Rhoi cynhyrchion maeth drwy’r geg i unigolion

URN: SFHCHS147
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch rôl yn paratoi a rhoi cynhyrchion maeth i unigolion, a monitro'r effeithiau.  Mae'r rôl hon yn gymhleth ac ni fydd holl staff gofal yn cyflawni'r rôl, dim ond pobl sydd wedi'u neilltuo i ymgymryd â'r gweithgaredd hwn yn unol â'u harbenigedd a phenderfyniadau'r cyflogwr.

Bwriedir i'r safon hon gael ei defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi nyrsio a phreswyl, hosbisau a lleoliadau cymunedol, gan gynnwys cartref yr unigolyn ei hun a meddygfeydd.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  10. cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau ac unrhyw gamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
  11. gwirio bod yr holl gofnodion neu brotocolau rhoi ar gael a'u bod yn gyfredol ac yn ddarllenadwy
  12. rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau, hepgoriadau neu broblemau uniongyrchol y gallech ddod ar eu traws i'r person perthnasol sy'n rheoli'r rhoi ac i'r staff perthnasol, fel y bo'n briodol
  13. darllen y cofnod rhoi neu'r daflen wybodaeth yn gywir, gan gyfeirio unrhyw gyfarwyddiadau annarllenadwy at yr aelod staff priodol cyn rhoi unrhyw gynhyrchion maeth
  14. gwirio a yw'r unigolyn wedi cymryd unrhyw gynhyrchion maeth yn ddiweddar a bod yn ymwybodol o amseru priodol cynhyrchion maeth
  15. dewis, gwirio a pharatoi'n gywir y cynhyrchion maeth yn ôl y cofnod rhoi neu'r daflen wybodaeth
  16. rhoi'r cynhyrchion maeth yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad ac mewn ffordd sy'n lleihau poen unigol, anghysur a thrawma
  17. gwirio a chadarnhau bod yr unigolyn wir yn cymryd y cynhyrchion maeth
  18. monitro cyflwr yr unigolyn drwyddi draw, adnabod unrhyw effeithiau andwyol a chymryd y camau priodol yn ddi-oed
  19. cynnal diogelwch cynhyrchion maeth trwy gydol y broses a'u dychwelyd i'r man cywir i'w storio
  20. monitro a chylchdroi stociau o gynhyrchion maeth, cynnal amodau storio priodol a rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw anghysondebau mewn stoc i'r staff perthnasol
  21. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  22. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  12. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  13. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth roi cynhyrchion maeth a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  14. pwysigrwydd cynnig cymorth a sicrwydd effeithiol ar lafar ac yn ddieiriau i unigolion, a ffyrdd priodol o wneud hynny, yn unol â'u hanghenion
  15. pwysigrwydd cyfathrebu'n effeithiol a sut gellir goresgyn rhwystrau/anawsterau cyfathrebu
  16. y ffactorau a allai beryglu cysur ac urddas unigolion wrth roi cynhyrchion maeth a sut gellir lleihau'r effeithiau
  17. y mathau cyffredin o gynhyrchion maeth a rheolau ar gyfer eu storio
  18. effeithiau cynhyrchion maeth cyffredin sy'n berthnasol i gyflwr yr unigolyn
  19. cynhyrchion maeth sy'n gofyn am gymryd mesuriadau ffisiolegol penodol a pham mae'r rhain yn hanfodol i fonitro effeithiau cynhyrchion maeth
  20. yr adweithiau anffafriol cyffredin i gynhyrchion maeth, sut i adnabod pob un ohonynt a'r cam(au) priodol sy'n ofynnol
  21. sgil-effeithiau cyffredin y cynnyrch maeth sy'n cael ei ddefnyddio
  22. y wybodaeth y mae angen ei gosod ar label cynhyrchion maeth, sydd wedi'u rhoi ar bresgripsiwn ac fel arall, ac arwyddocâd y wybodaeth
  23. y cymhorthion amrywiol i helpu unigolion i gymryd eu cynhyrchion maeth
  24. y mathau o ddeunyddiau a chyfarpar y mae eu hangen ar gyfer rhoi cynhyrchion maethol drwy'r geg, eu diben a'u swyddogaeth
  25. y ffactorau sy'n effeithio ar y dewis o ddeunyddiau a chyfarpar ar gyfer rhoi cynhyrchion maeth i unigolion
  26. sut i ddarllen presgripsiynau/siartiau rhoi meddyginiaethau i adnabod:

    • y cynnyrch maeth y mae ei angen
    • faint sydd ei angen
    • amser ac amlder ei roi 
  27. sut i baratoi'r cynnyrch maeth i'w roi gan ddefnyddio techneg di-gyffwrdd

  28. sut byddech chi'n gwirio bod yr unigolyn wedi cymryd ei gynnyrch maeth
  29. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  30. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS147

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Rhoi, cynhyrchion, maeth, y geg