Cytuno ar newidiadau i therapi dialysis a’u gweithredu

URN: SFHCHS32
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chytuno ar newidiadau i therapi dialysis unigolyn a'u gweithredu. Gall hyn fod oherwydd ei fod o dan ddialysis, oherwydd bod triniaethau newydd ar gael neu oherwydd rhyw agwedd ar ffordd yr unigolyn o fyw.  Dylai addasiadau a chyfaddawdau gyd-fynd â thystiolaeth ar gyfer y buddion cyffredinol i les yr unigolyn.

Gellir cynnal y gweithgaredd hwn mewn prif uned ddialysis, mewn uned lloeren neu yng nghartref yr unigolyn ei hun. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. trafod newidiadau posibl i'r cynllun gofal gyda'r unigolyn a'r tîm amlddisgyblaethol i gyfrif am nodau a dyheadau'r unigolyn, heb beryglu iechyd yr unigolyn yn ormodol na'r defnydd o adnoddau
  8. trafod opsiynau gyda'r unigolyn a rhoi gwybod iddo am risgiau a buddion opsiynau, a gwirio'i fod yn deall y goblygiadau a beth fyddai angen i'r unigolyn ei wneud
  9. nodi ac asesu, mewn partneriaeth â'r unigolyn a phobl berthnasol eraill, fanteision ac anfanteision addasu therapi dialysis cyfredol, gan gyfrif am:

    • dystiolaeth o effeithiau cyfundrefnau dialysis ar les
    • ei dderbynioldeb i unigolion ac
    • anghenion yr uned 
  10. trafod unrhyw gynllun triniaeth diwygiedig gyda'r unigolyn ac aelodau perthnasol y tîm amlddisgyblaeth, gan barchu cyfrinachedd unigol

  11. nodi problemau posibl i'r unigolyn a allai ddeillio o'i allu i weithio gyda chyfundrefn newydd neu o'r ffaith bod hynny'n well gan yr unigolyn
  12. gweithio gyda'r unigolyn i sicrhau ei fod yn deall ac y bydd yn gweithredu ar ofynion unrhyw gynllun diwygiedig, gan gynnwys meddyginiaeth, amseroedd dialysis, hunanfesur, a chofnodi
  13. cytuno ar rôl a buddion monitro parhaus gyda'r unigolyn
  14. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
  11. sut i nodi ac ymateb i bryderon posibl unigolion am ddialysis a'r ffordd y mae'n effeithio ar eu bywyd
  12. sut i roi adborth i'r unigolyn ar berfformiad dialysis
  13. effeithiau dibyniaeth ac annibyniaeth ar yr unigolyn, y gofalwr ac ar ddarparu'r gwasanaeth
  14. sut i gael darlun dilys gan unigolion o'u nodau, eu dyheadau, eu teimladau a'u disgwyliadau
  15. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion ofyn cwestiynau a chynyddu'u dealltwriaeth
  16. gwybodaeth a ddylai fod ar gael yn y cynllun gofal, beth mae'n ei olygu
  17. sut i wneud penderfyniadau o safbwyntiau lluosog tîm
  18. natur methiant yr arennau a swyddogaeth therapi disodli'r arennau
  19. sut mae dialysis yn gweithio i'r unigolyn a sut caiff ei berfformiad ei fesur
  20. natur ac arwyddocâd paramedrau cynlluniau gofal dialysis
  21. tystiolaeth o'r berthynas rhwng ffyrdd unigolion o fyw a'u lles
  22. y berthynas rhwng dialysis, maeth, meddyginiaeth a mesurau iechyd yr unigolyn a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r rhain
  23. sut gall yr unigolyn addasu'r driniaeth i'w anghenion personol a'i ffordd o fyw heb beryglu'i driniaeth yn ormodol
  24. polisi'r sefydliad ar ddefnyddio adnoddau ar gyfer unigolion
  25. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS32

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cytuno, gweithredu, newidiadau, dialysis, therapi