Ymgymryd â mesuriadau clinigol arferol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chymryd a chofnodi mesuriadau clinigol arferol i sefydlu gwaelodin ar gyfer cymariaethau yn y dyfodol neu fel rhan o gynllun gofal yr unigolyn. Mae'n rhaid bod cofnodi mesuriadau o'r fath yn cyfrif am gyflwr cyffredinol yr unigolyn. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich gallu i wneud y mesuriadau clinigol hyn yn gywir, neu os ydych chi'n ansicr o gwbl am eich cofnodion, mae'n bwysig eich bod chi'n gofyn i aelod cymwys arall o'r staff wirio'ch cofnodion i sicrhau bod y camau gweithredu cywir yn gallu cael eu cymryd ar unwaith.
Gellir gwneud y gweithgareddau hyn mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys wardiau ysbyty ac adrannau eraill, gan gynnwys cleifion allanol, cartrefi nyrsio, cartref yr unigolyn ei hun a meddygfeydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer rheoli ac atal heintiau a chymryd unrhyw gamau iechyd a diogelwch angenrheidiol eraill
- gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
- rhoi gwybodaeth, cymorth a sicrwydd perthnasol i'r unigolyn mewn modd sy'n sensitif i'w anghenion a'i bryderon
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- mesur ar yr adeg a nodwyd ac yn y drefn a nodwyd
- defnyddio'r cyfarpar priodol mewn ffordd sy'n cael mesuriad cywir
- gofyn i aelod staff arall gofnodi'r mesuriad eto os nad ydych chi wedi gallu cael darlleniad neu os nad ydych chi'n siŵr o'r darlleniad
- gwylio'r unigolyn trwy gydol y gwaith mesur
- adnabod ac ymateb ar unwaith os bydd unrhyw newidiadau arwyddocaol yng nghyflwr yr unigolyn
- adnabod a rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw fesuriad sydd y tu hwnt i lefelau normal
- glanhau cyfarpar a ddefnyddiwyd a'i roi'n ôl yn ei fan storio arferol ar ôl ei ddefnyddio
- cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth ymgymryd â mesuriadau ffisiolegol a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- pam mae'r mesuriadau clinigol yn angenrheidiol a phwysigrwydd eu gwneud yn unol â'r cyfarwyddyd
- pam mae angen addasu dillad a/neu newid safle'r unigolyn ar gyfer rhai mesuriadau clinigol
- pryderon posibl rhai unigolion yn gysylltiedig â rhai mesuriadau clinigol
- yr amrywiaeth o gyfarpar a diben y cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gwahanol fesuriadau
- pwysigrwydd sicrhau bod cyfarpar wedi'i baratoi'n briodol
- cyflyrau cyffredin sy'n gofyn am gofnodi mesuriadau ffisiolegol
- sut mae pwysedd gwaed yn cael ei gynnal
- y gwahaniaeth rhwng pwysedd gwaed systolig a diastolig, a beth sy'n digwydd i'r galon ym mhob darlleniad
- terfynau arferol pwysedd gwaed
- cyflyrau lle y gall pwysedd gwaed fod yn uchel neu'n isel
- sut mae tymheredd y corff yn cael ei gynnal
- beth yw tymheredd arferol y corff
- beth yw ystyr gwres (pyrecsia), gordwymyn a hypothermia
- beth yw'r gyfradd resbiradol arferol
- beth sy'n effeithio ar gyfraddau resbiradol mewn unigolion sy'n sâl ac mewn unigolion sy'n iach
- terfynau arferol cyfraddau pwls
- beth sy'n effeithio ar gyfraddau pwls – ei godi a'i ostwng
- y safleoedd ar y corff lle y mae pwyntiau pwls
- pam mae angen mesur ocsimetreg pwls unigolyn
- y canfyddiadau wrth gael ocsimetreg pwls, a goblygiadau'r canfyddiadau hyn
- beth yw BMI a sut mae'n cael ei ddefnyddio wrth reoli pwysau/diet
- y ffactorau sy'n dylanwadu ar newidiadau mewn mesuriadau clinigol
- pwysigrwydd cofnodi pob gwybodaeth yn glir ac yn fanwl gywir yn y ddogfennaeth berthnasol, gan gynnwys p'un ai a yw'r unigolyn yn cael ocsigen
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel