Asesu a chytuno ar effeithiolrwydd y therapi dialysis

URN: SFHCHS31
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phwyso a mesur data meddygol, gwybodaeth am gyflwr meddygol yr unigolyn a'r hyn sy'n well ganddo er mwyn barnu a oes angen i'w therapi dialysis newid.  Weithiau, bydd newidiadau'n cael eu gwneud oherwydd bod rhywun dan ddialysis.  Ar adegau eraill, bydd angen newidiadau oherwydd datblygiadau newydd o ran triniaeth.  Hefyd, gall fod angen addasiadau i ddarparu ar gyfer rhyw agwedd ar fywyd cymdeithasol, gwaith neu ddomestig yr unigolyn. Dylai addasiadau a chyfaddawdau gyd-fynd â thystiolaeth ar gyfer y buddion cyffredinol i les yr unigolyn.

Gallai'r gweithgaredd hwn gael ei gynnal mewn prif uned ddialysis, uned lloeren neu yng nghartref yr unigolyn ei hun.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. datblygu darlun gyda'r unigolyn o'i les a'i deimladau am ei therapi dialysis
  8. trafod nodau a dyheadau'r unigolyn ar gyfer dialysis a sut y dylai alluogi'r unigolyn i fyw ei fywyd o ddydd i ddydd
  9. nodi effaith y cynllun gofal presennol ar ffordd yr unigolyn o fyw
  10. darganfod am ba hyd mae'r unigolyn yn cael dialysis ac a yw'n cael ei driniaeth lawn ar bob achlysur
  11. asesu perfformiad dialysis
  12. adolygu iechyd clinigol yr unigolyn yn rheolaidd
  13. sefydlu statws maethol
  14. cysylltu effeithiolrwydd dialysis yr unigolyn i argymhellion/canllawiau cenedlaethol
  15. dehongli'r data meddygol a phersonol ochr yn ochr â theimladau a dymuniadau'r unigolyn gydag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol i nodi a oes achos dros wneud newidiadau
  16. nodi ymyriadau priodol i fynd i'r afael â digonolrwydd dialysis
  17. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. sut i nodi ac ymateb i'r pryderon sydd gan unigolion ynghylch dialysis a'r ffordd y mae'n effeithio ar eu bywyd
  13. sut i roi adborth i'r unigolyn ar berfformiad dialysis
  14. effeithiau dibyniaeth ac annibyniaeth ar yr unigolyn, y gofalwr ac ar ddarparu'r gwasanaeth
  15. sut i gael darlun dilys gan unigolion o'u nodau, eu dyheadau, eu teimladau a'u disgwyliadau
  16. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion ofyn cwestiynau a chynyddu'u dealltwriaeth
  17. gwybodaeth a ddylai fod ar gael yn y cynllun gofal, beth yw ei ystyr
  18. cofnodi cytundebau, y cynllun gofal a gohebiaeth arall
  19. y gwahanol nodweddion y mae'n rhaid i wasanaethau eu cael i fodloni rhywedd, diwylliant, iaith neu anghenion eraill pobl
  20. natur methiant yr arennau a swyddogaeth therapi disodli'r arennau
  21. sut mae dialysis yn gweithio i'r unigolyn a sut caiff ei berfformiad ei fesur
  22. natur ac arwyddocâd paramedrau cynlluniau gofal dialysis a sut gall amgylchiadau ganiatáu neu fynnu bod y rhain yn cael eu hamrywio
  23. tystiolaeth o'r berthynas rhwng ffyrdd unigolion o fyw a'u lles
  24. effaith maeth ar fesurau iechyd unigolyn
  25. y berthynas rhwng dialysis, maeth, meddyginiaeth a mesurau iechyd yr unigolyn a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r rhain
  26. polisi'r sefydliad ar ddefnyddio adnoddau ar gyfer unigolion
  27. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS31

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Asesu, cytuno, effeithiolrwydd, dialysis, therapi