Storio sbesimenau a samplau

URN: SFHCHS186
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn un eang ei chymhwysiad sy’n delio â storio sbesimenau a samplau cyn neu ar ôl eu paratoi a naill ai cyn neu ar ôl cwblhau ymchwiliadau diagnostig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfleu gwybodaeth i eraill yn glir, yn gywir ac yn amserol
  6. sicrhau bod y dynodwr unigryw ynghlwm wrth y sbesimen/sampl a'i dogfennaeth ac y caiff ei gadw trwy gydol oes y sbesimen/sampl
  7. sicrhau bod y 'gadwyn warchodaeth' yn cael ei chynnal, lle y bo'n briodol
  8. nodi sbesimenau/samplau sydd â gofynion storio neu gadw arbennig a sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd
  9. storio'r sbesimen/sampl yn unol â gofynion y sefydliad
  10. adnabod ac ymateb yn briodol pan fydd methiant amodau storio yn peryglu uniondeb sbesimen/sampl
  11. monitro a chofnodi'r amodau storio i fodloni meini prawf ansawdd a llwybr archwilio
  12. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  13. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  8. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  9. pwysigrwydd y dynodwyr unigryw
  10. adnabod mathau o sbesimenau, samplau sylfaenol ac eilaidd a chynwysyddion addas
  11. pwysigrwydd dewis cynwysyddion priodol ar gyfer gwahanol fathau o sbesimenau/samplau a'u storio'n ddiogel
  12. y lleoliad cywir ar gyfer storio gwahanol fathau o sbesimenau/samplau a llwybrau prosesu
  13. ffactorau sy'n effeithio ar gyflwr sbesimenau/samplau yn ystod eu storio
  14. y camau i'w cymryd pan fydd methiant systemau yn peryglu uniondeb sbesimen
  15. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS186

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Storio, sbesimenau, samplau