Cynnal, a chwblhau, therapi dialysis i unigolion â mynediad sefydledig

URN: SFHCHS26
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chychwyn, cynnal a chwblhau therapi dialysis, sef hemodialysis a Dialysis Peritoneaidd Symudol Parhaus, ar gyfer unigolion cronig, sefydlog ar ddialysis, sydd â mynediad sefydledig. Gall y therapi ddigwydd mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys cartref yr unigolyn, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad gofal arall.

Ni fwriedir i'r safon hon gynnwys achosion acíwt ac nid yw'n cynnwys gosod, cysylltu, monitro na datgysylltu canwlâu a chathetrau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. gwirio pwy yw'r unigolyn ac yna cadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
  9. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  10. cadarnhau bod cyfarpar a deunyddiau dialysis yn briodol i'r weithdrefn ac yn addas i'r diben
  11. cychwyn dialysis yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
  12. adnabod unrhyw broblemau â'r safle mynediad ar gyfer dialysis yn brydlon a chymryd camau priodol heb oedi
  13. monitro cynnydd y dialysis yn effeithiol ac addasu'r broses yn gywir yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
  14. cymryd mesuriadau ffisiolegol yn gywir gan ddefnyddio'r dechneg a'r cyfarpar cywir ar amseroedd priodol yn ôl y cynllun gofal
  15. ceisio cyngor ar unwaith os bydd unrhyw newid neu ddigwyddiad annisgwyl i'w weld yn y darlleniadau ffisiolegol
  16. dehongli'r mesuriadau yn gywir, eu cofnodi'n gywir gan ddefnyddio'r fformat gofynnol a rhoi gwybod i'r aelod priodol o'r tîm gofal amdanynt
  17. rhoi gwybod i aelod priodol o'r tîm gofal yn ddi-oed os nad ydych chi'n gallu cael y mesuriad yn y ffordd a nodwyd
  18. cofnodi unrhyw newid annisgwyl yn ymddygiad neu gyflwr yr unigolyn, neu ym mharamedrau cyfarpar, yn gywir a rhoi gwybod i'r person priodol amdanynt heb oedi
  19. rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai fod yn arwydd o adwaith niweidiol i ddialysis a chymryd y camau sy'n briodol i gyflwr yr unigolyn
  20. cwblhau'r dialysis yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r hyn sydd wedi'i nodi yn y cynllun gofal
  21. datgysylltu'r cyfarpar dialysis o'r unigolyn yn ddiogel ac yn gywir, ac yn unol â chyfarwyddiadau a phrotocolau'r gwneuthurwr
  22. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gyflawni a chwblhau therapi dialysis i unigolion â mynediad sefydledig a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. anatomeg arferol yr aren a ffisioleg hidlo'r gwaed a ffurfio wrin
  14. egwyddorion trylediad ac osmosis yn gysylltiedig â dialysis
  15. cydbwysedd hylifau ac electrolytau
  16. y rhesymau dros ymgymryd â dialysis
  17. y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cynllun gofal
  18. sut i adnabod gwrtharwyddion sy'n golygu y dylech geisio cyngor cyn parhau â pharatoi unigolion
  19. y mathau o gymorth emosiynol a chorfforol y gall fod ar unigolion gwahanol eu hangen yn ystod ac yn dilyn dialysis
  20. y mathau o newid a all ddigwydd i unigolion – yn gorfforol ac yn emosiynol – a pham mae'n bwysig adnabod unrhyw newidiadau a rhoi gwybod amdanynt
  21. pa wybodaeth y mae angen ei chofnodi ac y mae angen rhoi gwybod amdani yn gysylltiedig â pharatoi unigolion ar gyfer dialysis
  22. pa agweddau ar ddialysis y mae angen eu monitro a'u haddasu
  23. pa fesuriadau ffisiolegol y mae angen eu mesur ym mha gam(au) o'r dialysis, pam mae'n bwysig cymryd y mesurau ffisiolegol perthnasol, a pham mae angen eu cofnodi ar yr amseroedd sydd wedi'u nodi yn y cynllun gofal
  24. yr amrywiaeth o ganlyniadau y byddai'n cael eu disgwyl ar gyfer gwahanol unigolyn, beth sy'n cael ei ystyried yn ganlyniad annormal
  25. pam y dylid rhoi gwybod ar unwaith am ganlyniadau annisgwyl neu annormal a sut gall y mesuriadau a gafwyd effeithio ar y therapi yr ymgymerir ag ef
  26. sut gallai unigolion a phobl berthnasol eraill gael eu cynnwys wrth gymryd mesuriadau a pham mae'n bwysig eu hannog i gymryd rhan
  27. yr adweithiau niweidiol cyffredin i ddialysis, sut i adnabod y rhain a pha gamau i'w cymryd os byddant yn digwydd
  28. y pryderon cyffredin posibl sydd gan unigolion ynghylch dialysis a'r ffordd y mae'n effeithio ar eu bywyd
  29. pwysigrwydd amseru ar gyfer dialysis, a pham y gallai hyd y therapi gael ei newid yn y cynllun gofal
  30. natur a swyddogaeth peiriannau hemodialysis a chyfarpar cysylltiedig, y gwahanol fathau o beiriant sydd ar gael a'u manteision a'u hanfanteision i gyflyrau ac anghenion gwahanol unigolion
  31. y cyfarpar a ddefnyddir mewn dialysis peritoneaidd a sut mae'r dull dialysis hwn yn gweithio
  32. gwahanol fathau a safleoedd mynediad dialysis sydd gan unigolion a manteision ac anfanteision bob un ohonynt
  33. y rhesymau pam:

    • mae angen cyflenwad dŵr diogel, wedi'i drin, ar gyfer hemodialysis
    • mae'n rhaid defnyddio hylifau di-haint penodol ar gyfer dialysis peritoneaidd 
  34. sut i wirio p'un a yw'r peiriannau a'r cyfarpar dialysis cysylltiedig yn gweithredu'n gywir

  35. gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion a phroblemau eraill gyda chyfarpar a deunyddiau
  36. pa baramedrau y mae'n rhaid eu gosod ar beiriannau hemodialysis yn ôl cynllun gofal pob unigolion a dulliau o osod rheolyddion
  37. y mathau o broblemau mynediad a all ddigwydd, sut i'w hadnabod nhw a pha gamau i'w cymryd
  38. y technegau a'r cyfarpar i'w defnyddio ar gyfer cymryd y gwahanol fesuriadau ffisiolegol
  39. sut i ddatgysylltu'r unigolyn o'r dialysis
  40. sut i lanhau a/neu ddiheintio peiriannau a chyfarpar, gan gynnwys pa ddeunyddiau a thechnegau glanhau i'w defnyddio
  41. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS26

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Dialysis, therapi, mynediad, cwblhau