Galluogi unigolion i ddefnyddio dyfeisiau cynorthwyol a thechnoleg gynorthwyol

URN: SFHCHS239
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â gweithio gydag unigolion, eu gofalwyr ac aelodau eraill tîm amlddisgyblaethol, lle y bo’n briodol, i alluogi unigolion i ddefnyddio dyfeisiau a thechnoleg gynorthwyol. Dylai hyn ddigwydd o fewn athroniaeth galluogi a hybu hunanofal, gofal integredig, hunanreolaeth ac annibyniaeth. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. esbonio sut gall y ddyfais gynorthwyol gael ei defnyddio er budd yr unigolyn sy'n cael ei gefnogi
  10. cadarnhau bod y ddyfais a'r dechnoleg gynorthwyol yn ddiogel ac yn addas i'w diben cyn ei defnyddio
  11. cymryd y camau priodol os bydd y ddyfais neu'r dechnoleg yn ddiffygiol
  12. cael gwared ar beryglon posibl yn yr amgylchedd uniongyrchol o ystyried cyfyngiadau'r lleoliad, a'u lleihau
  13. esbonio wrth unigolion a gofalwyr am ddefnydd diogel, gofynion gweithredu a chynnal a chadw'r ddyfais a'r dechnoleg gynorthwyol
  14. sicrhau bod yr unigolyn yn deall beth i'w wneud os bydd y ddyfais neu'r dechnoleg yn ysgogi unrhyw rybuddion a beth i'w wneud os bydd y ddyfais neu'r dechnoleg yn methu
  15. cynnig adborth, anogaeth a chymorth priodol i unigolion yn gysylltiedig â defnyddio'r ddyfais neu'r dechnoleg
  16. monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y ddyfais a'r dechnoleg gynorthwyol i'r unigolyn ac addasu'ch dull, fel y bo'r angen
  17. cytuno ar gyfnodau profi ac adolygu perthnasol i gydlynu'r cynllun triniaeth a datblygu galluoedd llawn ar gyfer defnyddio'r ddyfais a'r dechnoleg gynorthwyol
  18. rhoi gwybod yn gywir am unrhyw ddigwyddiad anffafriol yn unol â gofynion y sefydliad
  19. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. sut i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm amlddisgyblaethol ac ar draws asiantaethau gwahanol
  12. pwysigrwydd myfyrio ar eich ymarfer a'i berthynas â datblygiad proffesiynol parhaus
  13. pwysigrwydd rhoi adborth ac anogaeth i'r unigolyn
  14. pwysigrwydd rhoi gwybod i unigolion am eu cynnydd
  15. yr effaith gaiff yr amgylchedd ar y defnydd o ddyfeisiau cynorthwyol a'u diogelwch, a pham mae'n bwysig esbonio hyn i'r unigolyn
  16. yr ystod o ddyfeisiau cynorthwyol a'r systemau a'r gweithdrefnau cysylltiedig ar gyfer eu darparu
  17. sut i sicrhau bod y dyfeisiau cynorthwyol yn ddiogel ac yn addas i'w defnyddio
  18. y manylebau priodol a'r cyfyngiadau ar ddefnydd ar gyfer pob math o ddyfeisiau cynorthwyol
  19. pwysigrwydd gwneud yr amgylchedd yn ddiogel ar gyfer defnyddio dyfeisiau cynorthwyol penodol a dulliau o wneud hynny
  20. pwysigrwydd rhoi gwybod am gynnydd, diffygion mewn dyfeisiau cynorthwyol a digwyddiadau andwyol ar unwaith
  21. ystod o dechnegau cyfathrebu sy'n briodol i'r unigolyn i helpu gyda chymhelliad wrth ddefnyddio dyfeisiau neu dechnoleg gynorthwyol
  22. pwysigrwydd profi dyfeisiau cynorthwyol yn amgylchedd y defnyddiwr
  23. sut i brofi ac addasu dyfeisiau cynorthwyol i fodloni anghenion unigol
  24. yr ystod o ddyfeisiau cynorthwyol, eu systemau cysylltiedig a'u diben
  25. yr egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig â gosod dyfeisiau neu dechnoleg benodol
  26. ble i gael gafael ar wybodaeth yn gysylltiedig â'r ystod o ddyfeisiau cynorthwyol, systemau cysylltiedig a diben
  27. y protocolau a'r systemau o fewn y sefydliad yn gysylltiedig ag ymateb i rybuddion sy'n cael eu hysgogi gan y dyfeisiau neu'r dechnoleg
  28. pam mae'n bwysig bod dogfennaeth am ddefnyddio a chynnal a chadw dyfeisiau cynorthwyol yn cael ei rhoi i'r unigolyn neu ei deulu/gofalwr
  29. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS239

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Galluogi, unigolion, defnyddio, dyfeisiau, technoleg, cynorthwyol