod yn gywir ac yn glir am y camau a gymeroch, ac am ba hyd, wrth drosglwyddo i arbenigwr

  12. adfer cyfarpar a deunyddiau i statws gweithio ar ôl eu defnyddio
  13. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl wrth wella gofal
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  14. anatomeg y system resbiradol
  15. blaenoriaethau mewn cynnal bywyd
  16. faint o amser y dylid ei gymryd i asesu anghenion unigol a'r ymateb cynnal bywyd a ddefnyddir fel bod gan unigolyn y cyfle gorau i oroesi
  17. y wybodaeth y gall fod angen ei chofnodi ar ôl defnyddio cynnal bywyd sylfaenol
  18. arwyddion clinigol rhwystr yn y llwybr anadlu
  19. beth i'w wneud os bydd corffyn estron yn rhwystro llwybr aer unigolyn
  20. y gwahaniaethau mewn technegau y mae eu hangen i sicrhau bod llwybr aer ar agor mewn gwahanol fathau o unigolyn
  21. y ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu ar y dechneg a fydd yn arwain at y canlyniad gorau posibl i'r unigolyn
  22. pam na ddylai technegau gogwyddo'r pen gael eu defnyddio os oes amheuaeth ynghylch anaf i'r gwddf neu'r asgwrn cefn 
  23. y gwahanol dechnegau a ddefnyddir i awyru unigolyn a phryd dylai pob un ohonynt gael eu defnyddio
  24. y gymhareb a'r gyfradd anadlu ar gyfer gwahanol fathau o unigolyn ac amodau
  25. pwysigrwydd gosodiad yr unigolyn a'r person sy'n rhoi cynhaliaeth bywyd sylfaenol i'r canlyniad, gan gynnwys anghenion gosod penodol menywod yn nhrydydd tymor beichiogrwydd
  26. yr arsylwadau i'w cyflawni i nodi ocsigeniad digonol mewn gwahanol fathau o unigolyn
  27. cyfradd a dyfnder y cywasgiadau y mae eu hangen ar gyfer gwahanol fathau o unigolyn
  28. y gymhareb cywasgu :** awyru mewn:

    • gwahanol fathau o unigolyn
    • Cynnal Bywyd Sylfaenol un a dau berson 
  29. y weithdrefn i sefydlu lleoliad cywir y llaw/bys ar gyfer gwneud cywasgiadau allanol y frest

  30. pam mae angen sylfaen gadarn ar gyfer cywasgiadau'r frest, a pha gamau i'w cymryd pan nad oes un ar gael
  31. gwahanol ddulliau gwthio'r frest a tharo'r cefn i'w defnyddio yn achosion plant/pobl ifanc ac oedolion
  32. y gwahaniaethau rhwng ardystio a gwneud diagnosis o farwolaeth yn unol ag arfer gorau, a phwy sydd â'r awdurdod i gyflawni'r gweithgareddau hyn
  33. diogelwch personol ynghyd ag iechyd a diogelwch cyffredinol, glendid a'r amrywiaeth o sefyllfaoedd ac ymatebion
  34. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS36

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cynnal, bywyd, sylfaenol