Cyflwyno sesiynau ymarfer corff i wella iechyd a lles unigolion

URN: SFHCHS144
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflwyno sesiynau ymarfer corff i unigolion neu grwpiau i helpu gyda chyflawni nodau a thargedau’r unigolyn ar gyfer gwella iechyd. Gellir gwneud hyn mewn amrywiaeth o leoliadau sy’n bodloni gofynion penodedig a phrotocolau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  2. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  3. cyfathrebu â'r unigolion yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  4. paratoi amgylchedd yr ymarfer corff yn unol â gofynion y sefydliad
  5. creu a monitro cynllun ymarfer corff sy'n cynorthwyo unigolion i gyrraedd eu nodau ffitrwydd
  6. strwythuro ac addasu sesiynau ymarfer corff yn ôl anghenion, galluoedd a nodau unigolion, risgiau a nodwyd ac amlder, dwysedd, math ac amseriad arfaethedig y rhaglen
  7. sicrhau bod ymarferion cynhesu ac oeri digonol yn cael eu defnyddio cyn ac ar ôl y brif sesiwn ymarfer corff
  8. dehongli mesurau ymateb i ymarfer corff a rhoi adborth i unigolion ar eu cynnydd tuag at nodau cytunedig
  9. cynnig cymorth i gynorthwyo unigolion i gyflawni'r gweithgareddau ymarfer corff yn gywir ac yn ddiogel, a chyflawni eu nodau
  10. rhoi adborth ac anogaeth i unigolion mewn modd ac ar adegau sy'n hybu'u hyder a'u cymhelliad
  11. cymryd camau priodol i roi'r gorau i'r sesiwn ymarfer corff os bydd yr unigolyn yn dangos arwyddion o ymateb/adwaith anffafriol a chymryd camau gweithredu priodol
  12. cadarnhau canlyniadau'r gweithgaredd gyda'r unigolyn a chytuno ar nodau a thargedau at y dyfodol, ac unrhyw newidiadau i'r rhaglen ymarfer corff sydd wedi'i chynllunio
  13. cynorthwyo'r unigolyn â chynlluniau ar gyfer gweithgareddau pellach ar adegau addas i fodloni anghenion, galluoedd a nodau'r unigolyn
  14. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  5. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  6. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  7. y rhesymau dros gymhelliad gwael a rôl ymarfer corff wrth wella hunan-barch a hunaneffeithiolrwydd
  8. sut i ddarparu adborth adeiladol ac anogaeth trwy gydol y sesiwn ymarfer corff
  9. arwyddion adwaith/ymateb anffafriol i ymarfer corff a pha gamau i'w cymryd
  10. y cyfleusterau a'r gwasanaethau ymarfer corff sydd ar gael yn lleol a'u cost
  11. sut i baratoi amgylchedd yr ymarfer corff yn unol â gofynion y sefydliad
  12. sut i greu a monitro cynllun ymarfer corff sy'n cynorthwyo unigolion i gyrraedd eu nodau ffitrwydd
  13. pwysigrwydd darparu ymarferion cynhesu ac oeri, a'r ymarferion priodol i'w defnyddio i ateb anghenion a galluoedd unigolion
  14. anatomeg a ffisioleg gardiofasgwlaidd sylfaenol ac effeithiau ymarfer corff
  15. y modelau a ddefnyddir wrth gynllunio a datblygu rhaglenni ymarfer corff i unigolion a/neu i grwpiau
  16. ffyrdd o allu addasu'r rhaglenni ymarfer corff i ateb anghenion a galluoedd yr unigolyn
  17. y technegau sy'n cael eu defnyddio i fesur a gwerthuso canlyniadau ymateb yr unigolyn i ymarfer corff
  18. technegau rheoli pwysau a hyfforddi effeithiol sy'n briodol i'w defnyddio gydag unigolion a grwpiau
  19. yr amrywiaeth o gyfarpar ymarfer corff, a defnydd diogel a chywir, diben, galluoedd a chyfyngiadau pob un ohonynt
  20. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS144

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cyflwyno, sesiynau, ymarfer corff, gwella, iechyd, lles