Cefnogi a galluogi unigolion sy’n cael dialysis a’u gofalwyr i ymgymryd â gweithdrefnau dialysis

URN: SFHCHS29
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi a galluogi unigolion sy'n cael dialysis, a'u gofalwyr, i ymgymryd â gweithdrefnau dialysis gartref. Mae hon yn berthnasol i bob math o therapi dialysis arennol. Mae disgwyl i chi roi help a chyngor arferol ac mewn argyfwng. Gall y cymorth arferol fod yn rhan o raglen addysg a hyfforddiant strwythuredig i unigolion sy'n symud draw i therapi gartref.

Cydnabyddir o fewn y safon hon y bydd cymorth a chyngor bob amser yn cael ei roi fel rhan o gynllun gofal cyffredinol y mae ymarferwyr perthnasol yn y tîm gofal wedi penderfynu arno. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
  9. gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
  10. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. sefydlu, gyda'r unigolyn a'i ofalwr, faint o gymorth y mae arnynt ei angen a'u hannog nhw i hunanreoli cymaint â phosibl, yn unol â'r cynllun gofal
  12. rhoi cymorth a chefnogaeth briodol i'r unigolyn a/neu ei ofalwr i:

    • baratoi'r adnoddau angenrheidiol
    • paratoi ardal y croen
    • glanhau eu dwylo'n effeithiol
    • ateb unrhyw ymholiadau a chwestiynau penodol gan yr unigolyn a/neu ei ofalwr yn gywir neu geisio cyngor gan aelod priodol o'r tîm gofal 
  13. annog yr unigolyn a/neu ei ofalwr i ymgymryd â'r gweithgaredd gan ddefnyddio'r dechneg gywir ar yr amseroedd priodol, yn unol â'r cynllun gofal

  14. galluogi'r unigolyn a/neu ei ofalwr i adnabod cynnydd a phroblemau gyda'r gweithgaredd a naill ai rhoi'r gorau i'r gweithgaredd neu geisio cyngor lle bo'r angen
  15. ceisio cyngor ar unwaith gan yr ymarferwr perthnasol priodol os oes unrhyw arwyddion a allai awgrymu nad yw'r gweithgaredd yn briodol mwyach neu os oes adweithiau niweidiol
  16. galluogi'r unigolyn a/neu ei ofalwr i gael gwared ar ddeunyddiau gwastraff, a deall y rhesymau dros wneud hynny, mewn modd a lle diogel, priodol
  17. rhoi manylion llawn a chywir am sut i geisio help os bydd trafferthion â dialysis i'r unigolyn a/neu ei ofalwr, mewn modd ac ar lefel a chyflymder priodol
  18. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gefnogi a galluogi unigolion sy'n cael dialysis a'u gofalwyr i ymgymryd â gweithdrefnau dialysis gartref a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. pwysigrwydd rhoi cyngor a gwybodaeth mewn modd ac ar lefel a chyflymder sy'n briodol i'r unigolyn a/neu ei ofalwr
  14. rolau awdurdodau iechyd lleol a chynghorau o ran cael gwared ar wastraff
  15. beth sy'n wastraff peryglus ac yn wastraff nad yw'n beryglus, a sut mae cael gwared arno'n ddiogel
  16. effeithiau dibyniaeth ac annibyniaeth ar yr unigolyn, ei ofalwyr a darparu'r gwasanaeth yn gysylltiedig â chyflawni gweithdrefnau dialysis
  17. y pryderon sydd gan unigolion yn gysylltiedig â'u gweithdrefnau a'u triniaeth
  18. gwrtharwyddion neu adweithiau niweidiol i'r gweithdrefnau a sut i esbonio'r rhain, a'r camau y dylent eu cymryd, i'r unigolyn/gofalwr heb achosi pryder diangen
  19. y ffyrdd o allu helpu unigolion i baratoi ar gyfer gweithgareddau gwahanol, gan gynnwys gwyliau, newid cyfundrefn neu lwybr dialysis, a digwyddiadau cymdeithasol; y camau priodol i'w cymryd a'r sgil effeithiau posibl
  20. sut gall yr unigolyn addasu'r driniaeth i'w hanghenion personol a'u ffordd o fyw heb beryglu'r driniaeth
  21. sut gallwch chi helpu i ostwng lefelau pryder mewn unigolyn a/neu ofalwr wrth ymgymryd â gweithdrefnau dialysis
  22. y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen i ymgymryd â dialysis gartref a sut i esbonio a dangos i'r unigolyn/gofalwr:

    • sut a ble i'w storio
    • sut i'w glanhau a'u cynnal nhw
    • y camau rhagofalus penodol y dylent eu cymryd yn gysylltiedig ag atal haint
    • sut i'w defnyddio'n gywir
    • y problemau cyffredin y gallant ddod ar eu traws wrth ymgymryd â dialysis gartref a sut y dylent ddelio â'r rhain 
  23. dulliau o asesu gallu'r unigolyn/gofalwr wrth ymgymryd â gweithdrefnau dialysis

  24. sut i roi adborth adeiladol i'r unigolyn/gofalwr ar unrhyw agweddau ar y gweithdrefnau dialysis y mae angen iddynt eu newid er mwyn sicrhau dialysis effeithiol gartref
  25. pwysigrwydd annog yr unigolyn/gofalwyr i gadw cofnodon cywir o broblemau/materion yr hoffent eu trafod gydag aelodau'r tîm gofal
  26. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS29

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Hemodialysis, Dialysis Peritoneaidd Symudol Parhaus, CAPD, therapi dialysis