Cael a chynnal mynediad fasgwlaidd ar gyfer therapi hemodialysis, a darfod mynediad yn dilyn therapi hemodialysis

URN: SFHCHS30
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chael a chynnal mynediad fasgwlaidd ar gyfer therapi hemodialysis, lle y derbynnir bod hyn yn briodol yn ôl cyflwr yr unigolyn a pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau eich sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r weithred arfaethedig
  10. nodi safleoedd posibl a mathau o fynediad fasgwlaidd yn gywir gyda'r aelod priodol o'r tîm gofal, ac asesu pa safle yw'r un mwyaf priodol i'w ddefnyddio, gan ddefnyddio meini prawf a phrotocolau perthnasol
  11. adnabod unrhyw broblemau gyda'r mynediad fasgwlaidd a rhoi gwybod amdanynt ar unwaith i'r aelod priodol o'r tîm gofal
  12. paratoi a glanhau'r mynediad fasgwlaidd yn effeithiol yn unol â'r cynllun gofal a phrotocolau cytunedig
  13. mewnosod canwla/canwlâu o'r maint a'r math priodol os bydd angen pibellu, a'u clymu'n ddiogel ac yn gywir, ac mewn modd sy'n ceisio peri'r anghysur lleiaf i'r unigolyn ac i wneud y mwyaf o hyfywedd parhaus y mynediad fasgwlaidd
  14. cadarnhau llif gwaed effeithiol, gan ddefnyddio'r meini prawf neu'r protocolau perthnasol, cyn cysylltu'r unigolyn â'r cylched allgorfforol, gan gymryd camau priodol os nad yw'r gwaed yn llifo'n effeithiol
  15. rhoi'r cyffur gwrthgeulo a roddwyd ar bresgripsiwn os bydd ei angen, yn unol â'r presgripsiwn a'r protocolau
  16. cysylltu'r canwla/canwlâu neu'r cathetr a'r llinell ddialysis yn unol â'r protocol, yn gywir ar yr amser priodol ac mewn modd sy'n debygol o atal haint
  17. adnabod adweithiau niweidiol i, a phroblemau gyda, y weithdrefn ar unwaith a chymryd y camau priodol i'w datrys yn unol â'r unigolyn, y lleoliad a'r broblem a/neu eu cyfeirio at aelod priodol o'r tîm gofal yn unol â phrotocolau
  18. annog unigolion i adnabod a rhoi gwybod am unrhyw newid neu deimlad anarferol neu annisgwyl yn ystod therapi
  19. monitro cyflwr y mynediad fasgwlaidd yn effeithiol yn ystod therapi hemodialysis a gwneud addasiadau priodol i gynnal llif effeithiol y gwaed
  20. adnabod unrhyw broblemau â llif y gwaed yn brydlon a chymryd camau sy'n briodol i'r unigolyn ac i'r broblem ar unwaith
  21. cadarnhau bod cyffur wedi'i roi i osgoi ceulo'r gwaed, fel y'i nodir yn y cynllun gofal
  22. datgysylltu'r canwla/canwlâu neu'r cathetr a'r llinell(au) dialysis ar yr amser priodol a'i dynnu mewn modd sy'n ceisio peri'r anghysur lleiaf i'r unigolyn a gwneud y mwyaf o hyfywedd parhaus y mynediad fasgwlaidd
  23. gosod y gorchudd priodol ar y safle mynediad dialysis yn unol â'r math o fynediad a'r cynllun gofal
  24. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  11. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gael a chynnal mynediad fasgwlaidd ar gyfer therapi hemodialysis, a darfod mynediad yn dilyn therapi hemodialysis, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  12. strwythur pibellau gwaed
  13. prosesau ceulo gwaed a ffactorau sy'n dylanwadu ar geulo gwaed
  14. sut gellid peryglu urddas yr unigolyn yn ystod gweithdrefnau mynediad a pha fesurau i'w cymryd i osgoi hyn
  15. sut i roi cymorth i unigolion sy'n briodol i'w hanghenion a'u pryderon
  16. y gwahanol fathau o fynediad fasgwlaidd a pham mae gwahanol fathau o fynediad yn cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol unigolion
  17. pa ffactorau i'w hystyried wrth asesu a dewis y safle gorau ar gyfer pibellu, a pham mae'n bwysig dewis safle priodol
  18. y math o ddeunyddiau a chyfarpar, a swyddogaeth y deunyddiau a'r cyfarpar, a ddefnyddir i gael, cynnal a darfod mynediad fasgwlaidd ar gyfer hemodialysis
  19. y gofynion arbennig wrth ddelio â ffistwlâu newydd
  20. pwysigrwydd arsylwi'r unigolyn, y safle mynediad fasgwlaidd a monitorau'r peiriant dialysis yn agos ac yn effeithiol wrth gysylltu'r nodwydd a'r llinell ddialysis
  21. pam mae'n bwysig cynnal diogelwch, lleoliad a chyflwr mynediad yn ystod dialysis
  22. beth i chwilio amdano wrth asesu cathetrau gwythiennol
  23. y cymhlethdodau a'r problemau a all ddigwydd yn ystod gweithdrefnau pibellu a chysylltu, sut byddech chi'n eu hadnabod a pha gamau byddech chi'n eu cymryd
  24. y mathau o broblemau a allai ddigwydd yn gysylltiedig â llif gwaed a mynediad fasgwlaidd, sut byddech chi'n eu hadnabod a pha gamau byddech chi'n eu cymryd
  25. sut i baratoi gwahanol fathau o safleoedd mynediad fasgwlaidd
  26. sut i fewnosod a diogelu canwlâu ar gyfer dialysis
  27. pwysigrwydd llif gwaed effeithiol, sut byddech chi'n ei wirio a pha gamau gallech ei cymryd os bydd llif gwael i'r gwaed
  28. sut i fonitro llif y gwaed, beth i chwilio amdano o ran cyflwr yr unigolyn, monitorau'r peiriant dialysis a'r safle mynediad fasgwlaidd
  29. sut mae cyflwr mynediad yn ystod therapi'n cael ei gynnal
  30. sut i ddatgysylltu llinellau a thynnu canwlâu
  31. pryd a sut i drin a rhwyma safleoedd mynediad fasgwlaidd
  32. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi a/neu y mae angen rhoi gwybod amdani ynghylch:

    • cael a chynnal mynediad fasgwlaidd ar gyfer therapi hemodialysis
    • adeg darfod mynediad fasgwlaidd 
  33. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS30

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Mynediad, fasgwlaidd, hemodialysis, therapi