Darparu gwybodaeth a chyngor i unigolion ar fwyta i gynnal y statws maeth gorau posibl

URN: SFHCHS148
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth i unigolion i gynnal y statws maeth gorau posibl trwy gynnig cyngor a gwybodaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  8. creu amgylchedd sy'n addas ar gyfer trafodaeth onest a chyfrinachol, ac ar gyfer cymryd mesuriadau
  9. cael gwybodaeth gefndir yr unigolyn
  10. cymryd a dehongli mesuriadau perthnasol o'r unigolyn
  11. esbonio'r cysylltiadau rhwng gwahanol fwydydd, grwpiau bwyd a chyfansoddiad maethol
  12. helpu'r unigolyn i asesu ei arferion bwyta a gosod ei amcanion maethol ei hun
  13. rhoi deunyddiau cyngor a chymorth i'r unigolyn sy'n ymhelaethu ar y wybodaeth a roddoch chi, yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr
  14. rhoi cyfleoedd i'r unigolyn ofyn cwestiynau a gwella'i ddealltwriaeth a'i ymwybyddiaeth o'i gynllun maeth
  15. cynghori'r unigolyn ar sut i gadw dyddiadur bwyd, lle y bo'r angen
  16. gosod dyddiadau ar gyfer adolygu'r cynllun maeth, os yw'n briodol
  17. darparu manylion cyswllt y dietegydd cofrestredig
  18. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. effeithiau gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau ar faeth, amseru prydau bwyd, patrymau bwyta
  13. pwysigrwydd annog unigolion i ofyn cwestiynau, a sut i wneud hynny
  14. sut i greu amgylchedd addas ar gyfer trafodaeth onest a chyfrinachol
  15. pwysigrwydd cynnwys unigolion mewn trafodaethau, a sut i wneud hynny
  16. manylion y dietegydd cofrestredig lleol
  17. yr amrywiaeth o wasanaethau yn lleol ac yn genedlaethol i bobl y mae angen gwybodaeth a chymorth arnynt i wneud a chynnal newidiadau yn eu hymddygiad, a sut i gael at y gwasanaethau hyn
  18. pwysigrwydd cael gwybodaeth lawn a chywir am unigolion, a sut i wneud hynny
  19. y modelau a ddefnyddir wrth ddatblygu cynlluniau rheoli pwysau a maeth i'r unigolyn
  20. technegau cyfweld ysgogiadol, a sut i'w defnyddio
  21. anatomeg a ffisioleg a'u perthnasedd i gynnal y statws maeth gorau posibl
  22. organau'r corff a'u swyddogaethau
  23. sut i gymryd mesuriadau perthnasol unigolyn a phwysigrwydd y mesuriadau hyn yn gysylltiedig â rheoli pwysau a maeth
  24. sut i ddehongli mesuriadau a wnaed o unigolyn i lywio'r math o gymorth rydych chi'n ei ddarparu
  25. ystyr lefelau lipidau
  26. pwysigrwydd cylchedd y wasg/canol a thrwch plygiadau'r croen yn gysylltiedig â newid dietegol
  27. sut i ddehongli mesuriadau a wnaed o'r unigolyn i lywio'r math o gymorth rydych chi'n ei ddarparu
  28. y gwerthoedd maethol sy'n cael eu priodoli i wahanol grwpiau bwyd
  29. cynnwys cynllun maeth delfrydol ar gyfer amgylchiadau penodol yr unigolyn
  30. yr opsiynau iachach o fewn grwpiau bwyd gwahanol
  31. gwahanol ddulliau coginio
  32. effeithiau a sgil-effeithiau ychwanegion a chadwolion
  33. amrywiaeth ddiwylliannol a sut y gall hynny effeithio ar y cynllun maeth
  34. ystyriaethau amgylchiadau ariannol/cymdeithasol ar gymeriant maethol
  35. effaith cyflyrau meddygol ychwanegol ar gymeriant maethol
  36. y berthynas rhwng ymarfer corff a rheoli pwysau
  37. sut i gadw dyddiadur bwyd a'i adolygu
  38. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS148

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Darparu, gwybodaeth, cyngor, unigolion, bwyta, statws, maeth, gorau posibl