Cyflawni pibellu mewnwythiennol

URN: SFHCHS22
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud yn benodol â gosod pibell (canwla) mewnwythiennol i gael mynediad at system y gwaed at ddibenion triniaeth neu wneud diagnosis.  Gall fod angen cael mynediad ar gyfer samplo cyfresol, neu i roi hylif neu driniaethau cyffuriau.  Gellir cyflawni’r weithdrefn hon  gydag oedolion neu blant a bydd yn digwydd fel arfer mewn ysbyty, gydag unigolion sy’n derbyn gofal iechyd. Hefyd, gall ddigwydd mewn sefyllfa therapiwtig, ymchwil neu argyfwng.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
  8. pennu angen yr unigolyn neu gais clinigol am bibellu yn erbyn y protocol cytunedig
  9. gwirio pwy yw'r unigolyn ac yna cadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
  10. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  11. ceisio cyngor a chymorth clinigol gan aelod priodol o'r tîm pan fydd digwyddiadau neu risgiau y tu hwnt lefel eich cymhwysedd chi
  12. dewis safle priodol ar gyfer pibellu, gan gyfrif am gysur a symudedd yr unigolyn
  13. paratoi'r safle a ddewiswyd ar gyfer mewnosod aseptig y bibell fewnwythiennol gan ddilyn protocol cytunedig, gan roi'r anesthetig lleol priodol os caiff ei ragnodi
  14. gosod rhwymyn tynhau yn ei safle cywir a'i ddefnyddio i ymlenwi'r wythïen a ddewiswyd â gwaed
  15. dewis y canwla o'r maint a'r math cywir i'r unigolyn ac i'r diben, gan sicrhau ei fod yn addas i'w ddefnyddio
  16. mewnosod y canwla i'r wythïen a ddewiswyd gan ddefnyddio'r dechneg a gymeradwywyd a chadarnhau safle a gosodiad cywir y canwla at y diben bwriadedig, a bod cyflwr y canwla yn gywir
  17. gosod gorchudd cymeradwy i ddal y canwla yn ei le
  18. lle y bo'n briodol, golchi'r canwla pan fydd yn ei le, yn unol â phrotocolau a chanllawiau'r sefydliad
  19. clymu a sicrhau'r set roi gywir pan fydd angen trwytho, gan ddilyn gweithdrefnau cymeradwy
  20. rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai fod yn arwydd o adweithiau niweidiol i'r weithdrefn a chymryd y camau priodol
  21. cynnal safle'r canwla yn rheolaidd i osgoi haint a chynnal mynediad
  22. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gyflawni pibellu mewnwythiennol a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. ymarfer cyfredol seiliedig ar dystiolaeth sy'n ymwneud â rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â mewnosod canwlâu mewnwythiennol
  14. pwysigrwydd cynnal asepsis llym wrth baratoi, mewnosod a rheoli canwlâu mewnwythiennol
  15. anatomeg a ffisioleg system cylchrediad y gwaed yn gysylltiedig â mewnosod a chynnal canwlâu mewnwythiennol
  16. pwysigrwydd paratoi unigolion a'u gosod yn gywir ar gyfer mewnosod canwlâu mewnwythiennol
  17. yr arwyddion ar gyfer pibellu mewnwythiennol a'r rhesymau drosto
  18. safleoedd posibl i fewnosod canwlâu mewnwythiennol a sut i nodi'r safle mwyaf addas i'r unigolyn
  19. y ffactorau sy'n dylanwadu ar y dewis o ganwlâu a'r safle ar gyfer pibellu mewnwythiennol
  20. pwysigrwydd atal y breichiau a'r coesau rhag symud cyn mewnosod canwlâu mewnwythiennol
  21. pwysigrwydd paratoi'r croen yn briodol, gan gynnwys defnyddio hufen tynnu blew os bydd angen
  22. pwysigrwydd rheoli ac atal llif gwaed cyn pibellu mewnwythiennol, a dulliau cymeradwy o wneud hynny
  23. adweithiau niweidiol posibl i fewnosod canwlâu mewnwythiennol
  24. y camau y bydd angen i chi eu cymryd os bydd adweithiau niweidiol i fewnosod canwlâu mewnwythiennol
  25. pwysigrwydd glanhau a chynnal safle'r canwla yn dilyn gosod canwlâu, a dulliau o wneud hynny
  26. dangosyddion clinigol haint wrth y safle mewnosod a'r camau y byddech chi'n eu cymryd os bydd arwyddion o haint yn amlwg
  27. goblygiadau cyflwyno hylifau i system cylchrediad y gwaed wrth olchi'r canwla
  28. y dulliau cymeradwy o wirio cyflwr y canwla sydd wedi'i fewnosod
  29. y gweithdrefnau ar gyfer paratoi hylifau i'w rhoi, gan gynnwys ychwanegu cyffuriau
  30. y cymhlethdodau posibl sy'n gysylltiedig â rhoi hylif
  31. y gwahanol fathau o setiau rhoi sydd ar gael a'r amgylchiadau y gall pob un ohonynt gael eu defnyddio ynddynt
  32. y defnydd o bympiau trwytho a'r peryglon posibl sy'n gysylltiedig â'r defnydd ohonynt
  33. y mathau o ganwla a'r amrywiaeth o feintiau sydd ar gael
  34. y mathau o drwyth sydd ar gael a'u nodweddion, eu rhybuddion a'u gwrthrybuddion
  35. y gwahanol fathau o bympiau trwytho sydd ar gael a'r amgylchiadau y gallant gael eu defnyddio ynddynt
  36. pwysigrwydd cofnodi'ch gweithgareddau'n gywir, gan gynnwys y math o ganwla a fewnosodwyd a'r hylifau mewnwythiennol a roddwyd
  37. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS22

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Pibellu, mewnwythiennol